Gweithio gydag Ysgol Gymunedol Dylan Thomas: Cyfweliad gyda Taylor-Jade Garland

Brig: Yr Athro Tess Fitzpatrick, Bryony Green (Ysgol Gymunedol Dylan Thomas), Dr Alexia Bowler. Gwaelod: Y myfyrwyr Taylor-Jade Garland, Emily Hitchman, Lauren Davies.

Mewn partneriaeth ag Ymgyrraedd yn Ehangacha, SAILS/SEA, anfonodd Ieithyddiaeth Gymhwysol nifer o’n myfyrwyr israddedig (Emily Hitchman, Lauren Davies – y ddwy yn yr ail flwyddyn – a Taylor-Jade Garland o’r flwyddyn gyntaf) ar leoliad gwaith llythrennedd gydag Ysgol Gymunedol Dylan Thomasyn Abertawe.

Treuliodd y myfyrwyr 10 wythnos, unwaith yr wythnos, gyda grŵp ar ôl yr ysgol o ddisgyblion blynyddoedd 7 ac 8, gan weithio gyda Miss Bryony Green ar eu sgiliau llythrennedd uwch.Roedd yn gyfle da i’r disgyblion siarad â myfyrwyr ‘go iawn’ o brifysgol ‘go iawn’ a chlywed, o lygad y ffynnon, sut mae bywyd yn y brifysgol mewn gwirionedd! Siaradais i â Taylor-Jade Garland am ei phrofiadau ac arwyddocâd y lleoliad iddi hi.

AB: Pam penderfynaist ti wirfoddoli am y lleoliad?

Taylor-Jade Garland

TG: Cafodd y cyfle i wneud lleoliad gwaith drwy wirfoddoli yn Ysgol Dylan Thomas ei gynnig i fyfyrwyr Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Amcan y lleoliad oedd y byddem yn gweithio gyda’r disgyblion ar eu sgiliau llythrennedd – gan eu helpu i’w mynegi eu hunain yn dda yn eu hysgrifennu. Ond roddem hefyd yn yr ysgol i roi cipolwg iddyn nhw ar addysg uwch – i’w hysgogi a magu eu hyder. Cynhaliwyd y sesiynau dros 10 wythnos, unwaith yr wythnos ar ôl yr ysgol (pum wythnos yn y semester cyntaf a phum wythnos yn yr ail semester). Roedd popeth wedi’i drefnu i gyd-fynd yn dda â’m hastudiaethau. Roeddwn i’n meddwl ei fod yn gyfle ardderchog i gael profiad gwaith i’w ychwanegu at fy CV. Ac roeddwn i’n iawn!

Roedd y syniad eisoes yn apelio ataf yn bersonol (fel myfyriwr y flwyddyn gyntaf oedd heb wneud ‘unrhyw beth’ eto â llawer i’w ddysgu), ond beth oedd yn wirioneddol gyffrous oedd clywed mewn sgwrs gwybodaeth y byddai’r rhaglen yn rhan o gynllun ‘Ymgyrraedd yn Ehangach’. Mae Ymgyrraedd yn Ehangach yn rhaglen allgymorth sy’n targedu myfyrwyr mewn ardaloedd difreintiedig a allai fod â diddordeb mewn addysg uwch, a’r nod yw dangos bod mynd i’r brifysgol YN bosib iddyn nhw.

Fel myfyriwr sy’n dod o ardal perfformiad is, dwi’n gwybod cryn dipyn am ddisgwyliadau isel; pan oeddwn i ym mlwyddyn saith, doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i’n mynd i’r brifysgol. Dyna’r math o ddisgyblion byddem yn eu mentora ar y cynllun. Doedd dim amheuon gen i ac fe wnes i gais yn y fan a’r lle!

Gemau iaith yn Ysgol Gymunedol Dylan Thomas

AB: Beth roeddech chi’n ei wneud bob wythnos?

Yn yr wythnos gyntaf, buon ni’n cynnal gemau hwyl i ddod i’n hadnabod ein gilydd, fel ‘dau ddatganiad gwir ac un celwydd’. Roedd hyn er mwyn i bawb deimlo’n gartrefol a chyflwyno ein hunain i’r bobl ifanc byddem yn gweithio gyda nhw am 10 wythnos ac, wrth gwrs, i ddysgu eu henwau!

Yn yr wythnosau canlynol, buon ni’n helpu’r disgyblion gyda’u sgiliau ysgrifennu, gan gynnwys gwaith creadigol. Fe wnes i annog y grŵp o bump neu chwe myfyriwr roeddwn i’n gweithio gyda nhw i ofyn unrhyw gwestiynau a fyddai’n dod i’w meddyliau: am fywyd yn y brifysgol, addysg neu’r gwaith roeddwn i wedi’i roi iddyn nhw yn y sesiwn honno.

Ar ôl gwyliau’r Nadolig, canolbwyntiodd un o’r sesiynau cyntaf ar helpu’r plant i bori mewn prosbectysau colegau, ac ateb unrhyw gwestiynau newydd a allai fod ganddyn nhw am fynd i’r coleg neu’r brifysgol, rhai nad oedden nhw wedi meddwl amdanynt o’r blaen, neu efallai nad oedden nhw’n teimlo’n gyfforddus yn eu gofyn i rywun mewn awdurdod (fel eu hathro). Roedd llawer o’u cwestiynau’n ymwneud â sut i ymdopi’n ariannol yn y brifysgol ac i ba raddau, os o gwbl, mae’r benthyciadau ariannol yn helpu.

AB: Sut wnes ti elwa o’r profiad yn Ysgol Dylan Thomas?

Dysgu am Ramadeg Saesneg

TG: Un o’m rhesymau dros wirfoddoli am y cynllun yn Ysgol Dylan Thomas oedd y ffaith bod pawb yn cymryd yn ganiataol mai athrawes fydda i ar ôl graddio. Dyna un o’r cwestiynau mwyaf cyffredin mae pobl yn eu gofyn i mi ers i mi ddechrau’r brifysgol: “Felly, ti’n mynd i fod yn athrawes?” Dyna’r ymateb yn syth ar ôl i mi ddweud mod i’n astudio Saesneg. Felly, roeddwn i’n  teimlo ei bod yn  rhesymegol cael rhagflas ar addysgu i weld a ydw i’n hoffi’r swydd.

Mewn egwyddor, roedd y cynllun yn swnio’n wych (ac roedd yn wych). Fodd bynnag, doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa mor nerfus byddwn i wrth fynd i mewn i ystafell ddosbarth mewn unrhyw amgylchiadau heblaw am fod yn ddisgybl. Roedd yn brofiad brawychus bod yn destun sylw dros 20 pâr o lygaid! Roeddwn i’n gwybod, mewn egwyddor, na fyddwn i’n gyfrifol ar fy mhen fy hun am eu haddysgu. Roedd gennym ni fwy o rôl ‘tiwtora’ a chynorthwyo’r athro. Dwi’n meddwl bod y lleoliad wedi bod o gymorth mawr i mi wrth ddelio â sefyllfaoedd lle nad ydw i’n 100% yn gyfforddus. Felly, dwi’n meddwl fy mod i wedi datblygu’n berson sy’n addasu i sefyllfaoedd newydd yn llawer mwy cyflym.

Un peth sy’n sicr yw bod Ysgol Dylan Thomas wedi fy helpu’n bendant i ddatblygu a mireinio’r sgiliau fydd eu hangen arnaf yn y dyfodol. Ac mae’r lleoliad gwaith yn Ysgol Dylan Thomas wedi rhoi cyfle i mi weld a ydw i’n hoffi’r proffesiwn hyd yn oed. Ac ydw: Dwi’n meddwl fy mod i’n mynd i fod yn athrawes!

***

Edrychwn ymlaen at anfon ein grŵp nesaf o fyfyrwyr i’r ysgol, ac at yr ymweliadau â ni a’r diwrnodau rhagflas gallwn eu trefnu ar gyfer disgyblion Ysgol Gymunedol Dylan Thomas.

Diolch YN FAWR i’n partneriaid: Ysgol Gymunedol Dylan Thomas yn y Cocyd, Abertawe, am gynnig lleoliad i’n myfyrwyr; tîm Ymgyrraedd yn Ehangach a SAILS/SEA yn y Brifysgol am hwyluso’r lleoliad a’n cefnogi drwy gydol yr amser! Rydym wedi dwlu ar weithio gyda chi i gyd.

css.php