Digwyddiadau

Yn yr adran Iaith Saesneg a TESOL (TEFL yn flaenorol) yn Abertawe, mae gennym ni amrywiaeth o ddigwyddiadau a siaradwyr allanol. Mae rhai o’r digwyddiadau yn gynadleddau allanol a gynhelir yn Abertawe, mae rhai wedi’u trefnu’n lleol ac mae rhai wedi’u trefnu ar y cyd â’r Ganolfan Ymchwil Iaith.

Cynadleddau diweddar

Advances in identifying formulaic sequences: a methodological workshop. Gweithdy FLaRN 2016

IMG_2995 - cropped2

Dathlodd y Rhwydwaith Ymchwil Iaith Fformwläig, FLaRN yn fyr, ei ddegfed flwyddyn yn 2014, ac mae wedi denu myfyrwyr ac academyddion o bob rhan o’r byd i weithdy ymarferol ym Mhrifysgol Abertawe wedi’i gynnal gan Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (RIAH) Prifysgol Abertawe, a Chanolfan Ymchwil Iaith (LRC) Prifysgol Abertawe.

Trefnwyd gweithdy eleni gan Dr Maria Fernandez-Parra (Cyfieithu) a Dr Vivienne Rogers (Iaith Saesneg) o Brifysgol Abertawe.

“Roedd y gweithdy hwn, yn yr un modd â’r gynhadledd FLaRN y gwnaethom ni ei drefnu yn 2014, yn wirioneddol ryngwladol yn y diwedd,” meddai Dr Fernandez-Parra. “Roeddem wrth ein boddau yn croesawu ysgolheigion dylanwadol o’r DU ac o Sweden, Japan, Twrci a lleoedd eraill.

“Mae hyn wedi rhoi cyfle gwych ac unigryw i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe a’r holl fyfyrwyr doethuriaeth eraill a oedd yn bresennol gyflwyno’u gwaith presennol ar lefel ryngwladol, cwrdd ag ysgolheigion dylanwadol a thrafod eu gwaith â nhw yn bersonol.”

Dywedodd Dr Rogers fod trefnwyr yn hapus iawn â’r ymateb. “Roeddem ni’n wirioneddol wrth ein boddau bod y gweithdy yn llwyddiant” meddai. “Sefydlwyd FLaRN gan yr Athro Alison Wray o Brifysgol Caerdydd yn 2004 i gydgysylltu gwaith ymchwil ym maes iaith fformwläig – mae hyn yn cynnwys idiomau, mynegiannau sefydlog a chyfuniadau eraill o eiriau sy’n ymddwyn yn debyg mewn termau ieithyddol.”

“Hoffem ni ddiolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth a gwneud y digwyddiad yn llwyddiant mor ysgubol! Y digwyddiad nesaf sy’n ymwneud ag Iaith Fformwläig fydd y gynhadledd FLaRN yn Vilnius, Lithuania, ar 28-30 Mehefin. Yn y cyfamser, gall y rhai a ddaeth i’r gynhadledd ac unrhyw arall sydd â diddordeb, barhau â’r ddadl ar-lein trwy’r wefan www.flarn.org.uk.”

“New Approaches to Vocabulary Studies” Cynhadledd flynyddol Grŵp Diddordeb Arbennig Geirfa y BAAL 2015

Adroddiad ar ôl y gynhadledd – Ysgrifennwyd gan Yixin Wang a Michael Daller

BAAL vocab sig participants

Cynhaliwyd cynhadledd flynyddol grŵp diddordeb arbennig Geirfa y BAAL ar 2 a 3 Gorffennaf, 2015 ar gampws Parc Singleton Prifysgol Abertawe. Hwn yw’r ail waith i aelodau’r grŵp diddordeb arbennig Geirfa gwrdd ers ei sefydlu gan yr Athro James Milton yn 2010. Ei nod yw casglu’r astudiaethau geirfa diweddaraf a thrafod datblygiad astudiaethau geirfa yn y dyfodol.

Croesawodd y gynhadledd hyd at 30 o ymchwilwyr cynnar ac ysgolheigion uchel eu parch o wahanol brifysgolion yn y DU, a’r tu allan i’r DU, fel Sbaen, Saudi Arabia, Gwlad Pwyl, Tsieina ac ati. Darparodd y digwyddiad fan cyfeillgar a chefnogol i rannu ymchwil diweddar i astudiaethau geirfa. Denodd nifer heb ei debyg o gynigion poster a phapur o safon.

Dechreuodd y gynhadledd â gweithdy rhagarweiniol, wedi’i gyflwyno gan Dr Cris Izura, yn cyflwyno tracio llygaid, arbrofion geirfa, rhaglenni a chofnodi amseroedd adweithio. Darparodd siaradwyr y sesiwn lawn, yr Athro Tess Fitzpatrick o Brifysgol Caerdydd a’r Athro Jeanine Treffers-Daller o Brifysgol Reading, safbwyntiau amrywiol ar y trafodaethau ynglŷn ag astudiaethau geirfa. Mewn sesiwn holi ac ateb, trawyd y gynulleidfa gan yr egni deallusol a’r trylwyredd academaidd a oedd yn cael ei arddangos.

css.php