Tymor Graddio a Gwobrwyo 2019

Staff yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol, o’r chwith i’r dde: Dr Cornelia Tschichold, Dr Vivienne Rogers, yr Athro Tess Fitzpatrick, Dr Jill Boggs, Dr Federica Barbieri

O ddarpar-raddedigion i raddedigion

Mae graddio bob amser yn achlysur arbennig i’r myfyrwyr a’u teuluoedd ond, hefyd, mae hwn yn ddigwyddiad gwirioneddol ystyrlon i’r staff sydd wedi eu gwylio wrth iddynt ddatblygu, o ddechrau eu taith academaidd i’r eiliad derfynol honno lle maent yn ffarwelio â ni.

Roedd eleni yr un mor arbennig ac roeddwn yn hynod falch o weld ein myfyrwyr Ieithyddiaeth Gymhwysol yn cerdded yn falch ac yn hyderus ar draws y llwyfan, wrth iddynt fynd o ddarpar-raddedigion i raddedigion.

Dymunwn bob llwyddiant i’n myfyrwyr ac anogwn hwy i gadw mewn cysylltiad, gan rannu eu straeon â ni ynghylch eu medrusrwydd fel cynfyfyrwyr Ieithyddiaeth Gymhwysol Prifysgol Abertawe.

O ran ein myfyrwyr, meddai pennaeth yr adran, yr Athro Tess Fitzpatrick,

“Mae’n fraint gennym ddod i adnabod ein myfyrwyr yn dda drwy’r blynyddoedd y maent yn astudio gyda ni ac rydym yn cydnabod y cyrhaeddiad personol enfawr, er gwaethaf amgylchiadau heriol mewn rhai achosion, y mae graddio’n ei gynrychioli. Mae’r diwrnod graddio’n gyfle i chi fyfyrio a dathlu, ond mae naws deimladwy o gyffro yn ystod y dydd hefyd. Mae graddedigion yn cyflwyno ffrindiau a darlithwyr o’r brifysgol i’w teulu a’u ffrindiau cartref, gan gysylltu’r bobl yn y rhwydweithiau personol a fydd yn eu cefnogi yn ystod eu hanturiaethau nesaf sy’n cynnwys, yn achos graddedigion eleni, interniaethau yn Tokyo, astudio ôl-raddedig yn Rhydychen a swyddi addysgu yn Tsieina ynghyd â chyrchfannau eraill.”

 

Gwobrau i Fyfyrwyr yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol

Yr Athro Paul Meara

Y llynedd, cynigiodd yr Athro Emeritws Paul Meara yn hael i ariannu gwobrau i fyfyrwyr yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol. Athro Ieithyddiaeth Gymhwysol oedd Paul ym Mhrifysgol Abertawe o 1990 i 2009, gan addysgu is-raddedigion a myfyrwyr  PhD a sefydlu rhaglen PhD dysgu o bell arloesol gyda ffocws ar ymchwil i eirfa.

Mae Paul wedi cael effaith barhaol ac  arwyddocaol ar faes Ieithyddiaeth Gymhwysol yn gyffredinol ac yn benodol ar astudiaethau geirfa. Ar y cyd â rhai o’i gyn-fyfyrwyr, mae’n parhau i ddatblygu’r ddisgyblaeth. Hefyd, mae Paul yn cynnal Lognostics, sy’n cynnwys tudalennau archif y Grŵp Ymchwil Dysgu Geirfa a nifer o offer ar gyfer ymchwil i eirfa.

Diolch i’r arian hwn, cynigiodd yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol y gwobrau canlynol i fyfyrwyr yn y flwyddyn 2018-2019:

  • Gwobr Blwyddyn Olaf Paul Meara – Caiff hon ei gwobrwyo i fyfyriwr anrhydedd uwch gorau’r flwyddyn. Eleni, dyfarnwyd y wobr i Beatrice Massa.
  • Gwobr ar gyfer Traethawd Estynedig Blwyddyn Olaf Paul Meara – Caiff hon ei gwobrwyo i draethawd estynedig mwyaf rhagorol y flwyddyn. Eleni, dyfarnwyd y wobr i Molly Rabin am ei thraethawd estynedig ar effaith y tirlun ieithyddol Cymraeg-Saesneg ar weithrediad rheolaeth ataliol unieithog”
  • Gwobr Diwedd Blwyddyn 2  Paul Meara – Caiff hon ei gwobrwyo i’r myfyriwr sydd wedi gwella’i farciau fwyaf rhwng Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2. Eleni, dyfarnwyd y wobr i Hei Man Tiffany Ng
  • Gwobr Diwedd Blwyddyn 1  Paul Meara– Caiff hon ei gwobrwyo i’r myfyriwr gorau ym Mllwyddyn 1. Eleni, dyfarnwyd y wobr i Milo Coffey
  • Gwobr Cymuned Academaidd Orau Paul Meara  – Caiff hon ei rhoi am gyfraniad rhagorol i’r gymuned academaidd yn yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol.Eleni, dyfarnwyd y wobr ar y cyd i Megan Davies a Maslin Costiniano.

Llongyfarchiadau i’n henillwyr teilwng!

Gwobr ar gyfer Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu

Dr Alexia Bowler

Eleni, derbyniodd Dr Alexia Bowler y Wobr am Ragoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu (ELTA), a ddyfernir yn flynyddol i’r aelodau hynny o staff sydd wedi cyfrannu’n aruthrol i brofiad dysgu myfyrwyr. Myfyrwyr sy’n dewis yr enwebiadau, ac yna caiff y rheiny eu cymeradwyo gan aelodau  staff   y coleg cyn i banel sy’n cynnwys Cyfarwyddwr SALT, y Dirprwy Is-Ganghellor (Academaidd), enillydd blaenorol Gwobr Addysgu’r Is-Ganghellor a swyddog sabothol yr Undeb Myfyrwyr ddyfarnu arnynt.

Nodau’r wobr yw cydnabod pa mor werthfawr yw addysgu a chefnogaeth o safon i’n myfyrwyr yng ngolwg Prifysgol Abertawe, annog ymagwedd fyfyriol at ymarfer addysgu a darparu cyfle i fyfyrwyr roi eu barn ynghylch pa athrawon fydd yn derbyn y wobr nodedig hon.

Meddai Alexia, ‘Mae wir yn anrhydedd  fy mod i wedi derbyn y wobr hon. Mae’n golygu cymaint i fi fod myfyrwyr wedi ymateb mewn ffordd sydd mor gadarnhaol.Mae’n fy annog i weithio hyd yn oed yn galetach i gynnal parch y myfyrwyr ynof fel rhywun yr ymddiriedir ynddi i gefnogi eu datblygiad addysgol a’u taith dd ysgu.’

css.php