Dr Leanne Bartley yn siarad am Ieithyddiaeth Fforensig

Dr Leanne Bartley

Fel rhan o’n digwyddiadau ‘Iaith yn y Ffilmiau’ a drefnwyd gan Gymdeithas y Myfyrwyr Ieithyddiaeth Gymhwysol, gofynnom i’n cyn gydweithiwr, Dr Leanne Bartley, a hoffai gyfrannu cyflwyniad i’r rhaglen ddogfen roedd y Gymdeithas yn bwriadu ei dangos:  ‘The Case of JonBenét Ramsey’ (Eddie Schmidt, 2016). Roeddem yn meddwl y byddem yn rhannu hynny â chi a gofyn i Leanne amlinellu ei diddordebau ymchwil ei hun i chi yma.

Helo, Dr Leanne Bartley ydw i ac rwy’n gweithio gyda chyfuniad o ddulliau dadansoddi beirniadol o fynegiant ac ieithyddiaeth gorpws i archwilio’r meysydd dwi’n hoffi cyfeirio atynt fel ‘materion anghyfiawnder troseddol’.

 

A bod yn onest, des i ar draws y syniad hwn ar hap. Ar ôl darllen y llyfr Routledge Handbook of Forensic Linguistics a olygwyd gan yr Athro Malcolm Coulthard a Dr Alison Johnson, 2010, ill dau yn ysgolheigion adnabyddus ym maes Ieithyddiaeth Fforensig,  cafodd fy niddordeb ei ennyn ar unwaith. Felly, penderfynais y byddai fy astudiaeth PhD fy hun yn archwilio achos llys lle cyhuddwyd dau amddiffynnydd (dau chwaraewr pêl-droed enwog) o dreisio’r un fenyw yn yr un ystafell mewn gwesty, ar yr un noson; yn y llys, cafwyd un dyn yn euog a’r llall yn ddieuog.

 

Fy nod i oedd canfod a oedd yr iaith a ddefnyddiwyd wedi cael effaith ar y canlyniad ym mhob achos (dyma ble roedd fy nghefndir mewn dadansoddiad beirniadol o fynegiant o gymorth.

 

Dr Leanne Bartley

Wrth gwrs, fel gyda phob traethawd ymchwil PhD, dyw pethau byth mor syml â hynny! Oherwydd natur sensitif data’r llysoedd, dyw system gyfreithiol y DU ddim yn caniatáu mynediad i drawsgrifiadau achosion i neb ond y rhai sy’n ymwneud â’r achos troseddol. Felly, doedd dim modd i mi ddilyn y trywydd ymchwilio hwn am nad oeddwn i’n ymwneud yn uniongyrchol â’r achos dan sylw.

 

Fodd bynnag, o ganlyniad, trois i at archwilio set ddata wahanol a oedd, yn fy marn i, yr un mor ddiddorol a dwi’n dal i weithio arni.

 

I esbonio: mae fy ymchwil fy hun yn defnyddio data o gronfa ddata o drawsgrifiadau achosion llys sydd ar gael ar gais gan yr Innocence Project (http://www.innocenceproject.org/).  Mae’r Innocence Project yn  sefydliad nid er elw yn yr Unol Daleithiau sy’n gweithio ar achosion o euogfarnau anghyfiawn â’r nod o ddiddymu’r euogfarn gan ddefnyddio tystiolaeth DNA. Rwy’n cyfrannu at y sefydliad drwy ddadansoddi’r iaith a ddefnyddiwyd gan bob parti yn yr achos llys gwreiddiol. Fy nod yw amlygu patrymau a strategaethau ieithyddol a allai fod wedi arwain at euogfarnu menyw neu ddyn dieuog, er gwaethaf diffyg tystiolaeth.

 

Gan ystyried pa mor anodd yw euogfarnu rhywun o drais, sy’n cael ei adlewyrchu gan nifer yr achosion sy’n cael eu dwyn i sylw’r heddlu (tua 15%) a’r nifer bach sy’n arwain at euogfarn mewn llys (5.7%), rwy’n ymddiddori’n fawr yn yr achosion hynny lle mae rhywun yn cael ei gyhuddo ar gam o drais a’i garcharu.

 

Wrth ymchwilio i’r maes hwn, yn ogystal â chyfrannu at faes ieithyddiaeth fforensig, fy nod hefyd yw chwarae rhan wrth sicrhau bod camweinyddiaeth cyfiawnder yn cael ei hadnabod ac, o bosib, ei hosgoi’n gyfan gwbl.

 

Yn y darn fideo hwn am y rhaglen, (Dr Leanne Bartley) ‘The Case of JonBenét Ramsey’ (Eddie Schmidt, 2016), a ddangoswyd fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau ‘Iaith yn y Ffilmiau’ a drefnwyd gan y Gymdeithas Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe, rwy’n ceisio cynnig cipolwg ar fy nhrywydd ymchwil fy hun, yn ogystal â llinynnau eraill y gallai’r rhai sy’n ymddiddori mewn ieithyddiaeth fforensig fod yn awyddus i’w harchwilio yn eu hymchwil eu hunain.

 

Ar ben hynny, fy ngobaith yw hyrwyddo’r gwaith hwn fel maes ymchwil rhyngddisgyblaethol, a dyna pam rwyf wrth fy modd yn cael cyfle i rannu fy ymchwil ag eraill (https://theconversation.com/forensic-linguistics-gives-victims-and-the-wrongfully-convicted-the-voices-they-deserve-101660. Mae hefyd yn gyfle i wneud myfyrwyr a darlithwyr yn ymwybodol o bwysigrwydd y gwaith sy’n cael ei wneud gan ieithyddion fforensig sydd, yn ei hanfod, yn golygu mynd â’u gwybodaeth arbenigol am iaith y tu hwnt i’r gymuned academaidd gan ei defnyddio i helpu i ddatrys problemau cymdeithasol yn y byd go iawn.

css.php