Student Comments – Sylwadau Myfyrwyr

Enw: Mike Kettle

Cymhwyster: MA in TESOL, 2018

Sefyllfa Bresennol:   Iaith Saesneg yng Kanda University of International Studies, Chiba, Japan.

Yr hyn oedd ganddo i’w ddweud: Yn 2017, cofrestrais ym Mhrifysgol Abertawe am drydydd tro i ennill gradd Meistr mewn dysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill (TESOL) oherwydd gall y cymhwyster hwn agor drysau newydd i gyfleoedd sydd hyd yn oed yn gyfoethocach. I ddechrau, dewisais Brifysgol Abertawe oherwydd y profiadau gwych roeddwn i wedi eu cael yma yn y gorffennol, ond dysgais hefyd fod statws uchel iawn gyda’r MA TESOL ymhlith sefydliadau rhyngwladol. Wir i chi, ychwanegodd cynnwys y cwrs a chefnogaeth y gyfadran fewnwelediad academaidd craff i’m profiadau blaenorol gan roi nid yn unig mwy o hyder i mi, ond set hollol newydd o ffyrdd i ddatblygu fy ngyrfa’n gyflym iawn. O fewn dau ddiwrnod o gyflwyno fy nhraethawd estynedig ym mis Medi 2018, mae’r MA wedi arwain at gyfleoedd unigryw, gan gynnwys cyfweliadau â phrifysgolion breintiedig yn Siapan a sefydliadau Awyrofod yn Sawdi-Arabia.  Ar ben yr hyder a’r dulliau newydd, helpodd y cwrs i mi fireinio fy nghymeriad. Mae hyn oherwydd bod y safonau a ddisgwylir gan ein darlithwyr yn uchel.  Maen nhw’n disgwyl ansawdd ac yn darparu cefnogaeth wych i fyfyrwyr sy’n fodlon ymgymryd â’r her.  Hoffwn gau drwy fynegi diolchgarwch a gwerthfawrogiad calonnog i’r gyfadran MA TESOL am eu cefnogaeth a’u harweiniad.  Unwaith eto, mae wedi bod yn agoriad llygad 🙂

Cliciwch YMA os hoffech ddarllen rhagor am brofiad Mike ar MA TESOL.

Enw: : Mink Yuthika

Cymhwyster: MA TESOL 2017

Y Sefyllfa Bresennol: Iaith Saesneg yng, Ysgol y Celfyddydau Breiniol ym Mhrifysgol Phayao, Gwlad y Thai

Yr hyn oedd ganddi i’w ddweud:  Roeddwn i wrth fy modd â chefnogaeth yr holl ddarlithwyr. Roeddent yn trin myfyrwyr â pharch ac yn ein hannog i rannu syniadau â’n gilydd yn y dosbarth. Roedd yr arddull ddysgu hon yn effeithiol iawn yn fy marn i. Byddwn i’n dweud fy mod i wedi hoffi’r holl ddarlithoedd ond, a bod yn onest, roeddwn i hefyd yn teimlo dan ychydig o straen bob tro yr oedd gennyf ddyddiau cyflwyno aseiniad neu arholiad, yn enwedig wrth geisio gorffen aseiniadau cyn dathlu’r Nadolig yn yr Alban!

Fodd bynnag, diflannodd y pwysau pan gyflwynais i fy nhraethawd. Ar yr un pryd, roedd yr adeg honno o ymlacio hefyd yn peri llawer o deimladau oherwydd fy mod i’n gwybod bod fy amser hapus iawn yn astudio yn Abertawe bron ar ben.

I mi, roedd gwneud MA TESOL yn basbort a wnaeth fy helpu i sefydlu fy ngyrfa addysgu. Defnyddiais fy ngwybodaeth ynghylch addysgu iaith a sgiliau ymchwilio a oedd yn fy ngalluogi i gael safbwynt ehangach ar addysgu Saesneg.

Byddwn yn argymell yr MA TESOL ym Mhrifysgol yn fawr. Byddwch ymhlith pobl gefnogol. Ar ôl gorffen y cwrs hwn, rwyf wedi datblygu nid yn unig fy sgiliau proffesiynol ond rwyf hefyd wedi magu hyder wrth addysgu Saesneg. Dyma oedd un o’r penderfyniadau gorau rwyf erioed wedi’i wneud!

Cliciwch YMA  os hoffech ddarllen rhagor am brofiad Mink ar MA TESOL.

Enw: Mary Ritchie

Cymhwyster:MA TESOL, 2017

Sefyllfa Bresennol:  Addysgu rhyddlaw

Yr hyn oedd ganddi i’w ddweud:“Roedd yn fraint i mi astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Alla i ddim â’i gymharu â’m gradd israddedig ym Mhrifysgol Glasgow. Efallai ar lefel israddedig nad oeddwn i’n ddigon aeddfed i werthfawrogi’r fraint o allu astudio. Fodd bynnag, y tro hwn, roeddwn yn ymwybodol iawn o’r cyfle roeddwn i’n ei gael.Roedd y gefnogaeth o’r darlithwyr yn rhagorol. Roeddent yn trin y myfyrwyr â pharch ac yn ein hannog yn fawr iawn i ymchwilio’n annibynnol, gan roi’r holl gefnogaeth i ni a oedd ei hangen. Roeddwn i’n dwlu ar y darlithoedd.Byddwn yn argymell yr MA ym Mhrifysgol Abertawe i unrhyw un yn fawr iawn. Roeddwn i’n dwlu ar fy amser yno ac yn gweld ei eisiau. Mae gwneud y cwrs wedi cynyddu fy hyder wrth addysgu Saesneg, a dw i’n gweld eisiau nifer o’r myfyrwyr Tsieineaidd sy’n astudio cyrsiau Safon Uwch.Gan fod Abertawe’n Ddinas Noddfa yn y DU, mae’r cyfleoedd i helpu eraill ac addysgu Saesneg i geiswyr lloches a ffoaduriaid yn ddiddiwedd.Felly, dw i’n gyffrous am y dyfodol ac yn edrych ymlaen at y cyfleoedd sydd i ddodd.”

Cliciwch YMA os hoffech ddarllen rhagor am brofiad Mary ar MA TESOL.

css.php