Hanesion o Lwyddiant yr MA

Ceir yma rai o hanesion llwyddiant cyn-fyfyrwyr ar ein rhaglen MA TESOL (MA TEFL yn flaenorol)

Craig Jones, MA TEFL 2015-2016

Swydd ar ôl Graddio: Athro Saesneg (Prifysgol Chubu a Phrifysgol Nanzan, Japan)

Sylwadau Craig am ei gwrs MA:

Roedd yr MA TEFL (TESOL erbyn hyn) yn brofiad gwych i mi – un sy’n golygu bod fy ngyrfa wedi datblygu i lefel arall. Roedd cydbwysedd rhagorol rhwng theori ac ymarfer addysgu. Roedd yr hyfforddwyr yn gymorth mawr a gwnaethon nhw fy ngalluogi i ddatblygu i fod yn athro mwy proffesiynol. Rhoddodd y cwrs gipolwg amhrisiadwy i mi hefyd ar ochr academaidd addysgu ac ieithyddiaeth. Gadewais y cwrs yn teimlo’n hyderus y gallwn i wneud fy ymchwil fy hun yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, rwy’n addysgu mewn tair prifysgol yn Nagoya, Japan, ac yn ddiweddar gwnes fy nghyflwyniad proffesiynol cyntaf yn Arddangosfa Addysgu Iaith Chubu Japan.

***

Ashwaq Alshaikhi, MA TESOL 2015-2016 

Teitl swydd: Hyfforddwr Iaith, North West Armed Forces Hospital (NWAFH) (cangen o Prince Sultan Military College of Health Sciences), Saudi Arabia.

Sylwadau Ashwaq am ei chwrs MA:

Yn rhan o fy MA TESOL, gwnes draethawd hir o’r enw ‘The Impact of English Textbooks on Learners’ Vocabulary Acquisition in Saudi Public Schools’. Dangosodd fy astudiaeth berthynas rhwng ymdriniaeth o eirfa mewn cenhedlaeth newydd o lyfrau testun a ddefnyddir mewn ysgolion yn Saudi a geirfa myfyrwyr yn Saudi. Ynghyd â fy ngoruchwyliwr, yr Athro Jim Milton, ysgrifennais adroddiad ar yr astudiaeth mewn erthygl ar gyfer TESOL Arabia Perspectives (cyhoeddwyd Chwefror 2017). Mae’r rhaglen hon wedi fy newid i’n academaidd trwy gyfoethogi fy nealltwriaeth o’r pynciau a astudiwyd, ac o’r proffesiwn addysgu. Mae fy mhrofiad i yn Abertawe wedi effeithio’n fawr iawn ar sut rwy’n meddwl yn bersonol ac yn academaidd. Roedd un o’r prif agweddau ar fy llwyddiant yn ganlyniad y modd yr oedd yr hyfforddwyr yn ein trin ni. Wna i byth anghofio’r hyn a ddywedodd yr Athro Milton wrthyf y tro cyntaf iddo weld canlyniadau fy ymchwil, “weithiau rydyn ni’n addysgu myfyrwyr i fod yn well na ni.” Roeddwn i mor falch o’r hyn a ddywedodd e.”

 ***

Magdalena Chowaniec, MA TEFL 2013-2014

Swydd ar ôl Graddio: Athrawes Gyflenwi

Cafodd Magdalena ei chynnwys yn yr hanesion o lwyddiant ar gyfer Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn 2015. Gallwch ddarllen mwy am ei stori yma.

Sylwadau Magdalena am ei chwrs MA:

Rwyf mor falch fy mod wedi dewis Abertawe am gymaint o resymau. Yn sicr dyma benderfyniad gorau fy mywyd. Roedd fy amser yn Abertawe yn fythgofiadwy ac yn straen – roedd astudio rhaglen amser llawn a gweithio i gefnogi fy astudiaethau wrth gwrs yn anodd ar adegau. Ond roeddwn i wrth fy modd gyda chymorth a chefnogaeth y staff a oedd mor frwdfrydig ynglŷn â’u pynciau ac mae fy niolch iddynt yn fawr iawn. Os ydych chi’n ymrwymo’n llawn i ddysgu yn gydwybodol ac yn drylwyr, rydych chi’n sicr o lwyddo a chael amser gwych, ac rwy’n gwybod hyn o brofiad personol. Heb os nac oni bai, rwy’n credu bod Abertawe yn Brifysgol ragorol a blaengar. Roeddwn i’n dwlu ar y ffaith fy mod yn gallu dewis y modylau ar gyfer fy ngradd, a oedd yn berthnasol i fy ngyrfa yn y dyfodol. Rhywbeth arall yr oeddwn i’n dwlu arno am fy ngradd oedd y ces i gyfle i gynnal astudiaeth i’r gwahaniaethau rhwng sut mae pobl yn ymddiheuro yn yr iaith Saesneg a’r iaith Pwyleg. Roeddwn i wrth fy modd â’r profiad ymchwil hwn oherwydd roedd yn gyfle imi ymchwilio i weithred lafar benodol yn fanwl ac o safbwynt traws-ddiwylliannol. O’r profiad hwn rwyf i wedi fy ysbrydoli i ystyried gwneud ymchwil pellach a sylweddoli pa faes yr hoffwn i ymchwilio iddo yn y dyfodol, sef y gwahaniaethau traws-ddiwylliannol rhwng Pwyleg a Saesneg.

css.php