Yno ac yn ôl eto.  Stori Myfyriwr Abertawe – gan Mike Kettle (MA TESOL 2017-2018)

Chwilio strydoedd Kyoto yn ystod tymor y coed blodau yn eu blodau. 

Meddai Trevor Noah, digrifwr o fri ac yn fychan craff, unwaith mai teithio oedd y ffordd orau o chwalu rhwystrau diwylliannol a datblygu tosturi ar raddfa fyd-eang.  Mae’n rhaid dweud fy mod i’n cytuno a dyma pam…

 

Cerdded trwy sen-bon tori yn Kyoto. 10,000 o giatiau coch yn creu llinell ar hyd y mynydd a dilyn y llwybr i’r gysegrfa ar ben y llwybr.

Ar ôl i fi orffen gradd israddedig ym Mhrifysgol Abertawe yn 2006, penderfynais i gymryd swydd yn Tokyo, yn Siapan, fel Hyfforddwr Iaith Saesneg.  Roedd bwrlwm bywiog y metropolis dyfodolaidd hwn yn bendant yn newid cyflymder o’i gymharu â chael fy magu yng nghefn gwlad gysurus a thawel Dyfnaint.

 

Yn llawn rhyfeddod, dechreuais o ddifri ddysgu’r iaith a’r confensiynau cymdeithasol er mwyn i fi allu bod yn fwy nac ymwelydd yn ystod fy amser i yno.  Fodd bynnag, dysgais rywbeth am fy hun hefyd – does dim byd yn fy mhlesio mwy na phrofi diwylliannau eraill.  Drwy’r profiad yn Siapan, ces i safbwynt newydd hollol wahanol a ddysgodd i mi er bod pobloedd y byd yn edrych, yn siarad ac yn ymddwyn yn wahanol, rydym oll yn rhannu’r un gwerthoedd sylfaenol ac yn eu dilyn gyda’r un gobaith.

 

Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach, gadewais i Brifysgol Abertawe unwaith eto gydag MSc mewn Rheoli Busnes a Marchnata a dechreuais lunio cyrsiau ysgrifennu ac addysgu busnes ym Mhrifysgol y Brenin Saud yn Riyadh, Sawdi-Arabia.  Eto, roedd y gwrthgyferbyniad â Dyfnaint, a nawr Tokyo, yn drawiadol.

Trwytho ym mywyd Saudi Arabia.

 

Roedd tirwedd yr anialwch a thymereddau crasboeth o bron iawn 60oC yn ystod yr haf yn gwneud tasgau syml yn her enfawr yn yr awyr agored ac roedd yr ymglymiad cadarn wrth gonfensiwn Islamaidd yn gromlin dysg serth.  Fodd bynnag, roedd y tir cyffredin a ges i gyda’r bobl y cwrddais i â nhw yn Siapan hefyd yn bresennol yma.  Wrth reswm, yn aml iawn roedd gennym ni syniadau gwahanol iawn o’r hyn a oedd yn cael ei ystyried yn briodol, ond nid oedd hynny’n ein hatal rhag bod yn ffrindiau nac yn addysgu ein gilydd i fod yn ddinasyddion gwell.

 

Casgenni o ddiod Japaneaidd o’r enw Sake wedi eu gosod y tu allan i’r gysegrfa Gēku yn Isle, Japan. Mae pob un yn cynrychioli cyfraniad gan gwmni lleol tuag at gynhaliaeth y gysegrfa.

Ac, yn y bôn, dyma fy mhwynt i (a Trevor Noah).  Mae profi diwylliannau pobl eraill yn darparu cyfle i ddatblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o bobl eraill, yn enwedig pan fyddwn ni oll yn ymddangos i fod mor wahanol.  Wrth ddilyn gyrfa yn addysgu Saesneg a busnes dramor, dw i wedi cael llawer o gyfleoedd i feithrin perthnasoedd â phobl nad oeddwn i erioed wedi’u hystyried yn bosib, a gallaf ddweud yn hyderus fy mod i’n berson gwell o ganlyniad.  Roeddwn i’n ddiolchgar , ond nid dyna oedd y diwedd arni i mi. Felly….

Yn 2017, cofrestrais ym Mhrifysgol Abertawe am drydydd tro i ennill gradd Meistr mewn dysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill (TESOL) oherwydd gall y cymhwyster hwn agor drysau newydd i gyfleoedd sydd hyd yn oed yn gyfoethocach. I ddechrau, dewisais Brifysgol Abertawe oherwydd y profiadau gwych roeddwn i wedi eu cael yma yn y gorffennol, ond dysgais hefyd fod statws uchel iawn gyda’r MA TESOL ymhlith sefydliadau rhyngwladol – dau reswm gwych!

 

Wir i chi, ychwanegodd cynnwys y cwrs a chefnogaeth y gyfadran fewnwelediad academaidd craff i’m profiadau blaenorol gan roi nid yn unig mwy o hyder i mi, ond set hollol newydd o ffyrdd i ddatblygu fy ngyrfa’n gyflym iawn.

 

O fewn dau ddiwrnod o gyflwyno fy nhraethawd estynedig ym mis Medi 2018, mae’r MA wedi arwain at gyfleoedd unigryw, gan gynnwys cyfweliadau â phrifysgolion breintiedig yn Siapan a sefydliadau Awyrofod yn Sawdi-Arabia.  Ar ben yr hyder a’r dulliau newydd, helpodd y cwrs i mi fireinio fy nghymeriad. Mae hyn oherwydd bod y safonau a ddisgwylir gan ein darlithwyr yn uchel.  Maen nhw’n disgwyl ansawdd ac yn darparu cefnogaeth wych i fyfyrwyr sy’n fodlon ymgymryd â’r her.  Hoffwn gau drwy fynegi diolchgarwch a gwerthfawrogiad calonnog i’r gyfadran MA TESOL am eu cefnogaeth a’u harweiniad.  Unwaith eto, mae wedi bod yn agoriad llygad 🙂

 

Neidio i’r M.A Dysgu Saesneg fel Ail Iaith ym Mhrifysgol Abertawe

 

 

css.php