The Exchange Student Experience by Xuanmeng Lyu

Xuanmeng Lyu

Xuanmeng Lyu yw fy enw i (fel arfer byddaf yn defnyddio ffurf Saesneg ar fy enw, Xenia, yn yr ysgol). Graddiais i o Brifysgol Ieithoedd Tramor Dalian, a threuliais i flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe ar y rhaglen cyfnewid myfyrwyr, rhwng mis Hydref 2018 a mis Mehefin 2019, yn ystod fy mlwyddyn academaidd olaf. Yn ogystal ag ehangu fy ngorwelion, rhoddodd y profiad hwn syniadau i mi am lwybrau posib ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol.

Mae pobl sy’n darganfod diddordeb mewn maes penodol ac sy’n gallu ei droi’n yrfa yn hynod lwcus. Dyna rywbeth dwi wedi bod yn chwilio amdano fy hun, ers amser maith. Dwi’n siŵr fy mod i wedi dod ar draws yr hyn sy’n tanio fy angerdd mewn ieithyddiaeth a dwi’n dechrau gwireddu breuddwyd o yrfa mewn ieithyddiaeth tra’n astudio ar y rhaglen gyfnewid ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn ystod y cwrs yma, dwi wedi elwa o’r cyrsiau diddorol a dechreuais i ddeall y posibiliadau a’r cysylltiadau niferus rhwng ieithyddiaeth a meysydd eraill – dechreuais i gwympo dros fy mhen a’m clustiau mewn cariad ag ieithyddiaeth hyd yn oed! Drwy fodiwlau megis Iaith Bywyd Pob Dydd, dysgais i am y berthynas rhwng iaith a chyd-destunau cymdeithasol a diwylliannau (drwy gyfryngau amrywiol). Yn y modiwl Caffael Iaith Gyntaf, dysgais i sut gallem ddefnyddio ffenomenau ieithyddol, megis ffonoleg a morffoleg, i esbonio camau gwahanol yn natblygiad iaith plant. Mewn Seicoieithyddiaeth, ces i ddealltwriaeth drylwyr o sut mae’r ymennydd yn cynhyrchu meddyliau ac yn creu brawddegau ystyrlon o unedau ieithyddol annibynnol, proses sy’n cael ei harchwilio drwy fMRI, EEG a chyfleusterau dilyn symudiad y llygad. Ar ben hynny, roedd elfen gwaith cwrs y modiwl Seicoieithyddiaeth yn gyffrous. Y dasg oedd darganfod pa fath o affasia a oedd gan bedwar claf, yn seiliedig ar ddadansoddiad o’u sgyrsiau. Sylweddolais i y gall hyd yn oed yr uned iaith leiaf ddangos y cysylltiad rhwng prosesu iaith a gweithrediad yr ymennydd. Dangosodd y modiwlau roeddwn i’n eu hastudio bŵer iaith a’r ffyrdd y gallwn ei defnyddio i ddatrys problemau ymarferol, a oedd yn syndod mawr i mi!

 

Xuanmeng Lyu

Mae Prifysgol Abertawe a’r Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol yn darparu llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr eu gwella eu hunain. Er enghraifft, ces i gyfle i astudio modiwlau sgiliau ychwanegol wedi’u trefnu gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd, gan ymgynghori â’m hathrawon, wrth i mi geisio gwella fy sgiliau astudio a’m hyfedredd ysgrifennu academaidd. Ar wahân i’r astudiaethau academaidd, ces i brofiad gwobrwyol oherwydd ces i gyfle i gwblhau lleoliad gwaith WOW (Wythnos o Waith). Gwnaeth y lleoliad gwaith gwirfoddol hwn wella fy ngwybodaeth ieithyddol. Yn ystod y lleoliad, roeddwn i’n arsylwi ar sgyrsiau (gan gynnwys ciwiau di-eiriau fel ystumiau a newid tôn llais) rhwng cleifion a meddygon mewn ysbyty lleol. Ar y cyd â’r tîm ymchwil myfyrwyr (dan arweiniad Dr Alexia Bowler a’r Athro Tess Fitzpatrick), dadansoddais i’r data a lluniais i adroddiad am ein canfyddiadau ar gyfer y bwrdd iechyd lleol, gan ddarparu argymhellion ynghylch sut i gefnogi cyfathrebu rhwng clinigwyr a chleifion. Fy rheswm dros wneud cais am y lleoliad gwaith hwn oedd ei fod yn cynnig cyfle prin i weithio gyda staff proffesiynol mewn ysbytai. Hefyd, roedd yn gyfle i mi baratoi ar gyfer gweithgareddau ymchwil yn y dyfodol.Roedd yn gyfle prin i mi gael profiad o faes newydd a ches i fy annog i feithrin fy niddordeb mewn ieithyddiaeth a’i roi ar waith mewn meysydd eraill. Hefyd, bues i’n addysgu Saesneg bob wythnos, fel athro gwirfoddol, i geiswyr lloches a ffoaduriaid mewn cymuned leol, gyda’r elusen Unity and Diversity, am oddeutu saith mis. Heb cwricwlwm penodedig, cynlluniais i’r cynnwys a’i baratoi fy hun. Roedd yn her, ond bob wythnos, byddwn i’n dysgu ac yn myfyrio ar fy nulliau addysgu, gan ystyried anghenion y dysgwyr bob amser. Dysgais i am amrywiaeth ddiwylliannol hefyd a dysgais i ychydig o eiriau Arabeg hyd yn oed ar ôl y dosbarth! Roedd yn gyfle hynod werthfawr i roi fy nysgu academaidd ar waith.

O ganlyniad i’m blwyddyn o astudio, dwi wedi dysgu sut i addasu i syniadau newydd, potensial amgylchedd dysgu newydd a heriol a brwdfrydedd cyson a datblygais i sgiliau datrys problem. Hefyd, fe wnes i ddarganfod yr hyn sy’n tanio fy angerdd! Ar hyn o bryd, dwi’n astudio am MSc TESOL ym Mhrifysgol Caeredin, a dwi’n mwynhau’r rhannau lle mae gwybodaeth ieithyddol yn cael ei chyfuno â phrosesau prosesu iaith. Felly! Dyw hi byth yn rhy hwyr i wireddu fy mreuddwyd, a gobeithio y bydda i’n gallu rhoi fy ngwybodaeth am ieithyddiaeth ar waith yn fy ngyrfa yn y dyfodol!

css.php