Rob Penhallurick yn Freie Universität Berlin

Ar 10 Gorffennaf 2019, addysgodd Rob Penhallurick ddau ddosbarth MA mewn Ieithyddiaeth Gymdeithasol fel darlithydd gwadd yn Freie Universität Berlin, gan siarad am hanes astudio tafodieithoedd Saesneg a’r iaith Saesneg yng Nghymru. Mae gan Brifysgol Freie bron 40,000 o fyfyrwyr ac mae’n un o’r 11 o brifysgolion yr Almaen sydd wedi ennill statws ‘prifysgol rhagoriaeth’. Yn y llun isod, gwelir Llyfrgell Ieithegol y Brifysgol a ddyluniwyd gan Norman Foster ac a agorwyd yn 2005. Mae Rob wrth ei fodd yno!

css.php