Employability Series: Swansea University’s Applied Linguistics Literacy Partnership Placements Cyfres Cyflogadwyedd: Lleoliadau Partneriaeth Llythrennedd Ieithyddiaeth Gymhwysol Prifysgol Abertawe

Fy enw i yw Maslin Costiniano a hoffwn siarad â chi am brofiad sydd, yn fy marn i, wedi cyfrannu at fy llwyddiant diweddar wrth sicrhau cam nesaf fy ngyrfa ar ôl graddio, sef interniaeth fel cynorthwyydd addysgu yn Japan.

Yn fy nhrydedd flwyddyn, cymerais i ran mewn cynllun lleoliadau gwaith a drefnwyd ac a gefnogwyd gan yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol. Rhaglen ar ôl ysgol, yn Ysgol Gymunedol Dylan Thomas, oedd hon. Ein rolau yn y rhaglen oedd bod yn siaradwyr gwadd/athrawon i ddisgyblion o flwyddyn 7 i flwyddyn 10. Yn y sesiynau hyn, gofynnwyd i ni gyflwyno deunyddiau a oedd wedi’u paratoi ymlaen llaw er mwyn annog a/neu gymell y disgyblion i anelu’n uwch, ac i beidio â chael eu dychryn gan y mythau sy’n gysylltiedig ag addysg uwch.

Roedd y myfyrwyr gwirfoddoli eraill ar y rhaglen yn gefnogol iawn a buom yn cydweithio’n dda. Roedd pawb yn rhannu’r un uchelgais, felly roeddem i gyd yn awyddus i gael y budd mwyaf o’r profiad ac, yn y meddylfryd hwnnw, aethom ati i ddatblygu ein ‘greddfau athrawon’. Er nad oeddem wedi cymhwyso fel athrawon eto, dechreuon ni gwestiynu a newid y deunyddiau a baratowyd ymlaen llaw ar ein hail ymweliad, oherwydd roeddem yn teimlo’n awyddus i fod yn berchen ar y deunyddiau. O ganlyniad i ddefnyddio ein menter ein hunain, cawson fwy o gyfle i ymarfer sgil na fyddai fel arall yn rhan o’r lleoliad gwaith. Buom yn cynllunio ein gwersi a’n deunyddiau ein hunain, gan ymgynghori â’r athro yn yr ysgol a oedd yn goruchwylio’r rhaglen i gynnig pynciau newydd. Roedd fy mhrofiad o gynllunio gwersi yn werthfawr i mi oherwydd ces i gyfle i ddysgu effeithlonrwydd a gwerth syniadau a mewnbwn athrawon eraill. Roedd yn ddefnyddiol iawn cael ail farn, a thrydedd farn yn aml, ar y gweithgaredd roeddwn yn ei awgrymu.

Y profiad mwyaf gwerthfawr i mi oedd dysgu newid ac addasu’r wybodaeth am addysgu a oedd gen i eisoes (ar ôl cwblhau CELTA) i ddiwallu anghenion lleoliad newydd. Fodd bynnag, dysgais i fod modd trosglwyddo llawer o dechnegau ac egwyddorion addysgu i wahanol leoliadau – boed wrth addysgu Saesneg fel iaith dramor neu addysgu Saesneg mewn ysgol uwchradd. Mae hyn wedi cynyddu fy hyder i feddwl am y gwahanol fathau o fyfyrwyr y gallwn i eu haddysgu yn y dyfodol. Mae wedi bod yn dipyn o agoriad llygad i sylweddoli’r ffactorau allanol a allai effeithio ar ddysgu myfyrwyr. Er enghraifft, pwysigrwydd meithrin perthnasoedd da rhwng athrawon a myfyrwyr a gwerth cydweithio fel tîm yn y proffesiwn addysgu.

Rwy’n argymell y lleoliad gwaith hwn yn fawr i’r rhai a hoffai fod yn athrawon o unrhyw fath.  Mae wedi cynyddu fy mhotensial yn y farchnad swyddi, yn bendant: Rwyf wedi mynd o fod heb brofiad gwaith o gwbl i sawl profiad y gallaf eu cynnwys ar fy CV a chyfeirio atynt mewn cyfweliadau.

 

 

css.php