Health Communication Research Projects in Applied Linguistics

Pictured: Xenia, Alexia, Helen, Maslin, Tess, Megan, Molly and Rhiannon

Bu dau fyfyriwr Ieithyddiaeth Gymhwysol y flwyddyn olaf, Molly Rabin a Megan Davies, yn ymgymryd â lleoliad gwaith WoW (Wythnos o Waith) eleni, gan weithio fel cynorthwywyr ymchwil, ochr yn ochr â Tess Fitzpatrick, Alexia Bowler a Helen Gray (rheolwr RDC) ar brosiect cyfathrebu iechyd gyda bwrdd iechyd lleol.

Nodau’r prosiect oedd gwerthuso dogfennau gwybodaeth cleifion, a ddarparwyd gan Glinig Diagnosis Cyflym newydd, ac awgrymu gwelliannau posib. Casglodd Molly a Megan ddata ymatebion gan 50 o aelodau’r cyhoedd a gwnaethant grynhoi’r rhain mewn adroddiad i’r gweithwyr proffesiynol sy’n rheoli’r clinig. Bydd yr argymhellion sy’n deillio o hyn o gymorth wrth lunio taflen ddiwygiedig am ofal iechyd.

Ers hynny, mae myfyrwyr o’r drydedd flwyddyn, Rhiannon Bayes, Xenia Lyu a Maslin Costiniano, wedi ymuno â Molly a Megan ar ail leoliad gwaith mewn maes cysylltiedig, ochr yn ochr â Tess, Alexia a’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, i arsylwi ac adrodd am arddulliau cyfathrebu ac ymarfer clinigol.

Mae’r lleoliad gwaith hwn yn gyfle i’r myfyrwyr gael profiad o ysgrifennu adroddiadau, gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid a gweithio mewn amgylchedd proffesiynol. Mae’r tîm wedi cael ei wahodd i gyflwyno canfyddiadau a myfyrdodau o’r mentrau hyn i’r bwrdd iechyd yn ddiweddarach yn yr haf.

Meddai Molly, “Roedd y lleoliad gwaith yn gyfle gwych i gael cipolwg ar y math o ymchwil ystyrlon sy’n cael ei wneud ym maes Ieithyddiaeth Gymhwysol. Mae’r profiad hwn wedi fy helpu i feithrin y sgiliau a fydd yn angenrheidiol i wneud ymchwil yn y dyfodol ac mae wedi gwella fy hyder, rhywbeth a fydd yn werthfawr iawn yn ystod fy MSc mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol a Chaffael Ail Iaith ym Mhrifysgol Rhydychen.”

 

css.php