Myfyrwyr ar flaen y gad ar ôl cymryd rhan mewn lleoliad gwaith

Mae’r Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol yn cynnig nifer o gyfleoedd i wella cyflogadwyedd.

Mae un o’r lleoliadau gwaith hyn yn cynnwys gweithio fel cynorthwywyr addysgu mewn ysgolion lleol, â phwyslais ar iaith a llythrennedd, mewn grŵp ar ôl ysgol.

Mae’r lleoliad gwaith wyth wythnos yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gynllunio a chyflwyno gweithgareddau, gweld dysgu ac addysgu ar waith, gweithio gydag amrywiaeth o addysgwyr (gan gynnwys staff y brifysgol ac athrawon ysgol) a bod yn fodelau rôl i bobl ifanc efallai na fyddent wedi ystyried addysg bellach neu addysg uwch fel arall.

Isod, mae rhai o’r myfyrwyr yn esbonio sut mae’r lleoliad gwaith wedi eu helpu i gael profiad gwerthfawr o’r gweithle.

Cyfle perffaith i gael profiad gwerthfawr

 

Yn y llun: Katy Williams,Finn Basketfield, Suzanne Baker.

 

 

Suzanne Baker

Helô, Suzanne Baker ydw i, myfyriwr y drydedd flwyddyn sy’n astudio am radd BA (Anhr.) mewn Iaith Saesneg a TESOL. Roedd y lleoliad gwaith hwn o ddiddordeb i mi am fy mod i’n gobeithio bod yn athrawes. Ces i gyfle i ymarfer creu deunyddiau a chyflwyno cynnwys mewn ffordd ddynamig, fel rhan o dîm o fyfyrwyr eraill ar y lleoliad gwaith. Dwi’n falch iawn fy mod i wedi cymryd rhan; roedd cwrdd â’r myfyrwyr a gweithio gyda nhw yn uchafbwynt fy wythnos!

Katy Williams

Helô! Fy enw i yw Katy Williams a chwblheais leoliad gwaith yn Ysgol Gymunedol Dylan Thomas yn ddiweddar. Rwy’n astudio Iaith Saesneg ar hyn o bryd. Rwy’n gobeithio bod yn athrawes Saesneg mewn ysgol uwchradd ryw ddydd, felly roedd y lleoliad gwaith hwn yn gyfle i gael profiad gwerthfawr. Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda’r staff a’r myfyrwyr yn fawr a ches i fy siomi ar yr ochr orau gan frwdfrydedd y disgyblion am ddysgu a’u cyfranogiad yn y gwersi. Byddwn yn argymell y lleoliad gwaith hwn yn gryf i’r rhai sy’n ystyried gyrfa addysgu, neu’r rhai hynny sydd am feithrin eu hyder a’u sgiliau yn unig.

Finn Basketfield

Roedd gen i rywfaint o brofiad addysgu mewn ysgol gynradd eisoes a phenderfynais fy mod i am gael profiad mewn ysgol uwchradd hefyd er mwyn estyn fy ngwybodaeth a manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i mi ym Mhrifysgol Abertawe. Yn benodol, dwi wedi mwynhau dod i mewn bob wythnos a gweld yr un brwdfrydedd am yr holl weithgareddau gan y myfyrwyr yn y nawfed wythnos a oedd yn amlwg yn yr wythnos gyntaf. Roedd yn syndod i mi pa mor dda aeth y myfyrwyr i’r afael â’r pynciau trafod – dangoson nhw lawer mwy o ddiddordeb nag y byddwn i wedi’i ddangos ar yr un oedran, yn enwedig gan ystyried bod rhai o’r pynciau ar yr un lefel anhawster â Lefel A neu’n uwch. O ganlyniad i’r awyrgylch cadarnhaol cyffredinol dwi wedi’i brofi gan y myfyrwyr a Miss Green, rwyf wedi mwynhau fy amser yn addysgu yn Ysgol Dylan Thomas yn fawr ac mae wedi agor fy llygaid i bosibilrwydd addysgu. Diolch!

Maslin Costiniano

Maslin Costiniano ydw i ac rwy’n astudio Iaith a Llenyddiaeth Saesneg. Roedd y rhaglen yn apelio ataf yn y lle cyntaf oherwydd roeddwn i am gael profiad addysgu mewn ysgol uwchradd; roeddwn i’n meddwl mai hwn oedd y cyfle perffaith. Mwynheais ryngweithio â’r myfyrwyr, yn enwedig am eu bod wedi rhagori ar fy nisgwyliadau dro ar ôl tro, o ran eu dealltwriaeth a’u gwybodaeth am y pynciau lefel prifysgol roeddem yn eu hastudio. Roeddwn i’n rhyfeddu hefyd ar lefel eu creadigrwydd wrth gwblhau tasgau ysgrifennu creadigol – mwynheais ddarllen eu straeon byrion a’r dramâu gwnaethon eu hysgrifennu mewn iaith idiomatig yn benodol. Byddwn yn argymell y profiad hwn i eraill yn bendant am ei fod wedi rhoi safbwynt newydd ar addysgu i mi. Dangosodd i mi y gall addysgu gael ei wneud mewn ffordd ryngweithiol a difyr a bod yn addysgiadol ar yr un pryd.

css.php