Gall myfyrwyr sy’n astudio graddau BA ag Iaith Saesneg neu TESOL fynd ar flwyddyn neu semester dramor.
Fideo o Sophie yn trafod ei phrofiadau o astudio yn San Diego, USA.
Opsiynau semester dramor
Gall myfyrwyr astudio ail semester yr ail flwyddyn mewn prifysgol arall. Pan fyddwch chi dramor, byddwch yn astudio mewn prifysgol arall a bydd angen i chi astudio modiwlau o restr a gymeradwywyd oherwydd bydd y marciau hyn yn cyfrannu at ganlyniad eich gradd derfynol. Ymysg y gwledydd/prifysgolion y cewch fynd iddyn nhw mae’r canlynol:
- Hong Kong:
- Prifysgol Lingnan,
- Prifysgol City (i’w gadarnhau) neu
- Prifysgol y Bedyddwyr Hong Kong
- Tsieina: Coleg Unedig Rhyngwladol
- Singapôr: Prifysgol Dechnolegol Nanyang
- UDA:
- Prifysgol Maryland Swydd Baltimore,
- Prifysgol Oklahoma
- Talaith California (hyd at 23 campws gwahanol)
Opsiynau blwyddyn dramor
Os byddwch yn dewis gwneud blwyddyn dramor, bydd hyn yn ychwanegol at eich tair blynedd yn Abertawe ac mae’n digwydd rhwng yr ail a’r drydedd flwyddyn. Mae’r opsiynau yn cynnwys y rhestr ganlynol ond rydym yn ychwanegu lleoedd newydd yn rheolaidd.
- Awstralia:
- Prifysgol New South Wales
- Prifysgol Newcastle
- Canada:
- Prifysgol Concordia
- Prifysgol Brock
- Prifysgol Trent
- Ffrainc: Rennes
- Yr Almaen: Bonn
Bydd gennym ni nifer o leoedd hefyd yn:
- UDA: system Talaith California (gwneud cais i un o’r 23 campws ledled y dalaith)
- UDA: Oklahoma a Maryland
- Tsieina/ Hong Kong
- Seland Newydd
- De Corea
Nodwch:
Mae angen i fyfyrwyr sy’n astudio gradd cydanrhydedd ag ieithoedd modern dreulio blwyddyn dramor mewn gwlad lle siaredir yr iaith darged i gyflawni gofyniad iaith fodern y rhaglen radd honno.