Rob Penhallurick yn y Deutscher Sprachatlas

Ar 19 Mehefin 2019, cyflwynodd Rob Penhallurick sgwrs fel siaradwr gwadd yn y ganolfan nodedig, Deutscher Sprachatlas,Philipps-Universität, yr Almaen.Teitl sgwrs Rob oedd ‘Change and Continuity in Dialect Study’, yn seiliedig ar yr ymchwil helaeth a wnaeth ar gyfer ei lyfr a gyhoeddwyd yn 2018, Studying Dialect (Palgrave Macmillan International Higher Education).

Rob Penhallurick yn y Deutscher Sprachatlas, Marburg.

Mae Prifysgol Marburg yn ganolfan flaenllaw ar gyfer ymchwil i dafodieithoedd ac yma y sefydlwyd yr atlas ieithyddol cenedlaethol cyntaf, y Sprachatlas des Deutschen Reichs, gan Georg Wenker ym 1876. O gasglu data o dros 40,000 o leoliadau rhwng 1876 a 1887, mae’r prosiect wedi bod yn cynhyrchu ymchwil pwysig ers hynny i dafodieithoedd Almaeneg a natur newid ieithyddol hanesyddol a pharhaus. Roedd gwaith Wenker yn ddylanwad allweddol ar ieithyddiaeth ddaearyddol yr iaith Saesneg, pan gafodd atlasau tafodieithoedd eu llunio yn Ynysoedd Prydain a Gogledd America yn yr ugeinfed ganrif, gan gynnwys yr Arolwg o’r Tafodieithoedd Eingl-Gymreig a’r Arolwg o Dafodieithoedd Saesneg.

Rob gyda Dr Simon Kasper o’r Deutscher Sprachatlas.

Ers 2001, mae rhannau helaeth o waith Wenker, a llawer o atlasau ieithyddol Almaeneg eraill, wedi cael eu digideiddio a’u cyhoeddi ar-lein gan y Deutscher Sprachatlas, gyda chymorth cyllid gan Academi’r Gwyddorau a Llenyddiaeth (Mainz). Gallwch ddarllen mwy am y prosiect a’i adnoddau yn: https://www.regionalsprache.de.

Mae gan adeilad newydd y Deutscher Sprachatlas ei lyfrgell a’i ystafelloedd archifo ei hun, sy’n gartref i recordiadau sain gwreiddiol a wnaed ganrif yn ôl, a miloedd o fapiau tafodieithoedd a luniwyd yn ofalus â llaw gan Wenker a’i dîm. Mae ysgolheigion yn y Ganolfan yn parhau i arwain y ffordd ym maes ymchwil i’r berthynas rhwng amrywiaeth ieithyddol a newid ieithyddol, ac mae’r Deutscher Sprachatlas yn enghraifft drawiadol o’r cyflawniadau sylfaenol sy’n bosib pan fydd buddsoddiad cyson a hirdymor yn cefnogi gwaith ysgolheigion ymroddedig.

Simon Kasper yn dangos map gwreiddiol a luniwyd â llaw gan Georg Wenker ym mis Gorffennaf 1880 i Rob. Gallwch weld y fersiwn lawn wedi’i digideiddio yn: https://www.regionalsprache.de/SprachGIS/Map.aspx.

css.php