Graham O’Donaghue ar ei daith o fod yn fyfyriwr yn Abertawe i fod yn Byw a Gweithio yn Tsieina

Fi a fy merch yn y seremoni raddio

Helo Bawb, 

Diolch am gymryd yr amser i ddarllen y postiad hwn. Graham O’Donoghue ydw i a bues i’n astudio ym Mhrifysgol Abertawe rhwng 2010 a 2012. Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i siarad tamaid bach am fy mhrofiadau ac i ble mae fy ngradd i wedi fy arwain hyd yn hyn.  

Yn 2008, roeddwn i wedi bod yn astudio Archeoleg a Llenyddiaeth Saesneg mewn prifysgol wahanol. Dw i’n gwybod bod hynny’n gyfuniad rhyfedd ond roeddwn i am ddewis un pwnc y gwnes i’n dda ynddo yn Safon Uwch ac un a oedd o ddiddordeb i mi.  Fodd bynnag, roedd fy amgylchiadau personol yn golygu fy mod i’n teimlo mai nid dyna oedd y cwrs a’r lle a oedd yn iawn i mi. Felly, penderfynais gymryd blwyddyn sabathol ar gyfer fy mlwyddyn olaf i ddinas fach o tua 4 miliwn o bobl, ar ochr ddwyreiniol Tseina. Yno, roeddwn i’n Ddarlithydd Iau ym Mhrifysgol Technoleg Shandong, Zibo, Shandong, Tseina. 

Yno, darganfyddais i rywbeth a oedd llawer yn well i mi nag Archeoleg a Llenyddiaeth Saesneg, sef angerdd dros addysgu. Fy swydd oedd addysgu Saesneg llafar i fyfyrwyr nad oeddent lawer yn hŷn na fi. Des i i garu’r lle a’r alwedigaeth felly penderfynais fyw yno am flwyddyn arall. Y pwynt hwn, dewisais newid o’m lle astudio presennol i gofrestru ym Mhrifysgol Abertawe, i astudio Astudiaethau Iaith gyda TEFL. Fodd bynnag, roeddwn i’n gymwys am flwyddyn o fynediad gohiriedig, felly penderfynais aros am flwyddyn a pherffeithio fy sgiliau lle roeddwn i cyn dychwelyd i astudio’n llawn amser yn y DU.  

Ysgol Haf

Yn 2010 (wedi newydd briodi), des i’n ôl i’r DU ac i Brifysgol Abertawe, yn benderfynol o wneud yn dda yn fy llwybr gradd newydd. Roeddwn i bob amser wedi dweud wrth fy hun na fyddwn i’n derbyn unrhyw beth ond gradd dosbarth cyntaf ac roeddwn i’n teimlo os na fyddwn i’n cael hynny, y byddwn i’n siomedig yn fy hun (mae’n swnio ychydig dros ben llestri ond roedd yn help mawr i gadw fy ffocws). Y penderfyniad oedd yn fy nghadw i ddal ati. Wedi dwy flynedd o waith caled, yn bwyta, yn cysgu ac yn anadlu fy ngradd, roeddwn i’n llwyddiannus a ches i fy ngradd dosbarth cyntaf ym mis Gorffennaf 2012; fel mae’n digwydd, cafodd fy merch ei geni ar ddiwedd y flwyddyn — yn union tuag amser arholiadau a Sul y Tadau — felly roedd yn ddathliad dwbl i fi ac un llun graddio bendigedig!! 

Mae’n 2018 nawr a dw i’n ôl yn Tsieina ac wedi bod yna ers 2012, gyda llawer mwy o brofiad i’m henw. Dw i wedi dysgu pawb, o’r plentyn ieuengaf mewn kindergarten, i ddyn busnes 58 oed a oedd yn edrych i ehangu ei farn ar y byd. Dw i wedi dysgu myfyrwyr ysgolion cynradd, myfyrwyr ysgolion canolradd, myfyrwyr ysgolion uwchradd a phawb rhyngddyn nhw, ac ni fyddwn yn newid unrhyw beth. Dw i’n gwerthfawrogi pob dydd dw i wedi’i dreulio yma! Yr hyn sy’n cadw i fi’n gwneud fy ngorau glas yw diffuantrwydd gwir ac onest y bobl o’m cwmpas. Dw i’n ymostwng yn wyneb yr haelioni a’r caredigrwydd y mae rhieni fy myfyrwyr yn eu dangos i mi a’r cariad sydd gan y myfyrwyr at eu hathro, beth bynnag y bo’u hoedran. I’r perwyl hwn, dw i’n gwneud fy ngorau glas ym mhopeth a wnaf oherwydd fy mod i’n teimlo y dylwn i roi rhywbeth yn ôl i’r wlad sydd wedi rhoi croeso mor gynnes i fi. Mae’n fraint i fod yn rhan o’r diwylliant hwnnw.  

Ysgol Haf

Serch hynny, y diolch mwyaf sydd gen i i’w roi, ar wahân i i’m gwraig a oedd wedi gorfod fy nioddef am y ddwy flynedd honno yn Abertawe (yn byw yn y llyfrgell) yw i ddarlithwyr a staff y Brifysgol. O’r e-bost cyntaf oll a anfonais yn ymholi am newid cwrs, i’r pwynt graddio (a hyn yn oed yn nawr yn 2018), mae’r staff wedi bod yn anhygoel ym mhob ffordd, gan fy nhywys, bod yn amyneddgar a gwir yn helpu i fi gyrraedd fy ngorau a’m galluogi i gyflawni fy mhotensial roeddwn i’n gwybod oedd gen i. Yn gryno, ni wnaeth neb byth golli hyder ynof, ac am hynny dw i’n fythol ddiolchgar. Hen enwi neb, maent yn gwybod pwy ydyn nhw, ac maent yn glod i’r Brifysgol. I unrhyw un sy’n meddwl am ymuno neu fynd i Brifysgol Abertawe, byddwn i’n dweud rhowch orau i ‘ystyried’ ac ewch amdani. Fyddwch chi ddim yn dyfaru! Roedd y darlithwyr a’r athrawon fel teulu i mi, a heb eu cefnogaeth nhw, ni fyddwn i’n agos i ble ydw i heddiw. 

 

css.php