Astudio dramor yn Ne Corea gan Sarah Poole

Mae Sarah Poole, sy’n fyfyrwraig yn yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol, yn astudio am BA Iaith Saesneg a TESOL ac, ar hyn o bryd, mae ar ei blwyddyn dramor ym Mhrifysgol Genedlaethol Pusan yn Ne Corea.I fodloni ein hysfa ein hunain i grwydro, gofynnon ni i Sarah rannu ei stori hi drwy gydol y flwyddyn.Mae’r bennod gyntaf isod!

~ Cyrraedd ~

Helo! Sarah ydw i a dw i’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe sy’n astudio Iaith Saesneg a TESOL. Ar hyn o bryd, dw i ar flwyddyn dramor fel myfyriwr cyfnewid! Felly croeso i ddechrau fy nhaith fel myfyriwr cyfnewid yn Busan, De Corea!

Ers yn blentyn, dw i wedi eisiau ymweld â gwlad wahanol, a phan gododd y cyfle y gallwn ni fod yn rhan o raglen gyfnewid i ymweld â’r wlad ar frig fy rhestr, doedd dim modd i fi ddweud na (diolch i chi, y Tîm Ewch yn Fyd-eang!)

PNU

Ar hyn o bryd, dw i’n mynychu prifysgol o’r enw Prifysgol Genedlaethol Pusan (PNU) sydd yn Busan, De Corea. Fel y cynrychiolydd cyntaf o Brifysgol Abertawe a’r unig gynrychiolydd yn PNU eleni, roedd ychydig yn frawychus oherwydd nad oeddwn i erioed wedi teithio o’r blaen. Yn sydyn, roeddwn i ar fin teithio i ochr arall y blaned ar fy mhen fy hun! Ond roedd y Tîm Ewch yn Fyd-eang ym Mhrifysgol Abertawe a PNU yn gymwynasgar iawn.

I neidio ymlaen, roedd y daith i Busan rhyw 18 awr. Ond wedi cyrraedd, ac yn dioddef o jetluddiad yn amyneddgar, mae popeth wedi bod werth yr ymdrech hyd yn hyn. Dw i wedi bod yma ers ychydig dros bythefnos, ond maent wedi bod yn wythnosau prysur tu hwnt, heb os!

Take Off!!

Symud i mewn a’r Breswylfa

Wedi cyrraedd ychydig wedi’r tymor gyrwyntoedd, mae’r tywydd yn boeth ac yn llaith sydd, rhywsut, yn bleserus o’i gymharu â’r tywydd yng Nghymru. Er bod y dyddiau glawog yn fy atgoffa o gartref.

Mae’r breswylfa i ferched newydd gael ei hadeiladu, ac mae ganddi ddiogelwch hynod o dechnegol ac ystafelloedd gwely mawr ac eang gyda sinc, cawod a thŷ bach, desg, system cyflyru aer ac ardal fach ychwanegol lle gallwch hongian eich dillad i sychu. Mae’r ystafelloedd yn cael eu rhannu gan ddwy ferch ond mae hen ddigon o le a lle i gadw pethau.

Moving in to my dorm!

Mae’r cyfleusterau yn y preswylfeydd yn cynnwys campfa, ffreutur, caffi, ceginau halal, ystafell gyfrifiadur, ystafelloedd astudio, golchfa ac ystafelloedd cymunedol bach ar bob llawr gyda theledu a pheiriant dŷ poeth/oer i wneud ramen ganol nos!

Dosbarthiadau a’r Campws:


Wrth lwc, mae fy nosbarthiadau i oll o fewn pellter cerdded, ond mae’r campws yn ddigon mawr i gael bws gwennol i gludo pobl o’i gwmpas. Yn ogystal â bod yn gampws mawr, mae PNU wedi’i hadeiladu ar dir mynyddog, felly mae mynd i fyny ac i lawr y bryniau yn rhywbeth mae bendant angen i chi fynd yn gyfarwydd ag e – mae angen lefelau uchel o stamina!

Hyd yn hyn, dw i ddim ond wedi cael pythefnos o ddosbarthiadau, a’r rhan fwyaf ohonynt yn cynnwys cyflwyniadau i’r cwrs a sesiynau cyflwyno. Ond mae cynnwys y dosbarthiadau i weld yn ddiddorol a dw i’n mwynhau’r gwersi Corëeg yn fawr iawn! O ran fy nosbarthiadau eraill, dw i wedi cymryd amrywiaeth o bynciau sy’n amrywio o ddiwylliant Coereaidd i Lenyddiaeth Saesneg. Mae gan bob un o’m dosbarthiadau arholiad ar ganol y tymor ac arholiad ar ddiwedd y semester.

A Room with a View!

Mae’r athrawon oll yn gyfeillgar iawn ac yn hoff o gynnwys pawb mewn trafodaethau dosbarth. Mae pob un o’m gwersi’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg, ar wahân i’r dosbarth Corëeg lle mae popeth yn cael ei addysgu yn… Corëeg. Mae cael peth gwybodaeth sylfaenol am Gorëeg siŵr o fod yn angenrheidiol i gymryd y dosbarth hwn ond mae’r athro’n gwneud jobyn gwych o esbonio drwy ystumiau, ac os yw’n rhy anodd, mae bob amser rhywun sy’n cyfieithu i weddill y dosbarth os bydd unrhyw gamddealltwriaeth. Mae’n her, ond yn her i’w chroesawu!

Look across at the dorms

Dyma gyflwyniad byr o’m hamser yma yn PNU yng Nghorea, ond gobeithio y bydda i’n cael profi mwy o ddigwyddiadau diwylliannol a theithio ychydig dros amser, ac wedyn galla i rannu ac ysgrifennu amdanynt yn y gyfres blog hon. Felly cadwch lygad mas amdano!

 

css.php