Blwyddyn Un

Yn eich blwyddyn gyntaf yn Abertawe mae angen i chi wneud 120 credyd neu 6 modiwl. Dylai myfyrwyr Iaith Saesneg anrhydedd sengl neu fyfyrwyr Iaith Saesneg a TESOL cydanrhydedd wneud o leiaf 100 credyd (5 modiwl) o’r rhestr isod. Gall myfyrwyr hefyd wneud hyd at 20 credyd o gyrsiau dewisol y coleg – modylau yw’r rhain a gynigir mewn adrannau eraill. Bydd myfyrwyr yn derbyn rhestr gyflawn. Dylai myfyrwyr cydanrhydedd wneud 60 credyd (3 modiwl) o’r rhestr isod.

Mae’r flwyddyn academaidd wedi’i rhannu’n ddau floc addysgu o’r enw TB1 a TB2. Mae angen nifer cyfartal o gredydau (60) ym mhob bloc addysgu. Mae pob modiwl ar gael unwaith mewn bloc addysgu. Nodir y bloc addysgu ar ôl pob teitl.

Modiwlau gorfodol ar gyfer pob cynllun gradd

ALE114: Seiniau’r iaith Saesneg (TB1)

Bydd y modiwl hwn yn addysgu symbolau’r Gymdeithas Ffoneteg Ryngwladol ar gyfer trawsgrifio ffonetig. Bydd agweddau eraill ar leferydd yn cael eu hastudio, fel seiniau wrth ddyfynnu a lleferydd cysylltiedig, cymathiad a thrychiad, pwyslais a rhythm, ac elfennau o ffoneteg acwstig.

Awgrymiadau darllen:

  • Roach, P. (2010). English Phonetics and Phonology Fourth Edition: A Practical Course. Ernst Klett Sprachen.

ALE100 Gramadeg ac Ystyr (TB2)

Bydd y modiwl yn ymdrin â meysydd craidd Iaith Saesneg: dosbarthiadau geiriau, morffoleg, gramadeg a semanteg. Mae rhan sylweddol o’r modiwl hwn yn ymwneud â dysgu’r iaith i ymdrin ag astudiaeth wyddonol o ieithoedd dynol. Mae meistroli’r metaiaith hon yn hanfodol ar gyfer unrhyw gwrs sy’n ymwneud ag iaith ac yn sylfaen ar gyfer astudio iaith a llenyddiaeth Saesneg yn ffurfiol, ieithoedd modern tramor ac ieithyddiaeth.

Awgrymiadau darllen:

  • Duran Eppler, E. & Ozon, G. (2013). English Words and Sentences Cambridge University Press

Gorfodol ar gyfer cynlluniau gradd TESOL. Dewisol ar gyfer cynlluniau eraill

Yn ogystal â’r ddau fodiwl gorfodol uchod, os ydych yn gwneud gradd â TESOL yn y teitl, mae’n rhaid i chi astudio hefyd:

ALE108 Dulliau Addysgu Iaith (TB2)

Dysgwyr Saesneg fel Iaith Dramor, Arall, Ychwanegol, Ail Iaith – EFL, EOL, EAL, ESL? Mae cymaint o acronymau ar gyfer y pwnc hwn, sy’n adlewyrchu’r nifer enfawr o ddysgwyr ledled y byd. O gofio hyn, ai un ffordd sydd o ddysgu ac addysgu Saesneg, neu a yw’r dulliau mor amrywiol â’r dysgwyr, eu cefndiroedd a’u rhesymau dros ddymuno defnyddio Saesneg? Dyma rai o’r cwestiynau y byddwn yn eu trafod yn rhan o’r modiwl hwn. I wneud hyn mewn modd gwybodus, byddwn yn edrych yn gyntaf ar hanes addysg iaith Saesneg i weld sut y mae wedi esblygu a pham mae’n bwysig o hyd i fod yn ymwybodol o ddatblygiadau yn y gorffennol i ddeall arferion y presennol. Yn dilyn hynny, byddwn yn cofnodi newidiadau a dyfeisgarwch cyfoes er mwyn cyflawni dealltwriaeth glir o gyd-destun cymhleth, amrywiol a rhyngwladol dysgu iaith Saesneg y mae dysgwyr ac athrawon yn gweithio ynddo heddiw.

Awgrymiadau darllen:

Richards, J. and Rodgers, T. (2014). Approaches and methods in language teaching (3rd ed.). Cambridge: Cambridge University Press.

Gall myfyrwyr ddewis o blith yr opsiynau canlynol:

ALE115 Iaith Bywyd Bob Dydd (TB1)

Bwriad y cwrs hwn yw cyflwyno myfyrwyr i astudiaeth egwyddorol o destunau sy’n cynrychioli amrywiaeth eang o genres neu gyweiriau iaith bob dydd, megis sgwrsio, testunau academaidd, ryseitiau, blogiau a micro-flogiau, areithiau gwleidyddol, adroddiadau newyddion ac ati. Yn hytrach na chanolbwyntio ar agweddau creadigol testunau, bwriad y cwrs yw rhoi’r sgiliau i fyfyrwyr allu dadansoddi er mwyn llunio disgrifiadau egwyddorol o’r nodweddion ieithyddiaeth (yn arbennig geirfa-ramadegol) testunau llafar ac ysgrifenedig, a’r ffyrdd y mae ffactorau achlysurol yn dylanwadu ar nodweddion ieithyddol testunau. Mae’r cwrs hefyd yn cyflwyno syniadau sylfaenol i fyfyrwyr o ran elfennau ymarferol, theori gweithredoedd llafar, a dadansoddi sgyrsiau. Trwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn ymarfer gwahanol fathau o ddadansoddi ieithyddol ymarferol, sy’n hanfodol i lwyddo ar y cwrs.

Awgrymiadau darllen:

  • Cornbleet, S., & Carter, R. (2001). The language of speech and writing. London and New York: Routledge

ALE116 Hanes yr iaith Saesneg (TB2)

Yn y modiwl hwn rydym yn trafod hanes yr iaith Saesneg o’i gwreiddiau hyd heddiw. Daeth yr iaith Saesneg i’r ynysoedd hyn gan feddianwyr Eingl-Sacson a orchfygodd i raddau helaeth yr ieithoedd Celtaidd oedd yno ar y pryd. Cafodd yr Hen Saesneg ei hun ei orchfygu wedyn gan iaith y Llychlynwyr, a byddem ni fwy na thebyg yn siarad Daneg heddiw pe byddan nhw wedi llwyddo. Yn ddiweddarach, newidiwyd Saesneg yn sylweddol unwaith eto gan oresgynwyr eraill: y Normaniaid. Rydym yn dadansoddi datblygiad yr iaith fach hon â 7 miliwn o bobl yn unig yn ei siarad yn yr 16eg ganrif i fod yn iaith fyd-eang fel y mae heddiw, ac yn trafod senarios posibl ar gyfer dyfodol Saesneg ledled y byd.

Awgrymiadau darllen:

  • Johnson, K. (2016) The History of Early English. Routledge.

ALE120 Astudio Iaith Saesneg (TB1)

Sut daeth Saesneg yn iaith fyd-eang? Beth yn union yw Saesneg Safonol? Beth mae camgymeriadau siarad yn eu datgelu am iaith? Mae ALE120 Astudio Iaith Saesneg yn ateb y cwestiynau hyn a llawer mwy. Mae’r modiwl yn gyflwyniad i amrywiaeth a hanes Saesneg, ac i waith cyfoes a chlasurol ym maes ieithyddiaeth. Ymhlith y pynciau eraill a drafodir mewn darlithoedd a’r llyfr cwrs cysylltiedig mae effeithiau tafodiaith ac acen ar hunaniaeth, rhegi ac enwau sarhaus yn Saesneg, iaith a rhyw, cynllunio iaith a damcaniaethau ynglŷn â tharddiad iaith.

Awgrymiadau darllen:

  • Penhallurick, R. (2010). Studying the English language. Palgrave Macmillan

Noder:

  • Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ac fe all newid.
  • Nid oes yn rhaid prynu’r llyfrau hyn ymlaen llaw. Mae copïau ar gael yn llyfrgell y brifysgol (ac mae llawer ar gael ar-lein).
  • Os nad ydych wedi astudio Iaith Saesneg ar gyfer safon uwch, byddem yn argymell eich bod yn darllen y canlynol:
    • Crystal, D. (2002). The English language: A guided tour of the language. Penguin UK.
css.php