Swansea Linguistics Journal

Roedd amserlen brysur iawn gan fyfyrwyr y flwyddyn olaf eleni.Er eu bod yn gweithio’n galed ar eu traethodau hir ac yn cyflwyno eu darnau olaf o waith cwrs, yn ogystal â chwilio am swyddi, roedd gan nifer ohonynt amser i sefydlu’r cyfnodolyn cyntaf gan fyfyrwyr Ieithyddiaeth Gymhwysol a disgyblaethau sy’n ymwneud ag ieithoedd.

Roedd y broses o greu tîm golygyddol, llunio’r meini prawf ar gyfer cyflwyniadau a chyhoeddi’r alwad am bapurau ar gyfer y cyfnodolyn a enwyd (yn briodol iawn) yn Swansea Linguistics Journalyn bell o fod yn waith hawdd.Fodd bynnag, o’r cam cyntaf i’r lansiad, bu’r staff yn rhyfeddu ar egni, gweledigaeth a chreadigrwydd y myfyrwyr dro ar ôl tro.

Wrth lansio’r cyfnodolyn yn y Symposiwm Traethodau Hir, roedd y tîm golygyddol yn awyddus i rannu eu profiadau o’r fenter hon â ni, gan obeithio y byddai rhai o’n myfyrwyr eraill â diddordeb mewn cyfrannu! Dyma’r hyn oedd ganddynt i’w ddweud:

Michaela Hartwell

Y flwyddyn hon oedd blwyddyn olaf fy ngradd, ac roeddwn i’n ddigon ffodus i fod yn rhan o’r tîm a sefydlodd y cyfnodolyn cyntaf gan fyfyrwyr Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe. Fel golygydd, roeddwn i’n  gyfrifol am gydgysylltu â chyfranwyr yr erthyglau; trefnu’r dyddiadau cau a dosbarthu gwaith i bob aelod o’r tîm, a sicrhau bod pob erthygl yn cael ei golygu i safon uchel. Roeddwn i hefyd yn rhannu rôl y Rheolwr Dylunio â’m cyd-fyfyriwr, Georgie Winters, a ddyluniodd ein holl logos, tra roeddwn i’n gyfrifol am ddatblygu’r wefan a chreu’r templed ar gyfer y cyfnodolyn. Rhoddodd y rolau hyn gyfle gwych i mi weithio ar fy sgiliau rhyngbersonol, trefnu a chreadigol yn ogystal â darparu profiad rheoli gwerthfawr i mi.

Deilliodd y syniad am gyfnodolyn o ddyhead i gydnabod gwaith myfyrwyr, ac arweiniwyd y prosiect gan fyfyrwyr o’r cychwyn cyntaf – cafodd ei ysgrifennu, ei olygu a’i ddylunio gan fyfyrwyr. Roedd gennym groestoriad eang o waith, yn rhoi sylw i israddedigion, ôl-raddedigion ac adran ar gyfer darlithwyr. Roedd y pynciau’n amrywio o ddulliau addysgu, astudiaethau tafodiaith ac effeithiau oedran ar gof gweithio. Mae’n gyflawniad amryddawn. Ein breuddwyd yw y bydd y cyfnodolyn yn ysbrydoli myfyrwyr y dyfodol i gyflawni hyd eithaf eu gallu, ac y bydd yn rhoi cyfrwng iddynt ymfalchïo yn y gwaith hwnnw a’i ddangos i’r byd ehangach.

Roeddem wedi rhagdybio y byddai’n dipyn o her cael digon o erthyglau gan fyfyrwyr, ond cawsom lif o gyfraniadau! Roedd yn brofiad gwych eu prawfddarllen i gyd (roedd yr holl fanylion personol wedi’u dileu er mwyn osgoi rhagfarn), a gweithio fel tîm i benderfynu pa bapurau i’w cyhoeddi a pham roeddem wedi’u dewis. Er gwaethaf rhai problemau cychwynnol wrth greu’r wefan, penderfynu ar enw a fyddai’n apelio at bawb a threfnu cyfarfodydd i gyd-fynd ag amserlenni pawb, ymhen dim amser, roedd gennym drefn, ac aeth pethau’n hwylus iawn wedi hynny! Byddwn yn eich argymell yn gryf i gyfrannu at ail rifyn y cyfnodolyn, naill ai drwy gyflwyno gwaith neu fod yn rhan o’r tîm ei hun!

Rachel Sanders

Pam cyfnodolyn? Pan ddechreuais fy ngradd yn 2015, sylweddolais nad oedd llawer o weithgarwch myfyrwyr yn ein maes pwnc y tu allan i’r dosbarth. Roeddwn i am gychwyn rhywbeth a fyddai’n helpu myfyrwyr i greu mwy o ymdeimlad o gymuned, ond hefyd rhywbeth a fyddai’n ganolbwynt ysbrydoliaeth ac uchelgeisiau ar gyfer eu hastudiaethau.

Roedd yn her fawr ar y dechrau oherwydd a) nad oeddwn i wedi gwneud dim byd tebyg o’r blaen a doedd gen i ddim clem lle i ddechrau a b) y farn gyffredinol oedd ‘pam mynd i gymaint o drafferth?’ Roeddwn i’n gwybod byddai’n rhaid i mi ymchwilio i ddechrau i sut i sefydlu a rhedeg cyfnodolyn. Yn ail, roedd angen argyhoeddi pawb (staff a myfyrwyr) ei fod yn syniad da. Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael cymorth o ddau gyfeiriad gwahanol: Rhoddodd Amy Megson, sy’n brif olygydd Gorffennol, cyfnodolyn Hanes Prifysgol Abertawe, oriau o gyfarfodydd amhrisiadwy i mi, gan fy helpu i ddeall y strwythur a’r drefniadaeth angenrheidiol i redeg cyfnodolyn, ac fe wnaeth Alexia Bowler (darlithydd yn yr adran Ieithyddiaeth Gymhwysol) fy helpu i ddyfeisio ffyrdd o gysylltu â staff a myfyrwyr).

Ar ôl i ni roi’r syniadau sylfaenol yn eu lle, roedd angen i ni ddod o hyd i dîm. Yn dilyn ymgyrch recriwtio fer, cafodd Swansea Linguistics Journalei sefydlu’n swyddogol. Yr her nesaf oedd annog cyflwyniadau. Fodd bynnag, doedd dim rhaid i ni boeni am hyn, oherwydd daeth mwy o gyflwyniadau i law nag yr oedd gennym le i’w cyhoeddi – mae’n amlwg bod gweddill y myfyrwyr yn rhannu’r dyhead am gyfnodolyn! Ar ôl i ni gasglu’r holl gyflwyniadau a phenderfynu ar y rhai i’w cyhoeddi, aeth y tîm i’r afael â’r gwaith dylunio a chyhoeddi a lansiwyd ein rhifyn cyntaf erioed yn ystod y digwyddiad arddangos traethodau hir ym mis Mai.

Mae’r cyfnodolyn wedi bod yn daith wych, sydd wedi addysgu llwyth o sgiliau i ni, o drefnu, cysylltiadau cyhoeddus, cyhoeddi, dylunio, prawfddarllen, golygu a rheoli’r cyfyngau cymdeithasol! Mae’r rhain i gyd yn sgiliau gwych i’w rhoi ar eich CV.

Y flwyddyn nesaf, bydd tîm newydd yn gyfrifol am y cyfnodolyn, gan y byddwn ni i gyd wedi gadael am borfeydd newydd, ond gobeithio y bydd yn parhau i dyfu a datblygu’n elfen sefydlog o brofiad Ieithyddiaeth Gymhwysol yn Abertawe!

***

Graddiodd Michaela â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf ac mae wrthi’n pacio i gychwyn ar daith feicio + / – 2500km ar ei phen ei hun o Hanoi i Ddinas Ho Chi Minh, Fietnam. Gallwch ddilyn ei hanturiaethau yn www.wanderwomanadventures.co.uk (byddai wrth ei bodd pe gallech danysgrifio!).

 

Mae Rachel yn symud i Brifysgol Reading i ddechrau gradd Meistr a byw ar gwch camlas!

 

Diolch yn fawr i Michaela a Rachel, sydd wedi treulio amser yn ysgrifennu’r darn hwn (a darnau eraill) ymaac ymaar gyfer blog yr adran ac am eich holl waith caled dros y blynyddoedd. Dymunwn bob lwc i chi yn y dyfodol! Dewch yn ôl i’n gweld ni!

 

Os oes gan unrhyw fyfyrwyr ddiddordeb mewn ymuno â’r tîm a/neu gyflwyno i’r cyfnodolyn, gallwch gysylltu â’n recriwtiaid newydd cyntaf, Atlee ac Ashley, yn: lingjournalswansea@gmail.com

 

css.php