MA TESOL, 2017: Darlithydd Iaith Saesneg yn Ysgol y Celfyddydau Breiniol ym Mhrifysgol Phayao, Gwald y Thai

Fy enw i yw Mink Yuthika. Cwblheais i MA TESOL ym Mhrifysgol Abertawe yn 2017. Ar yr adeg honno, fi oedd yr unig fyfyriwr Thai a oedd yn astudio yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau!

Cyn penderfynu astudio ym Mhrifysgol Abertawe, graddiais i gyda gradd baglor o Brifysgol Mae Fah Lung, Gwlad y Thai, gan arbenigo yn y Saesneg. Yn ystod fy astudiaethau BA, dechreuais i drwy addysgu Saesneg i’n ffrindiau nad oeddent yn arbenigo yn y Saesneg yn ogystal â gweithio fel cyfieithydd. Ar ôl graddio, sylweddolais i mai addysgu oedd fy angerdd a’i fod yn dechrau ymddangos fel gyrfa bosib i mi. Felly, cynlluniais i ddilyn radd Meistr yn y DU i fagu mwy o sgiliau proffesiynol, ac yna symud ymlaen i addysgu yn fy ngwlad frodorol. Yn y diwedd, penderfynais i astudio MA TESOL ym Mhrifysgol Abertawe oherwydd cynnwys y cwrs, enw da’r Brifysgol yr oeddwn i’n bwriadu cyflwyno cais iddi ac awyrgylch y ddinas ei hun.

Roedd fy ngradd Meistr yn gwrs un flwyddyn o hyd. Ar y rhaglen hon, cwblheais i chwe modiwl a Dadansoddi Disgwrs, a addysgwyd gan Dr Federica Barbieri, oedd un o’m ffefrynnau. Yn ogystal, dewisais i wneud traethawd hir, a oedd yn cynnwys gweithio’n annibynnol dan oruchwyliaeth fy ngoruchwyliwr.

Roeddwn i wrth fy modd â chefnogaeth yr holl ddarlithwyr. Roeddent yn trin myfyrwyr â pharch ac yn ein hannog i rannu syniadau â’n gilydd yn y dosbarth. Roedd yr arddull ddysgu hon yn effeithiol iawn yn fy marn i. Byddwn i’n dweud fy mod i wedi hoffi’r holl ddarlithoedd ond, a bod yn onest, roeddwn i hefyd yn teimlo dan ychydig o straen bob tro yr oedd gennyf ddyddiau cyflwyno aseiniad neu arholiad, yn enwedig wrth geisio gorffen aseiniadau cyn dathlu’r Nadolig yn yr Alban!

Fodd bynnag, diflannodd y pwysau pan gyflwynais i fy nhraethawd. Ar yr un pryd, roedd yr adeg honno o ymlacio hefyd yn peri llawer o deimladau oherwydd fy mod i’n gwybod bod fy amser hapus iawn yn astudio yn Abertawe bron ar ben. O edrych yn ôl, roeddwn i wir wedi mwynhau fy amser yn astudio yn amgylchedd cyfeillgar y brifysgol hon, ac mae Abertawe’n ddinas llawn swyn. Roeddwn i’n dwlu ar y naws o bobl yn yfed eu coffis yn y siop goffi, yn sgwrsio â ffrindiau neu’n cerdded ar hyd y traeth. Dw i’n gweld eisiau’r amseroedd hynny’n fawr!

Bellach, dw i’n ddarlithydd amser lawn, gan addysgu Saesneg yn Ysgol y Celfyddydau Breiniol ym Mhrifysgol Phayao, Gwlad y Thai. Ar hyn o bryd, rwyf yn addysgu ‘Saesneg at

Ddibenion Cyfathrebu, Gwrando a Siarad’ a dau gwrs Saesneg cyffredinol arall. Mae fy myfyrwyr yn arbenigo mewn amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys Saesneg, addysg, twristiaeth, astudiaethau amaethyddol a pheirianneg. Yn ogystal, rwyf yn gyfrifol am wneud gwaith ymchwil, gan gynghori myfyrwyr ar sut i gwblhau traethodau hir a rhoi cyngor i fyfyrwyr interniaethau. Mae’r llwyth gwaith yn drwm ac yn heriol.

I mi, roedd gwneud MA TESOL yn basbort a wnaeth fy helpu i sefydlu fy ngyrfa addysgu. Defnyddiais fy ngwybodaeth ynghylch addysgu iaith a sgiliau ymchwilio a oedd yn fy ngalluogi i gael safbwynt ehangach ar addysgu Saesneg. Er enghraifft, diolch i’r cwrs Caffael Ail Iaith, rwyf wedi datblygu dealltwriaeth fwy cynhwysfawr am sut y mae dysgwyr Saesneg fel ail iaith yn caffael iaith estron a’r camgymeriadau cyffredinol y mae dysgwyr Saesneg fel Ail Iaith yn tueddu eu gwneud wrth ddefnyddio’r Saesneg. Felly nawr, mae modd i mi ddefnyddio’r syniadau hyn, a syniadau eraill, yn fy nosbarthiadau i.

Byddwn yn argymell yr MA TESOL ym Mhrifysgol yn fawr. Byddwch ymhlith pobl gefnogol. Ar ôl gorffen y cwrs hwn, rwyf wedi datblygu nid yn unig fy sgiliau proffesiynol ond rwyf hefyd wedi magu hyder wrth addysgu Saesneg. Dyma oedd un o’r penderfyniadau gorau rwyf erioed wedi’i wneud! Diolch i Brifysgol Abertawe ac i’r holl ddarlithwyr am bopeth. Heb gefnogaeth fy narlithwyr: Yr Athro Jim Milton, yr Athro Tess Fitzpatrick, Dr. Federica Barbieri, Dr. Cornelia Tschichold, Dr. Vivienne Rogers, a Dr. Neil Bowen. Hebddynt, ni fyddwn wedi gallu ymdrechu a chwblhau fy ngradd.

css.php