Y Gyfres Cyflogadwyedd: Y Therapydd Iaith a Lleferydd, Marianna Puzzo, yn Sgwrsio â Myfyrwyr Ieithyddiaeth Gymhwysol gan Ed Clarke

Fel rhan o’n rhaglen cyflogadwyedd yn yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol, gwahoddwyd un o gyn-fyfyrwyr yr Adran, Marianna Puzzo, sydd bellach yn Therapydd Iaith a Lleferydd cymwysedig, i ddod yn ôl i siarad â’n myfyrwyr am yrfa bosib ym maes Therapi Iaith a Lleferydd.

Ar ôl iddi raddio mewn Iaith Saesneg ac Eidaleg yn 2014, aeth Marianna ymlaen i astudio am BMedSci mewn Gwyddor Lleferydd ym Mhrifysgol Sheffield gan gymhwyso i fod yn Therapydd Iaith a Lleferydd. Cymerodd bedair blynedd i gwblhau’r cwrs.

Dyma sylwadau Ed Clarke am y digwyddiad. Mae Ed yn fyfyriwr y drydedd flwyddyn, sydd yn ei flwyddyn olaf o astudio am radd BA (Anrhydedd) mewn Iaith Saesneg ac ef yw golygydd y cyfnodolyn a arweinir gan fyfyrwyr, Swansea Linguistic Journal ar gyfer 2018-2020.

Daeth cynulleidfa sylweddol ynghyd i glywed cyflwyniad Marianna Puzzo am weithio ym maes therapi iaith a lleferydd ac rwy’n falch fy mod i wedi mynd achos roedd y sesiwn yn addysgol ac yn hynod ddiddorol. Amrywiodd y sgwrs o wybodaeth am gyfrifoldebau Therapydd Iaith a Lleferydd o ddydd i ddydd i ddangos faint o effaith y gall gwaith therapydd iaith a lleferydd ei chael ar fywydau ei gleifion. Fel myfyriwr yn fy mlwyddyn olaf yn yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol, mwynheais i’n fawr y cyfle i ddysgu am y proffesiwn anghyfarwydd hwn. Agorodd syniadau newydd am lwybrau gyrfa posib y gallwn i eu dilyn ar ôl y brifysgol, rhai nad oeddwn i wedi eu hystyried o’r blaen.

Un o’r agweddau mwyaf diddorol ar y sgwrs oedd pan ofynnodd Marianna gwestiwn syml, sef “Beth mae therapydd iaith a lleferydd yn ei wneud mewn gwirionedd?” Cynigiodd y myfyrwyr amrywiaeth o atebion megis “helpu gyda namau ar y lleferydd” neu “helpu gyda phroblemau rhuglder”. Fodd bynnag, cawsom wybod wedyn fod cyfrifoldebau therapydd iaith a lleferydd yn ymestyn y tu hwnt i’r disgwyliadau gwreiddiol hynny. Mae’n ymddangos bod proffesiwn a sgiliau Marianna yn ei chymhwyso i helpu gyda phroblemau llyncu ac anawsterau o ran rhyngweithio cymdeithasol. Roedd yr agweddau hyn yn cynrychioli ychydig yn unig o’r amrywiaeth o broblemau mae Therapydd Iaith a Lleferydd yn helpu claf i’w goresgyn. Yn ogystal â bod yn ddiddorol, roedd hyn yn syndod mawr i mi.

Un cyfrifoldeb penodol sydd gan therapydd iaith a lleferydd a oedd yn ddiddorol i mi oedd eu bod yn rhan o dîm amlddisgyblaethol sy’n rhoi diagnosis o anawsterau penodol claf. Teimlais i fod y cyfrifoldeb hwn yn bwysig – y diagnosis hwn yw man cychwyn proses wella’r claf ac mae gan therapyddion iaith a lleferydd sgiliau penodol sy’n gallu cyfrannu at hyn. Unwaith mae diagnosis wedi’i wneud, mae hi’n gallu argymell y cynllun triniaeth a gwella mwyaf effeithiol sydd ar gael i helpu ei chlaf i’r graddau eithaf posib. Un agwedd ar y broses hon nad oeddwn i’n ei gwerthfawrogi’n llawn o’r blaen oedd pa mor amrywiol yw’r ffyrdd mae Marianna’n trin cleifion gwahanol. Esboniodd fod therapyddion yn trin cleifion o wahanol gefndiroedd, â phroblemau unigryw, ac mae’n rhaid ystyried hynny. Mae hyn yn golygu bod y ffordd y mae Marianna’n ceisio rhoi gwybodaeth i gleifion gwahanol yn amrywio’n fawr, gan ddibynnu ar nifer o ffactorau, megis eu hoedran, eu gwybodaeth flaenorol am y pwnc a’u gallu gwybyddol. Felly, mae hi’n addasu’r ffordd mae’n trafod materion drwy geisio cael cydbwysedd rhwng sicrhau bod yr wybodaeth yn ddealladwy a pheidio â hepgor gormod o wybodaeth bwysig. Dyma le mae gwybodaeth hygyrch sy’n hawdd ei darllen yn gwneud gwahaniaeth mawr. Dysgais i fod yr angen i ddarparu gwybodaeth i glaf yn y ffordd fwyaf effeithlon bosib yn allweddol i lwyddiant gan ei fod yn helpu i osgoi dryswch i’r claf. Ar ben hynny, po fwyaf o wybodaeth sydd gan glaf am ei anhawster, mwyaf bydd ei ymwybyddiaeth a’i barodrwydd am therapi.

Yr hyn a oedd fwyaf diddorol i mi oedd yr angerdd a’r gofal amlwg sy’n angenrheidiol ar gyfer y llwybr penodol hwn. Pwysleisiodd Marianna’r teimlad anhygoel sy’n deillio o wneud cymaint o wahaniaeth i fywyd rhywun, yn enwedig i gleifion sydd efallai’n ei chael hi’n anodd ymdopi â bywyd. Esboniodd y teimlad gwobrwyol mae Therapydd Iaith a Lleferydd yn ei gael drwy ddefnyddio gwybodaeth flaenorol am iaith i wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd rhywun. I mi, mae’r agwedd hon ar y swydd yn wych, gan ei bod yn darparu ymdeimlad o gyflawni sy’n rhagori ar broffesiynau eraill yn fy marn i.

Roedd Marianna’n enghraifft ysbrydoledig o raddedigion Ieithyddiaeth Gymhwysol Abertawe. Roeddech chi’n gallu gweld yr wybodaeth a ddysgodd hi ym Mhrifysgol Abertawe a’i datblygu yn Sheffield, ac roedd ei hangerdd am ei rôl bresennol yn amlwg drwy gydol ei chyflwyniad. Dangosodd i ni sut gall gweithio fel Therapydd Iaith a Lleferydd fod o fudd mawr i eraill yn y gymuned ehangach, gan roi cyfle i chi roi’r wybodaeth rydych yn ei dysgu yn y Brifysgol ar waith.

 

 

css.php