Sut llwyddais i oroesi bywyd y brifysgol gydag Awtistiaeth gan Nicholas Fearn

Cyflwynwyd ein post gwadd y mis hwn gan Nicholas Fern, myfyriwr blwyddyn olaf mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol sydd hefyd (eisoes) ar ei lwybr gyrfa fel newyddiadurwr ac mae ganddo gyhoeddiadau mewn amrywiaeth o fannau newyddion.   Gallwch ddarllen ei waith drwy ddilyn y dolenni ar ddiwedd y post hwn. Diolch Nic!

Ymhen ychydig o dan 2 fis, byddaf yn gorffen fy nghynllun gradd Iaith Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe a gallaf ddweud yn gwbl onest fod y tair blynedd ddiwethaf hyn wedi newid fy mywyd mewn ystod o ffyrdd.

Mae’n wir yn wyrth fod mod wedi derbyn cynnig lle yn y brifysgol yn y man cychwyn! Saith mlynedd yn ôl, ces i ddiagnosis o fath o Asperger ac roeddwn yn mynychu ysgol uwchradd lle nad oedd unrhyw un yn fy neall. Yn ei hanfod, roedd yr athrawon yn fy ystyried fel plentyn drwg, ac roedd y disgyblion eraill yn meddwl fy mod yn od.

Ar y pryd, nid oeddwn yn ffitio i mewn o gwbl – ac roedd yr athrawon wedi fy nghyfrif yn fethiant. Nes imi symud i leoliad addysgol newydd lle cefais fy annog i lwyddo. Roeddwn wedi dechrau fy mlog technoleg fy hun a phan glywodd fy athrawes Saesneg amdano cefais fy symud i fyny i’r set uchaf ganddi. Yma, cefais gyfle i sefyll papur haen uwch TGAU Saesneg a datblygais fy ngalluoedd ysgrifennu.

Roeddwn y gwybod fy mod yn dymuno astudio Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe, felly astudiais y pwnc yn y coleg gan yn y pendraw ennill lle ym Mhrifysgol Abertawe. Dewisais yr ail ddewis oherwydd creodd caredigrwydd ac agwedd broffesiynol y darlithwyr argraff fawr arnaf yn ogystal â’r gefnogaeth a oedd ar gael ar gyfer fy nghyflyrau iechyd meddwl.

Os oes gennych anabledd, mae’n hawdd teimlo fel person alltud ac fel na fyddwch yn mynd yn bell mewn bywyd. Ond mewn gwirionedd nid yw’r pethau hyn yn wir. Nac ydy, nid yw fy mhrofiad yn y brifysgol wedi bod heb broblemau – rwyf wedi brwydro â phroblemau iechyd yn gyson. Fodd bynnag, rwyf wedi derbyn cymaint o gefnogaeth gan y tîm Lles Myfyrwyr a chan fy narlithwyr. Er enghraifft, nid yw gweithio mewn tîm neu roi cyflwyniad yn un o’m cryfderau – felly trefnodd y brifysgol asesiadau amgen i fy helpu i gyrraedd fy mhotensial ac ennill y graddau gorau posib.

Mae gan bobl yn y brifysgol lawer mwy o ddealltwriaeth. Profais flynyddoedd o fwlio yn yr ysgol ond nid yw’n rhywbeth fy mod wedi gorfod poeni amdano yn ystod fy nghynllun gradd. Siŵr o fod mae llawer o’m cymheiriaid yn meddwl fy mod yn berson tawel, er ar yr un pryd fy mod wedi dod ar draws nifer o bobl anhygoel. Ni ddylech fod ofn o fod eich hun yn y brifysgol – yn wir dyna ddiben y peth. Teimlaf fy mod yn graddio fel person gwbl wahanol; rwyf yn llawer hapusach ac yn fwy hyderus nawr.

Mae’r Brifysgol hefyd wedi rhoi cyfle i mi weithio ar fy newyddiaduriaeth a mentrau busnes. Rwyf wedi bod yn ysgrifennu mwy neu lai drwy gydol fy mywyd – rwy’n cofio ysgrifennu fy nramâu fy hun pan oeddwn yn blentyn. Erbyn hyn, wrth ochr fy astudiaethau, rwy’n gweithio fel newyddiadurwr llawrydd ac mae gennyf linellau enwau mewn cyhoeddiadau megis The Telegraph, The Times, Buzzfeed, Mail Online, Wales Online, The Western Mail, Lifehacker ac Engadget.  Rwyf hefyd yn sylfaenydd ac yn olygydd Tech Dragons, sef blog a chyfres o ddigwyddiadau’n hyrwyddo technoleg Cymru. Ymhlith y rheiny sy’n ei gefnogi ceir Llywodraeth Cymru, Tech City UK a Sefydliad Alacrity Syr Terry Matthews. Mae fy amserlen yn y brifysgol yn weddol hyblyg, felly rwyf wedi llwyddo i gynnwys llawer o weithgareddau allgymorth o amgylch fy nghynllun gradd.

Pe bai rhywun wedi dweud wrthyf pan oeddwn yn 14 oed y byddwn yn ennill gradd ac yn gweithio fel newyddiadurwr yn 2018, mwy na thebyg byddwn wedi’i ei alw’n gelwyddgi. Efallai eich bod yn tybio pa bwynt ydw i’n ceisio ei wneud? Pan fydd bywyd yn taflu lemonau atoch chi, gwnewch lemonêd. Ie, cliché yw hynny ond rwyf wedi dysgu trwy brofiad y gall fod yn wir. Peidiwch byth â gadael i adfyd eich tynnu i lawr. Ac, i mi, y brifysgol yw uchafbwynt fy mywyd (hyd yma).

******

Efallai yr hoffech ddarllen erthyglau Nic sy’n arddangos ei sgiliau anhygoel a’i angerdd am ysgrifennu, yma:

‘Being Bullied because of my autism nearly drove me to suicide. Then it all changed’, Wales Onlinehttps://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/being-bullied-because-autism-nearly-14249606

‘Can VR help cure the mental health epidemic?’, Alphyrhttp://www.alphr.com/virtual-reality/1005294/can-vr-help-cure-the-mental-health-epidemic

‘Hacking the home: how connected tech is making your shack a security risk’, Techradar: https://www.techradar.com/news/hacking-the-home-how-connected-tech-is-making-your-shack-a-security-risk

‘The App that helps you recognise your friends and family’, BBC News Online: http://www.bbc.co.uk/news/av/technology-33704192/the-app-that-helps-to-recognise-your-friends-and-family

‘How business can stay innovative and creative while growing,’ The Telegraphhttps://www.telegraph.co.uk/connect/small-business/innovation/how-businesses-can-stay-innovative-and-creative-while-growing/

css.php