Y Gyfres Cyflogadwyedd: Appen, yn ymweld ag Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol Prifysgol Abertawe, gan Carlie Andrews a Alexia Bowler

Chwith: Rosie Laszar, Dde:: Sarah Lowe

Fel rhan o’n cyfres ar gyflogadwyedd, ein hymwelwyr olaf y semester oedd Sarah Lowe (Is-lywydd Adnoddau Iaith yn y Deyrnas Unedig) a Rosie Lazar (Rheolwr Prosiect Ieithyddol) o’r darparwr gwasanaethau iaith, Appen. Mae Appen yn un o’r arweinwyr byd-eang ym maes datblygu setiau data ansawdd uchel wedi’u harnodi gan bobl ar gyfer dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial. Siaradon nhw â’r staff a’r myfyrwyr am y cwmni, ei waith a rolau posib i raddedigion gydag Appen ac yn y maes ehangach lle mae gwybodaeth ieithyddol yn sgil allweddol mae cyflogwyr yn galw amdani.

Felly, roedd yn bleser mawr gennym groesawu Sarah a Rosie i adran Ieithyddiaeth Prifysgol Abertawe i siarad am Appen. Roedd yn gyfle prin a gwerthfawr i ddysgu am eu sefydliad, yn ogystal â chyfle i’n myfyrwyr dderbyn gwybodaeth ddefnyddiol am yrfaoedd a chyflogadwyedd.

 

Ynglŷn â’r cwmni

Sefydlwyd Appen yn Awstralia ym 1996 ac mae wedi ehangu i fod yn gorfforaeth fyd-eang flaenllaw sy’n cael ei chydnabod am ddarparu technoleg cymorth iaith i nifer sylweddol o gleientiaid nodedig. Yn wir, maent yn bartner yr ymddiriedir ynddo rhai o’r cwmnïau technoleg mwyaf, ac maen nhw’n gweithio mewn dros 130 o wledydd, gan ymdrin â 180 o ieithoedd. Ar  ben hynny, mae ganddynt fwy na 200 o gleientiaid sy’n amrywio o adrannau ac asiantaethau Llywodraeth y DU, heddluoedd y DU a thramor, awdurdodau lleol a chynghorau i gwmnïau cyfreithiol, sefydliadau corfforaethol ac asiantaethau dyngarol rhyngwladol. I ddechrau, eu prif faes gwaith oedd trawsgrifio ac arnodi data clywedol ond, ers dechrau 2018, maent hefyd wedi dechrau gweithio ar arnodi data fideo. Maent yn ymfalchïo mewn bod yn gwmni sydd, yng ngeiriau Rosie, “yn croesi ffiniau ieithoedd, daearyddiaeth, dulliau casglu a gwerthoedd data.”

myfyriwr Ieithyddiaeth Gymhwysol yn y 3edd flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe

Beth maen nhw’n ei wneud? 

Mae gan Appen dros 20 mlynedd o brofiad o gofnodi a chyfoethogi amrywiaeth eang o fathau o ddata, gan gynnwys iaith lafar, testun, lluniau a fideo. Maen nhw’n cynnig gwasanaethau megis casglu data llafar a data nad yw’n llafar (o sefyllfaoedd penodol megis mewn cerbydau, bwytai, meysydd awyr, teleffoni sgyrsiol); trawsgrifio ac arnodi (gan gynnwys trawsgrifio o fideo), cyfieithu a lleoleiddio a gwasanaethau ieithyddol pwrpasol eraill. Ond maen nhw’n fwy na gwasanaeth trawsgrifio safonol. Mae Appen yn cynnig hygyrchedd i’w cleientiaid drwy amrywiaeth o blatfformau megis sain a fideo. Maen nhw’n darparu gwasanaethau megis crynhoi, teipio a mewnbynnu data, data hyfforddiant adnabod llais, gwella sain, adeiladu geirfaoedd (tafodieithoedd, sillafu, rheolau ffonolegol, geiriau estron a benthyg), dadansoddi cynnwys (h.y. dadansoddiad ieithyddol dwfn, rhannau ymadrodd, morffoleg, pwnc, emosiwn, barn, teimlad, dadelfennu ac ynysu bôn geiriau (tokenisation/stemming), casglu data o amrywiaeth o sefyllfaoedd (cerbydau, meysydd awyr, rheilffyrdd, gorsafoedd bysiau, bwytai, gemau fideo a theleffoni sgyrsiol) a thrawsgrifio diogel.

Mae darparu gwasanaethau trawsgrifio diogel yn golygu gweithio gyda gwybodaeth gyfrinachol iawn yn aml. Ar eu safle diogelwch uchel yng Nghaerwysg, mae staff Appen yn gweithio gyda deunyddiau digidol, sain a fideo sensitif, gan gynhyrchu dros 12,000 o drawsgrifiadau bob blwyddyn yn aml. Mae’r safle hwn yn gartref i’r gwasanaethau trawsgrifio sy’n cynhyrchu trawsgrifiadau gair am air fel dogfennau cofnod swyddogol, er enghraifft, cyfweliadau a gynhelir dan amodau PACE (Tystiolaeth yr Heddlu a Throseddol). Maen nhw hefyd yn darparu trawsgrifiadau o sgyrsiau wedi’u recordio’n gyfrinachol, galwadau i’r gwasanaethau brys, recordiadau gan gamerâu fideo a wisgir, yn ogystal â chyfarfodydd, cynadleddau a deunydd o grwpiau ffocws.

Gwyliwch y fideo isod i gael blas ar y mathau o ddata mae Appen yn gweithio gyda nhw. Yn ddiweddar, maen nhw wedi gweithio gyda thîm Skype Microsoft i ddatblygu cyfieithu cydamserol yn ystod galwadau fideo.

Sut brofiad yw gweithio i’r cwmni hwn?

Yn Appen, mae’r aelodau staff yn dewis lle maen nhw’n gweithio: mae llawer o bobl yn gweithio gartref ac mewn hybiau swyddfa. Mae’r hyblygrwydd i weithio gartref yn apelio at lawer o bobl ac mae’r cwmni wedi ennill nifer o wobrau am hyn. Ar hyn o bryd, mae’r cwmni’n cyflogi dros 370 o aelodau staff amser llawn ledled y byd ac maen nhw’n falch o ymrwymiad uchel y staff i’r cwmni a’r gyfradd isel o staff sy’n gadael.

Gwyliwch y darn fideo byr isod o’r enw ‘Life at Appen’ a fydd yn dangos sut gallwch gydbwyso bywyd a gwaith, a mwynhau swydd sy’n cydweddu â’ch bywyd chi.

Pa fathau o rolau allai fod ar gael i mi?

I raddedigion diweddar, gall Appen gynnig amrywiaeth o rolau yn eu cwmni, megis rheolwr prosiect, rheolwr prosiect ieithyddol, peiriannydd prosiect (Sydney yn unig) a bod yn aelod o’r timau casglu a thrawsgrifio data). Yn ogystal, mae cyfleoedd mewn adrannau eraill megis cyllidebu, cyflogres, rheoli ansawdd, recriwtio a sgrinio a chyfathrebu rhwng adrannau.

Dyletswyddau Swydd: Beth mae Rheolwyr Prosiect Ieithyddiaeth yn ei wneud?

Pa sgiliau sydd eu hangen arnaf i weithio i Appen? 

Mae Appen yn chwilio am unigolion sy’n meddu ar:

  • Gefndir cryf mewn ieithyddiaeth (dealltwriaeth o ffoneteg, ffonoleg a chystrawen)
  • Sgiliau TGCh a’r gallu i ddysgu sgiliau TG newydd (Python, Excel, UNIX, er enghraifft)
  • Sgiliau trefnu
  • Y gallu i gyfathrebu a rhwydweithio’n effeithiol
  • Angerdd a brwdfrydedd i ddysgu wrth wneud y swydd a’r gallu i roi gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith yn eich gwaith.
  • Mae ail iaith yn fantais!

Sut gallaf gael gwybod am gyfleodd swyddi gydag Appen?

Mae Appen yn cynnig amrywiaeth o swyddi ac maen nhw’n awyddus i glywed gan fyfyrwyr a graddedigion sydd â diddordeb.

Ewch i: https://join.appen.com/

Hefyd, gallwch fynd i’w gwefan: https://appen.com  i gael mwy o wybodaeth am y cwmni.

“Roeddwn i eisiau dweud diolch am y cyfle i glywed y sgwrs gan Appen. Doedd gen i ddim syniad pa fath o yrfaoedd fyddai ar gael i mi drwy astudio’r radd hon pan ddechreuais i, a hyd yn oed ar ôl fy mlwyddyn gyntaf, ond dwi’n teimlo bod y posibiliadau’n ddiddiwedd nawr!” (myfyriwr Ieithyddiaeth Gymhwysol yn y 3edd flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe)

Hoffem ddiolch yn fawr i Sarah a Rosie yn Appen am eu sgwrs ysbrydoledig a’u cyngor i’n myfyrwyr.

***

Cyfranwyr:

Mae Carlie Andrews yn astudio am MA mewn Hanes Modern a hi yw Cynrychiolydd Ôl-raddedig Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ar gyfer 2017/2018. Mae hefyd yn gwneud interniaeth yn swyddfa cyflogadwyedd y Coleg ar hyn o bryd.

 

Mae Dr Alexia L Bowler yn ddarlithydd yn yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol a hi yw Tiwtor Derbyn a Swyddog Cyflogadwyedd yr adran ac mae’n rheoli blog a chyfrif Twitter yr adran.

 

css.php