Y Gyfres Cyflogadwyedd: Nuance Communications yn ymweld ag Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol Prifysgol Abertawe, gan Alexia Bowler a Jade Hobby

Yn rhan o ymgyrch cyflogadwyedd Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r rhaglen ymgysylltu  parhaus â myfyrwyr, croesawodd yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol ei siaradwr cyntaf o fyd diwydiant i Abertawe, i sôn wrth fyfyrwyr am waith y cwmni technoleg iaith a meddalwedd cyfathrebu, Nuance Communications. Ynghyd â chodi cwr y llen ar waith arloesol y cwmni, roedd y sgwrs yn gyfle gwych i’n myfyrwyr ddarganfod beth all gradd mewn ieithyddiaeth gymhwysol arwain ato mewn diwydiant cyffrous ac arloesol (ac fe ddysgodd y staff gryn dipyn hefyd!).

Ond ychydig ynglŷn â’r cwmni yn gyntaf!

Ynglŷn â Nuance Communications, Inc.

Mae Nuance Communications ar flaen y gad ac yn arloesi o ran dyfeisiau deallusrwydd artiffisial sgyrsiol a gwybyddol sy’n cyflwyno deallusrwydd i fywyd a gwaith beunyddiol. Mae’r cwmni yn creu dyfeisiau a all ddeall, dadansoddi ac ymateb i iaith pobl er mwyn cynyddu cynhyrchiant ac ehangu ar ddeallusrwydd dynol. Gyda degawdau o brofiad yn y maes, ac yn y maes deallusrwydd artiffisial, mae Nuance yn gweithio gyda miloedd o sefydliadau – mewn diwydiannau byd-eang sy’n cynnwys gofal iechyd, telegyfathrebu, y maes moduro, gwasanaethau ariannol, a manwerthu – i greu perthnasau cryfach a phrofiadau gwell i’w cwsmeriaid a’u gweithlu.

Yn ôl gwefan Nuance, eu hamcan yw gwneud technoleg yn gydnaws â phopeth dynol. Felly, yn hytrach na gorfod dysgu gorchmynion penodol, neu gyfres o ddewislenni anghyfarwydd â thermau anghyfarwydd, diddordeb Nuance yw gwneud i dechnoleg weithio i ni: y rhai sy’n ei defnyddio. Y gwahaniaethau cynnil hyn mewn cyfathrebu rhwng pobl sy’n sbarduno gwaith ymchwil a dyfeisiau’r cwmni, nid (y broses afrosgo yn aml) o ymaddasu i dechnoleg.

Siaradodd ein gŵr gwadd, Brian Redpath, Cyfarwyddwr Sector Cyhoeddus Nuance, ynglŷn â Dod â Deallusrwydd yn Fyw, gan roi trosolwg inni o’r cwmni a’i wasanaethau gan gynnwys rhai enghreifftiau rhagorol i ddangos y gwaith y mae Nuance yn ei wneud. Soniodd Brian wrthym ni am un o lwyddiannau’r cwmni, sef datblygu system Awtomatiaeth Deallusrwydd Teleffoni (ATI) newydd i’w defnyddio ar linellau cymorth gwasanaeth cwsmer, yn yr enghraifft hon, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi . . .  sef swyddfa’r dreth i chi a fi.)

Brian Redpath, Cyfarwyddwr Sector Cyhoeddus Nuance Communications.

Mae’r system ATI hon yn disodli’r system adnabod llais rhyngweithiol traddodiadol (e.e. os oes gennych chi ymholiad ynglŷn â chredyd treth, pwyswch un, os oes gennych chi  ymholiad ynglŷn â threth incwm, pwyswch dau – fe wyddoch chi’r drefn . . .) gyda modd soffistigedig o adnabod lleferydd iaith naturiol. Gyda’r dechnoleg newydd hon, y cwbl sy’n rhaid i gwsmeriaid ei wneud bellach yw dweud pam y maent yn ffonio er mwyn cael eu trosglwyddo i’r adran gywir, yna mae adnabyddiaeth llais deallusol yn adnabod geiriau allweddol ac yn gofyn cwestiynau pellach i gadarnhau cyn cysylltu’r alwad â’r cynghorydd priodol, gan ddiddymu’r angen am yr hyn sy’n teimlo’n aml fel haen ar ôl haen o ddewisiadau sy’n peri rhwystredigaeth enfawr i’r rhai sy’n ffonio (gall pob un ohonom ni uniaethu â hyn . . .).

Mae ATI hefyd yn gwneud gwiriadau diogelwch yn awtomatig, gan hysbysu’r cynghorydd o fanylion y cwsmer a pham y maent yn ffonio cyn hyd yn oed siarad â’r sawl sy’n ffonio. Gellir felly ymdrin â’r alwad yn gyflym ac effeithiol, a gwneud hynny’n brofiad brafiach i bawb. Yn wir, canfu astudiaeth achos a wnaed yn 2015 bod cyflwyno’r system hon wedi lleihau’r amser a dreulir ar gyfartaledd yn ymdrin ag ymatebion llais rhyngweithiol o fwy na 37 eiliad, ac wedi arwain hefyd at leihad yn yr amser o ymdrin â galwadau.

Felly, ynghyd â gwneud bywyd yn brafiach i gwsmeriaid a chynghorwyr, mae ATI hefyd wedi arbed £5 miliwn i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi oherwydd galwadau byrrach. Mae pawb yn hapus!

Perthnasedd i’n Myfyrwyr?

Graddedigion gan Nick YoungsonCC BY-SA 3.0Alpha Stock Images

Mae hyn yn berthnasol i’n myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer gradd, neu efallai radd uwch, mewn Saesneg iaith a/neu Ieithyddiaeth Gymhwysol, oherwydd y mathau o swyddogaethau a thasgau yr ymddengys bod galw mawr amdanynt mewn cwmnïau megis Nuance. Yn wir, roeddem ni wedi cyffroi o glywed am y swyddi amrywiol mewn cwmnïau sy’n gweithio ar ddyfeisiau technoleg yn ymwneud â sain, lleferydd ac iaith, y gallant i gyd yn amlwg fanteisio ar y ddealltwriaeth y mae myfyriwr sy’n graddio o’r adran Ieithyddiaeth Gymhwysol wedi ei meithrin. Yn wir, ymddengys bod gwaith y cwmni technoleg iaith yn amlddisgyblaethol yng ngwir ystyr y gair, ac yn cynnwys pobl â sgiliau mewn gwyddoniaeth gyfrifiadurol, ieithyddiaeth a seicoleg.

Fel y clywsom ni, mae gyrfaoedd gyda chwmni Nuance yn amrywio o weithio yn yr adrannau marchnata a chyfathrebu, TG, ac yn eu timau gwerthu. Ar gyfer pob un o’r swyddi hyn, mae angen dealltwriaeth o’r ymchwil technoleg iaith y mae’r cwmni yn ymwneud â hi, ynghyd â gallu i weld sut y mae modd cymhwyso hynny i’r gymdeithas ehangach ac i fyd busnes. Ymhellach, clywsom am swyddogaethau arbenigol yn y cwmni, gan gynnwys swyddogaeth y gwyddonydd lleferydd a dylunydd y rhyngwyneb defnyddwyr rhithwir, heb sôn am eu hadran ymchwil a datblygu, y byddant i gyd o bosib yn apelio at y myfyrwyr hynny sy’n gwneud gradd uwch mewn ieithyddiaeth.

Ar gyfer y rheini sy’n gwneud graddau uwch mewn ieithyddiaeth, clywsom am swyddogaethau megis y gwyddonydd lleferydd a dylunydd y rhyngwyneb defnyddwyr rhithwir. Clywsom fod y gwyddonydd lleferydd yn cyflawni sawl swyddogaeth ac yn cydweithio â dylunwyr a’r timau ymchwil a datblygu. Mae’r gwaith yn cynnwys gweithgareddau megis ysgrifennu a chyweirio gramadegau adnabod lleferydd ac adeiladu modelau acwsteg. Wrth weithio ar ddeall iaith naturiol, er enghraifft, efallai y bydd y gwyddonydd lleferydd yn llunio a chyweirio modelau iaith ystadegol ynghyd â modelau semanteg ystadegol. Byddai gweithio gydag injan biometreg llais y cwmni yn cynnwys cyweirio a graddnodi modelau cefndirol y system a chyweirio ffurfweddiad y system. Dywedwyd wrthym ni fod dylunydd y rhyngwyneb defnyddwyr rhithwir yn gweithio’n agos â’r gwyddonydd lleferydd yn adolygu’r hyn yr oedd yn ei wneud, ond gan ganolbwyntio’n fwy ar y defnyddiwr; hynny yw, yn sicrhau bod y rhyngwyneb yn gweithio gystal ag y gall ar gyfer y sawl sy’n defnyddio’r system, ac y manteisir i’r eithaf ar yr hyn y gall ei wneud.

Ond pam fod y technolegau iaith hyn yn ddefnyddiol, neu hyd yn oed yn ddymunol?  

Wel, ar wahân i’r hyn a ddarparwyd ar gyfer CThEM, y soniwyd amdano eisoes, un o’r dyfeisiau meddalwedd y mae defnydd pur helaeth ohono yw adnabod llais, er enghraifft; troi lleferydd yn destun, creu dogfennau, trawsgrifio, a hyd yn oed fformatio eich dogfen ysgrifenedig, a hyn oll gan ddefnyddio adnabyddiaeth lleferydd. Mae hyn yn ddefnyddiol mewn sefyllfaoedd fel y byd meddygol lle gall staff meddygol ddefnyddio meddalwedd arddweud i greu adroddiadau manwl-gywir yn gyflym. Yn wir, safbwynt Nuance ar ei swyddogaeth yn y byd gofal iechyd yw ei fod yn gwella effeithlonrwydd mewn sefyllfaoedd clinigol.  Yn ôl gwefan Nuance:

Mae Nuance yn ailddiffinio sut y mae clinigwyr yn ymwneud â dogfennaeth glinigol o bob math. Mae ein dyfeisiau yn caniatáu i weithwyr iechyd yn y GIG a sefydliadau iechyd eraill gofnodi a dogfennu hanes y claf yn gyflym ac yn fanwl gywir, gan wella ansawdd y cofnod gofal a rhyddhau amser i ofalu. (Gwefan Nuance Communications )

https://www.youtube.com/watch?time_continue=57&amp=&amp=&v=U6LHcsbIgQw

Felly mae hi’n amlwg bod gweithgareddau o’r fath yn cynnig posibiliadau rhyfeddol ar gyfer defnyddwyr sydd o bosib â nam ar eu golwg neu sydd â phroblemau symudedd (gan gynnwys anafiadau straen ailadroddus), neu anghenion eraill y gellir eu cynorthwyo drwy gyfrwng adnabyddiaeth llais, o’i gymharu â dulliau mewnbynnu traddodiadol. Nid yw hi’n anodd dychmygu adeg lle bydd meddalwedd technoleg iaith o bosibl yn dileu’r angen am gyfarpar trwsgl megis allweddell yn llwyr…

Clywsom hefyd am ymchwil y cwmni yn y maes Biometreg sy’n fodd o adnabod siaradwyr (adnabod hunaniaeth siaradwr anhysbys), dilysu siaradwr (lle gall rhywun ddilysu honiad ynglŷn â hunaniaeth rhywun drwy gyfrwng eu ‘hôl llais’), adnabod iaith, dyrannu siaradwyr (adnabod siaradwyr gwahanol yn y deunydd clywedol) a chlystyru siaradwyr (grwpio darnau o leferydd yn seiliedig ar nodweddion siaradwyr).

Sampl o Ôl Llais (credit: NISTvia Flickr)

Ymddengys fod ein lleisiau yn unigryw; hynny yw, mae patrymau acwsteg pawb yn amrywio yn dibynnu ar faint a siâp ein cyrff – y gwddf a’r geg yn benodol, ynghyd â thannau’r llais. Ac nid hyn yn unig, ond mae nodweddion mydryddol megis pwyslais, traw, goslef neu arddull siarad oll yn cyfrannu at hunaniaeth unigryw y llais. Golyga hyn y gellir defnyddio ein ‘hôl llais’, fel ein holion bysedd, at ddibenion adnabod a gwirio.

Felly, mae’r ymchwil a’r datblygiad mewn biometreg llais yn Nuance, a chwmnïau technoleg iaith eraill, yn mynd y tu hwnt i beth sy’n cael ei ddweud i bwy sy’n siarad. A sut y mae modd defnyddio hyn? Wel, mae modd defnyddio’r dechnoleg hon ar gyfer pethau megis bancio dros y ffôn a datrys troseddau gan gynnwys twyll, ymysg nifer o bethau eraill.

Roedd sgwrs Brian yn ddiddorol iawn ac fe gyfeiriodd at sawl agwedd ar weithgareddau’r cwmni na ellir rhoi sylw teilwng iddynt mewn blog (hyd yn oed un mor hir â hwn). Felly, os hoffech chi wybod mwy am Nuance, cliciwch ar y dolenni i’r cwmni neu darllenwch eu blog What’s Next.

Hoffem ddiolch i Brian Redpath am dreulio amser gyda ni a rhoi cyflwyniad diddorol llawn ysbrydoliaeth ynglŷn â’r posibiliadau ym myd diwydiant ar gyfer ymchwil iaith yn yr unfed ganrif ar hugain.

***

Os hoffech chi wybod mwy am ein hymwneud â phartneriaid yn y byd diwydiant a’r diwydiannau technoleg iaith yn gyffredinol, mae gennym ni flog arall ar y gweill i ddathlu digwyddiad olaf y tymor hwn gydag Appen. Felly edrychwch am ein blog nesaf!

Cyfranwyr:

Jade Hobby, sy’n Gynorthwy-ydd Cyflogadwyedd yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe. Os oes gennych chi ymholiadau ynglŷn â chyflogadwyedd neu gyfleoedd yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, anfonwch e-bost at Jade:  jade.hobby@swansea.ac.uk

Dr Alexia L. Bowler, sy’n Diwtor Derbyn yn yr adran Ieithyddiaeth Gymhwysol ac yn cynnal blog yr adran a’r cyfrif Twitter.

css.php