Prosiectau PhD Ieithyddiaeth Gymhwysol

Mae’r Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cryf am y prosiectau canlynol, i’w goruchwylio ar y cyd yn yr adran gan dîm a fydd yn cynnwys yr Athro Jim Milton, yr Athro Nuria Lorenzo-Dus, yr Athro Tess Fitzpatrick a Dr Vivienne Rogers.

i)       Prosiect 1: Gallu Cynhenid
Bwriad y prosiect hwn yw ymchwilio i allu cynhenid i ddysgu iaith a phrofi’r rhinwedd hon. Byddai’r prosiect yn ymchwilio i’r rhyngweithio â chof gweithio hefyd. Galliai myfyrwyr â diddordeb hefyd ddefnyddio technegau dilyn symudiad y llygaid ac amser adweithio wrth fireinio’r profion gan gynnwys eu rhyngwyneb. Mae gan yr adran labordy Ieithyddiaeth Gymhwysol, gan gynnwys dyfais gludadwy sy’n dilyn symudiad y llygaid a meddalwedd amser adweithio ar liniaduron penodol

ii)         Prosiect 2: Dilyn Symudiad y Llygaid: Y Rhyngwyneb rhwng Geirfa a Chystrawen
Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i’r Ddamcaniaeth Finimalaidd; y syniad mai gwybodaeth o eirfa sydd wrth wraidd caffael gramadeg a chystrawen. Byddai’n datblygu rhai o’r profion geirfa sydd eisoes ar gael ar wefan Paul Meara, Lognostics, a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Abertawe.

iii) Prosiect 3:   Llythrennau Bras (Tallman Lettering) mewn Enwau Brand Meddygol
Nod y prosiect hwn yw ymchwilio i brosesu llythrennau bras mewn enwau brand meddygol. Bydd y prosiect hwn yn defnyddio meddalwedd dilyn symudiad y llygaid i ymchwilio i effaith llythrennau bras, maint a ffurf ffont ar allu clinigwyr i wahaniaethu rhwng enwau cyffuriau tebyg yn ôl y golwg, ac a oes modd, mewn gwirionedd, amlygu’r rhannau amlwg a pherthnasol o enwau cyffuriau.

Gweler yr hysbysiad (dan y pynciau ar gyfer ‘Deall y Gorffennol a Gwybodaeth ar gyfer y Dyfodol (SURESCOAH02)’, neu gwiriwch www.findaPhd.com i ganfod mwy!

css.php