Mae gan yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol broffil ymchwil cryf mewn nifer o feysydd arbenigol. Mae’r rhain yn cynnwys astudiaethau geirfa, dysgu ail iaith, dadansoddi trafodaethau, ieithyddiaeth corpws, pragmateg ac addysgeg iaith. Adlewyrchir llawer o’r rhain mewn llawer o’r modylau a gynigir yn ein cynlluniau gradd.
Rydym wedi buddsoddi’n ddiweddar mewn labordy ymchwil Ieithyddiaeth Gymhwysol, sy’n cynnwys traciwr llygaid a meddalwedd amser adweithio. Bydd cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio’r cyfleusterau hyn yn ystod eu traethodau hir, yn dibynnu ar y pwnc y maen nhw wedi’i ddewis.
Mae ein staff yn aelodau o’r Ganolfan Ymchwil Iaith (LRC), canolfan fyd-eang ar gyfer ymchwil empirig disgyblaeth sengl, rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol i ddata a phrosesau iaith. Mae’n tynnu ynghyd academyddion ac ymchwilwyr ôl-radd o bob rhan o Brifysgol Abertawe ac yn cysylltu eu gweithgareddau â rhai rhwydwaith byd-eang y Ganolfan o Aelodau Cysylltiedig a myfyrwyr doethuriaeth dysgu o bell.
Mae Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethauyn tynnu ynghyd academyddion, ôl-raddedigion ac ysgolheigion cenedlaethol a rhyngwladol sy’n ymweld i greu amgylchedd ymchwil cyfoethog a bywiog â’r nod o gyflawni rhagoriaeth ac effaith ryngwladol.
Ein cyfarwyddwr ymchwil ôl-raddedig yw’r Athro Jim Milton (j.l.milton@swansea.ac.uk)