The Gower Glossary: The Lexicographic Journey to Publication – gan Ben Jones

Ben Jones

Beth yw tafodiaith Gŵyr? O ble y daeth hi? A yw’n cael ei defnyddio heddiw o hyd?

Mewn cyhoeddiad newydd gennyf i a Dr Rob Penhallurick, The Gower Glossary (2018), rydym yn arholi rhai o’r cwestiynau hyn am hen dafodiaith Saesneg Penrhyn Gŵyr.

Gan gael ei gwahanu o dir mawr Cymru o mor gynnar â’r 1100au, cafodd Saesneg penrhyn Gŵyr ddechrau cynnar fel un o’r amrywiaethau Saesneg cyntaf y tu allan i Loegr, a chyda chysylltiad hwyrach â thafodieithoedd ar groes Môr Hafren yn ne-orllewin Lloegr daeth i fod yn dafodiaith unigryw iawn.O tinmeats (cig dafad a goginiwyd mewn tinau ar gyfer priodasau) a dumbledareys (chwilod y bwm) i inklemakers (pobl weithredol) a ’being as tight as a wheel’ (i fod yn feddw), datblygodd Penrhyn Gŵyr ystod eirfaol gyfoethog ar ei ‘ynys ieithyddol’.

Cafodd ein llyfr newydd ei gyhoeddi gydag ychydig o gymorth gan Bartneriaeth Tirwedd Gŵyr, menter a ariennir gan y cyngor sydd wedi goruchwylio prosiectau sy’n ymwneud â Phenrhyn Gŵyr dros y blynyddoedd diwethaf.Gan fod gennyf rywfaint o brofiad blaenorol wedi i mi wneud prosiect geirfaol arall (fy nghyhoeddiad cyntaf oedd:Welsh English Dialect (2016)),  roeddwn i’n gallu defnyddio fy sgiliau fel prif ysgrifennydd a golygydd ar gyfer yr eirfa newydd.

A gambo, llun fel Canolfan Treftadaeth Gŵyr

Gan ddechrau ym mis Tachwedd 2017 (a phrin wedi adfer ar ôl cyflwyno fy noethuriaeth PhD), dechreuodd fy nhasg ar gyfer prosiect ieithyddol Newydd Partneriaeth Tirwedd Gŵyr. Y bwriad?Ail-weithio a golygu llyfr academaidd arloesol Rob Penhallurick ar dafodiaith Penrhyn Gŵyr, Gowerland and Its Language (1994), sydd bellach allan o brint, i gyflawni cyhoeddiad newydd.

Casgliad Penhallurick oedd y testun cyntaf i gynnwys yr holl ymchwil flaenorol ar y dafodiaith mewn un gyfrol: un gronfa dafodieithol. Mae’n cynnwys popeth o restr eiriau Isaac Hamon o 1697, y daethpwyd o hyd iddi mewn llythyr i ysgolhaig ieithyddol o’r un meddylfryd, i Gower Gleanings (1951) gan Horatio Tucker, un o lyfrau tywys mwyaf poblogaidd canol yr ugeinfed ganrif ar benrhyn Gŵyr. Hefyd wedi’i gynnwys yw’r data o Survey of Anglo-Welsh Dialects, sef arolwg arloesol Prifysgol Abertawe ar amrywiaethau Cymreig ar Saesneg dan arweiniad David Parry yn y 1960au.

Fodd bynnag, nod y prosiect hwn oedd nid yn unig dod o hyd i ffordd newydd o gyflwyno’r deunydd hwn am dafodiaith penrhyn Gŵyr ond hefyd i greu geirfa i ddarllenwyr cyffredinol: un a oedd yn hygyrch i bobl nad ydynt yn arbenigwyr, ar draws pob grŵp oedran.Yn wir, roedd prif gorff y testun yn eirfa – casgliad enfawr o eitemau geirfaol, tua 600 ohonynt i fod yn gywir!

A oedd yna ffordd newydd o gyflwyno’r wybodaeth eirfaol hon?Ei chyflwyno ar wedd newydd? I ddechrau, cyfyngais i ar nifer yr eitemau: Cyfunwyd rhai eitemau, hepgorwyd rhai geiriau o’r ugeinfed ganrif hwyr, yn ogystal â rhai geiriau a oedd yn nodweddiadol o dafodieithoedd Saesneg eraill. Y cyfanswm terfynol oedd 330, tua hanner y stoc wreiddiol o eiriau. Mae’r nifer yn weddol sylweddol o hyd o gofio bod y llyfr poced terfynol yn cynnwys 68 tudalen.

Un o’r pethau cyntaf a oedd yn amlwg wrth hidlo drwy gymaint o ddeunydd tafodiaith oedd bod y rhai a oedd wedi creu geirfaoedd blaenorol wedi casglu geiriau o amrywiaeth eang o brofiadau gwledig. Wrth i mi chwilio drwy’r eitemau, daeth yn fwy eglur y byddai modd rhannu’r deunydd yn bum categori disgrifiadol gwahanol. Yn sydyn, roedd gennym ni ffordd newydd sbon o gyflwyno deunydd geirfaol.Trodd y pum categori hwn yn bum pennod yn seiliedig ar ddisgrifiadau, bwyd a choginio, planhigion ac anifeiliaid, gwrthrychau a phobl ac idiomau ac ymadroddion.Y bwriad yma yw y bydd darllenwyr yn gallu neidio i mewn i’r gronfa sydd ar ffurf gwyddoniadur â themâu,ar sail y math o air y maent yn chwilio amdano.

Y dasg olaf a osodais i fi fy hun oedd rhoi cyd-destun. Wedi darganfod wrth ymchwilio ar gyfer fy PhD y gall ysgrifenwyr creadigol (beirdd, nofelwyr, gwneuthurwyr ffilm) ddefnyddio tafodiaith i ychwanegu ‘realaeth’ at eu gwaith, sylwais ar gyfle unigryw i gasglu rhywfaint o ‘farddoniaeth dafodieithol’ orau Penrhyn Gŵyr ar gyfer y gwaith. Treuliais amser yn archif Llyfrau Prin Prifysgol Abertawe yn ogystal â’r Ganolfan Ddinesig, gan nodi tair cerdd a oedd yn cynnwys gair o benrhyn Gŵyr.

Hefyd, roedd y gwaith o roi cyd-destun i’r gwaith yn cynnwys enghreifftiau darluniadol, a oedd yn golygu yr oeddem yn gall paru rhai geiriau tafodieithol â delweddau, megis gambo (sef cart fferm â dwy olwyn neu â phedair olwyn sy’n aml iawn yn agored) a llun a gymerais yng Nghanolfan Treftadaeth Gŵyr, sef amgueddfa awyr agored yn Parkmill.

Mae’r prosiect hwn ar dafodiaith Penrhyn Gŵyr yn ddechreuad i rywbeth llawer mwy o ran maint a hefyd o ran gwaith cydweithredol, a dyma pam y mae gan yr argraffiad hwn is-deitl ‘argraffiad cyfyngedig’.Rydym ni eisoes wedi derbyn ymatebion gwych gan bobl sydd eisoes wedi cysylltu â ni ynghylch eu dealltwriaeth o’r hen dafodiaith a fydd yn werthfawr wrth symud ymlaen ag argraffiadau o The Gower Glossaryyn y dyfodol.

Mae The Gower Glossary ar gael nawr. Os hoffech chi gopi, cysylltwch â Ben!

Mae Benjamin A. Jones newydd orffen ei PhD ar astudiaethau tafodieithol yn Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol Prifysgol Abertawe. Teitl ei ddoethuriaeth yw A History of the Welsh English dialect in fiction.

 

css.php