Y Cyfweliad Hir – Dr Rob Penhallurick ar ei lyfr newydd Studying Dialect (Palgrave, 2018)

Dr Rob Penhallurick

Mae Dr Rob Penhallurick wedi bod yn addysgu ym Mhrifysgol Abertawe ers ugain mlynedd neu fwy ac mae’n arbenigo mewn astudio amrywiaethau Saesneg. Ar hyn o bryd mae’n addysgu’r modiwl blwyddyn gyntaf Astudio Iaith Saesneg, y modiwl ar Astudio Tafodiaith ym mlwyddyn dau, a’r modiwl Cyn Hanes, Hanes ac Iaith yn y flwyddyn olaf, yn ogystal â goruchwylio traethodau hir israddedigion ac ymchwil doethuriaeth.

Mae ei lyfr newydd Studying Dialect (Palgrave Macmillan, 2018) yn llyfr testun sy’n rhoi hanes yr ymchwil diddorol i dafodieithoedd ac amrywiaethau Saesneg.

 

Ym mis Mai, anerchodd Rob gynulleidfa lawn yng Ngŵyl y Gelli (gŵyl lenyddiaeth a’r celfyddydau sefydledig a gynhelir yn y Gelli Gandryll) ar ‘Why Dialect Fascinates Us: a Guide to What we Know About Varieties of English’

Cefais i’r cyfle i siarad â Rob yn lansiad ei lyfr yn gynharach fis Mai, a gynhaliwyd yn y lleoliad newydd Taliesin Createar Gampws Singleton Prifysgol Abertawe.

AB: Am beth y mae’r llyfr a pham wnaethoch chi ei ysgrifennu?

RP: Mae’n fath o lyfr dilynol answyddogol i’r llyfr testun cyntaf y gwnes i ei ysgrifennu o’r enw Studying the English Language (Palgrave Macmillan, 2003; 2010). Mae’n sôn am dafodiaith ond mae’n sôn yn fwy am sut a pham mae pobl wedi astudio tafodiaith — tafodieithoedd Saesneg — ar hyd y canrifoedd. Felly, mae’n edrych ar dafodiaith ei hun ond hefyd ar y rhesymau dros ei hastudio, a’r dulliau y mae pobl wedi’u defnyddio i’w hastudio.

AB: Rwy’n gallu gweld bod themâu wedi’u nodi’n glir ar gyfer y darllenydd (geiriaduraeth, cartograffeg, ieithyddiaeth ddaearyddol, er enghraifft). Beth oedd y sail resymegol dros y dewisiadau hynny, neu beth oedd eich gweledigaeth chi ar gyfer y llyfr?

RP: Chi’n iawn. Mae amryw o themâu yn y llyfr. Yn fras, mae’n naratif cronolegol hefyd, ond cymerodd lawer o waith i’w roi ar y ffurf honno! Yn amlwg, pan fyddwch chi’n dechrau ysgrifennu llyfr, mae gennych syniad o beth fydd ar y dechrau, ac wedyn mae’n newid llawer wrth i chi ddarganfod yr holl bethau doeddech chi ddim yn eu gwybod wrth ddechrau prosiect fel hwn, sy’n rhan o’r mwynhad o ymchwilio. Yn wir, y nod yn y pen draw oedd cael deg pennod yn adrodd y stori — naratif syml, hanesyddol — ond roeddwn i hefyd eisiau i’r penodau beidio â bod yn fater o ‘digwyddodd hyn bryd hyn digwyddodd hynny bryd hynny’.  Roeddwn i eisiau iddyn nhw fod yn thematig, ac felly’n llunio darlun o faes cyfan.

Cyhoeddiad Newydd ar gyfer 2018

AB: Broadly speaking, how do you map out this journey of dialect studies in your book?

RP: I start with lexicography, discussing pioneers in this area; that is, the development of dialect dictionaries and glossaries. Then I cover aspects that move on from this. So, for example, as you go down the centuries, you get the development of linguistic atlases (cartography), which leads into discussion of a new form of language study: philology. This stimulated a new discipline called dialectology, and then we eventually move towards socio-linguistics and finally towards modern-day geolinguistics, which is where the book ends. All of these developments occur in a kind of chronological order, which is reflected in the plan of the book.

AB: Yn fras, sut ydych chi’n mynd ati i fapio’r daith hon o astudiaethau tafodiaith yn eich llyfr?

RP: Rwy’n dechrau gyda geiriaduraeth, yn trafod arloeswyr yn y maes hwn; hynny yw, datblygiad geiriaduron a geirfâu tafodiaith. Wedyn rwy’n ymdrin ag agweddau sy’n deillio o hyn. Felly, er enghraifft, wrth fynd trwy’r canrifoedd, rydych chi’n cael datblygiad atlasau ieithyddol (cartograffeg), sy’n arwain at drafodaeth ar ffurf newydd o astudiaeth iaith: ieitheg. Mae hyn wedi’i hysgogi gan ddisgyblaeth newydd o’r enw tafodieitheg, ac wedyn rydym ni’n symud yn y pen draw at ieithyddiaeth gymdeithasol ac yn olaf at ieithyddiaeth ddaearyddol gyfoes, sef ble mae’r llyfr yn gorffen. Mae’r holl ddatblygiadau hyn yn digwydd mewn math o drefn gronolegol, a gaiff ei hadlewyrchu yng nghynllun y llyfr.

AB: Mae llawer o’r rhain yn gorgyffwrdd, cywir? Sut ydych chi’n eu gwahanu?

RP: Chi’n iawn. Mae’n anodd eu gwahanu. Weithiau gallwch weld bod parhad o ran diben a diddordeb ysgolheigion, ac ar adegau eraill ceir llawer o wahaniaethau, a llawer o resymau pam mae ysgolheigion yn ymddiddori yn y math hwn o astudiaeth. Rwy’n ceisio datgelu a thrafod y rhain trwy’r llyfr.

AB: A wnewch chi ddweud rhywfaint am yr adran ar eiriaduraeth a beth yw hyn?

RP: Mae’r penodau cyntaf yn trafod geiriaduraeth – sef creu geiriaduron a geirfâu. Gwnaed llawer o’r gwaith ar dafodiaith Saesneg ar ffurf geiriaduron, neu fersiynau byrrach o eiriaduron (geirfaoedd neu restrau termau). Yn wir, roedd llawer o’r bobl a oedd ynghlwm wrth yr hyn rydym ni’n ei alw erbyn hyn yn eiriaduraeth tafodiaith yn arloeswyr yng nghrefft geiriaduraeth ei hun: sef cofnodi geirfa’r iaith Saesneg yn y lle cyntaf.

AB: Pwy yw’r arloeswyr hyn?

RP: Wel, John Ray oedd yn gyfrifol am y geiriadur tafodieithoedd cyntaf a’i nod oedd ymdrin â’r genedl gyfan — Lloegr, hynny yw — a’i enw oedd A Collection of Words Not Generally Used.

AB: Felly pryd ysgrifennodd e’ hwn?

RP: Cafodd ei gyhoeddi’n gyntaf ym 1674, felly nid y geiriadur Saesneg cyntaf erioed yw e — mae hynny’n dyddio’n ôl i ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg — a bu sawl ymgais ar brosiectau llai, ond John Ray oedd y cyntaf i geisio nodi’r elfen ranbarthol yn yr iaith Saesneg ledled y wlad.

AB: Nid rhywbeth anarferol heddiw na?

RP: Na, mae’n fath o beth sy’n eithaf arferol heddiw, ond ar y pryd doedd gan neb syniad clir o ba eiriau oedd wedi’u cyfyngu’n ddaearyddol (pa eiriau oedd yn arbennig i ranbarthau neu ardaloedd penodol) a pha eiriau oedd yn cael eu defnyddio’n gyffredin ledled y wlad.

AB: Rwy’n dychmygu ei bod yn anodd gwneud ymchwil ym 1674!

RP: Anodd iawn. Doedd neb mewn gwirionedd yn gwybod pa eiriau oedd yn cael eu defnyddio’n gyffredinol, a doedd dim ffordd hawdd o gael gwybod oherwydd doedd dim dulliau cyfathrebu modern: dim ffyrdd modern, dim rheilffordd a braidd dim system bost yn yr un modd ag sydd gennym heddiw.

Rob yng Ngŵyl y Gelli 2018, diolch i Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (RIAH) Prifysgol Abertawe (llun gan Matthew Hughes)

AB: Gwahanol iawn heddiw pan fo gennym ni gymaint o offer ymchwilio!

RP: Yn wir. A dweud hynny, un o’r pethau a alluogodd John Ray i wneud ei eiriadur oedd bod system bost sylfaenol o 1635 ymlaen a chafodd ohebiaeth o leoedd ym mhob rhan o’r wlad. Gwnaeth arsylwi hefyd ar ei deithiau ei hun.

AB: Beth oedd ei resymau dros wneud hyn felly?

RP: Yn gyntaf, ei bwrpas oedd nodi’r elfen leol mewn iaith Saesneg yn Lloegr ar y pryd. Yn ail, roedd ganddo ddiddordeb yn hanes yr iaith, ac yn yr holl waith cynnar ceir y syniad hwn bod tafodieithoedd lleol yn cadw ffurfiau hŷn cymaint well na lleferydd mwy metropolitan. Yn drydydd, roedd yn dymuno helpu pobl o’r de i ddeall pobl y gogledd oherwydd ei fod yn ysgrifennu o safbwynt deheuol. Felly, roedd e’n dymuno nodi geiriau a oedd yn benodol i’r gogledd neu i’r de. Dyna’r rhaniad sylfaenol a wnaeth.

AB: Pam dim ond Gogledd a De Lloegr

RP: [yn gwenu] Ie. Dim ond geiriau gogleddol a geiriau deheuol. Mae’r traddodiad hwn, credwch neu beidio, ymhlith pobl y de bod pobl y gogledd yn siarad yn rhyfedd… Y peth arall i’w nodi, o safbwynt hanes Saesneg, yw mai ef yw un o’r bobl gyntaf i wahaniaethu rhwng yr hyn yr ydym yn ei alw erbyn hyn yn eirfa ‘safonol’ ac ‘ansafonol’. Felly dyna un rheswm pam yr oedd pobl yn y blynyddoedd cynnar, gan gynnwys Ray, yn astudio tafodiaith — yn arbennig geirfa: er mwyn gwahaniaethu rhwng cyffredinol a lleol, neu yn y pen draw, rhwng safonol ac ansafonol.

AB: Felly doedd ganddo ddim diddordeb mewn geirfa gyffredinol?

RP: Nac oedd, yn ei ragair mae’n dweud nad oes ganddo ddiddordeb mewn geiriau a gaiff eu defnyddio’n gyffredinol ledled y wlad oherwydd bod digon o bobl eraill yn rhestru’r rheini, er gallai neb fod yn gwbl sicr ar y pryd eu bod yn rhestru geiriau cyffredinol, oherwydd sut byddech chi’n gwybod? Oni bai eich bod yn ei glywed o rannau eraill o’r wlad, a sut byddech chi’n casglu’r data?

AB: Sy’n gwbl gyferbyniol, mae’n debyg, i Samuel Johnson a benderfynodd peidio â defnyddio geiriau tafodiaith oherwydd, mewn gwirionedd, roedd yn meddwl y bydden nhw’n newid yn gyflym ac felly nad oedd gwerth eu cofnodi…

RP: Roedd gan Johnson ddiddordeb mewn sefydlogrwydd, ac mewn ceisio ‘sefydlogi’r’ iaith, hynny yw ei gwneud yn sefydlog. Roedd gan John Ray wahanol reswm dros wneud, ac yn wir roedd e’n rhyw fath o gasglwr pethau (gan gynnwys geiriau).

AB: Beth am y penodau sy’n trafod cartograffeg, a wnewch chi ddweud wrthyf i amdanyn nhw? 

RP: Er bod mathau cymdeithasol ac eraill o dafodieithoedd, mae’r llyfr yn canolbwyntio ar dafodiaith ranbarthol. Ffaith sylfaenol am iaith yw ei bod yn amrywio’n ddaearyddol, a rhywbeth amlwg y mae ysgolheigion yn dymuno’i wneud yw cyflwyno’r amrywiad hwnnw ar fapiau. Felly, mae penodau yn y llyfr yn edrych ar ddatblygiad y mapiau hyn, a’u heffaith ar y ddisgyblaeth a’u swyddogaeth ynddi.

AB: Pryd cafodd y mapiau ieithyddol cyntaf eu creu, felly?

RP: Cafodd yr atlasau ieithyddol pwysig cyntaf eu datblygu yn yr Almaen, Ffrainc a’r Eidal tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ddiddorol, y cyntaf i gael ei greu oedd un Almaenig gan Georg Wenker, a gasglodd gymaint o ddeunydd y methodd ei brosesu i gyd cyn marw — mae’n cael ei ddefnyddio hyd heddiw bron i gant tri deg o flynyddoedd yn ddiweddarach!

AB: Beth mae llunio atlas ieithyddol yn ei olygu?

RP: Llawer o ddata! Mae’n cynnwys datblygu dulliau ar gyfer dangos y data hynny ar fapiau. Wrth gwrs, mae cyfres gyfan o drafodaethau ynglŷn â’r gwahanol ffyrdd o wneud hynny. Ysbrydolodd yr atlasau o Ewrop waith yn America ar y Saesneg: prosiect o’r enw Linguistic Atlas of the United States and Canada, sydd wedi bod yn parhau trwy gyfres o atlasau ar raddfa lai ers bron i gan mlynedd. Mae gwaith tebyg hefyd wedi dechrau ym Mhrydain — prosiectau cenedlaethol yng Nghymru, yr Alban a Lloegr. Yn wir, daeth yr ieithydd a arweiniodd yr ymchwil cenedlaethol hwn ar Saesneg Cymru o’r adran Saesneg yn Abertawe — David Parry.

Rob yng Ngŵyl y Gelli 2018, diolch i Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (RIAH) Prifysgol Abertawe (llun gan Matthew Hughes)

AB: Beth oedd prif nodau’r cartograffwyr, felly?

RP: Prif ddiddordeb llawer o’r prosiectau hynny oedd dadelfennu hanes pob iaith, a phrofi a datblygu damcaniaethau o ran sut y mae iaith yn gyffredinol ac ieithoedd penodol yn newid gydag amser. Felly, unwaith eto, mae’n ymwneud â’r berthynas rhwng amrywiadau iaith a newid iaith, sy’n arwain at ddatblygu’r damcaniaethau hynny — prif bwrpas arall astudio tafodiaith: bydd y ffaith ei bod yn amrywio’n gymdeithasol ac yn rhanbarthol yn aml yn arwain at yr iaith yn newid wrth i ffurfiau ledu o un gymuned i’r nesaf. Bu llawer o ddiddordeb mewn gweithio’r damcaniaethau sy’n esbonio’r newidiadau mewnol o fewn yr iaith yn ogystal â’r rhesymau cymdeithasol allanol dros y newidiadau. Yng nghanol yr ugeinfed ganrif, cewch ddatblygiad ieithyddiaeth gymdeithasol sy’n ychwanegu dimensiwn newydd at yr astudiaeth hon; nid yw’n ymwneud cymaint â gwahaniaethau rhanbarthol, mae’n ymwneud yn hytrach â’r gydberthynas rhwng amrywiadau iaith a dosbarth cymdeithasol, oedran, rhyw, ethnigrwydd — William Labov oedd prif arloeswr hynny. Ac eto, mae llawer o barhad hefyd yn yr ystyr yr oedd gan Labov ei hun ddiddordeb mewn newid ieithyddol ac yn y pen draw, fe wnaeth fapio tafodieithoedd America. Felly, syniad cyfan y llyfr yn wreiddiol oedd mynd trwy’r camau hyn. Ond yr hyn yr oeddwn i’n ei ddarganfod wrth ysgrifennu oedd bod parhad (o ran diddordeb). Hyd yn oed pan oedd ysgolheigion mwy diweddar yn barnu agweddau ar waith cynharach, roedden nhw’n defnyddio’r gwaith yn sylfaen i weithio arni.

AB: Mae’n swnio fel gwaith oes! Nid astudiaethau cyflym yw’r rhain!?

RP: Na. Roeddwn i eisiau pwysleisio a dathlu hynny — mae hanes astudio tafodiaith yn llawn o ysgolheigion a dreuliodd eu bywyd gwaith cyfan yn ei wneud. Nid rhywbeth tymor byr mohono.

AB: Rwy’n dychmygu, ar un ystyr, fod natur disgyblaeth fel hon wrth drafod amrywiadau, ac mai amser sy’n bwysig…

RP: Wel, ie, ond erbyn hyn rydym ni mewn sefyllfa lle mae gennym gymaint o ddata, gan gynnwys llawer o ddeunydd sydd ar gael yn rhwydd i fyfyrwyr ei ddefnyddio — hynny yw, gallan nhw wneud prosiectau bach gan ddefnyddio’r data sydd ar gael eisoes, neu gymharu eu data eu hunain â’r data hynny. Mae’n wahanol iawn, dywed, i gyfnod John Ray, neu’r bobl gynnar yn astudio Saesneg neu ieithoedd eraill. Bryd hynny, cymerodd sbel hir i gasglu a phrosesu data; gallwch gasglu deunydd yn gyflym iawn erbyn hyn ac mae yna fath o gronfa o ddata presennol. Mae holl faes astudio tafodiaith yn llawn data — mae’n rhan o ieithyddiaeth ddisgrifiadol ond mae wedi’i adfywio gan y chwyldro TG.

AB: Yn hollol! Er, rwy’n sylwi nad oes pennod benodol ar gyfer technoleg, fel petai, felly pam ddim?  

RP: Ie, mae hynny’n fwriadol. Does dim pennod benodol ar gyfer technoleg ac astudio tafodiaith. Ond mae sôn amdani drwy’r llyfr cyfan, ac rwy’n eithaf hoff o hynny. Wrth i chi ddarllen, gallwch lunio’r darlun cyfan; trwy symud o ddechrau’r system bost, neu’r rheilffyrdd, neu’r traffyrdd hyd yn oed, bob un yn effeithio ar gyfathrebu a theithio. Ac mae gennych chi addysg fyd-eang, a all arwain at newid iaith, a dechrau recordio sain, a’i gwnaeth yn haws i ysgolheigion gasglu eu deunydd. Yn wir, rydych chi’n mynd o recordwyr tâp a gafodd eu cludo mewn car, i ffonau symudol sy’n eich galluogi i gasglu eich data yn rhwydd!

AB: A oes elfen negyddol i’r gwelliant hwn mewn TG?

RP: Wel, faswn i ddim yn ei alw’n hynny yn union, ond y ffaith yw bod newid technolegol yn arwain at bryder, oherwydd bod pobl ac ysgolheigion yn teimlo bod yn rhaid recordio pethau cyn i newid effeithio’n ormodol arnyn nhw. Ar y cyfan, mae’n dda oherwydd ei bod yn ysgogi’r math hwn o waith, ac mae newid technolegol wedi ei gwneud yn haws cofnodi deunydd trwy ei gwneud yn bosibl i ysgolheigion gasglu eu deunydd, ei ddadansoddi a’i gyhoeddi yn haws. Fel gydag atlasau Saesneg: mae’n llawer mwy ymarferol cyhoeddi mapiau mewn lliw llawn ar-lein erbyn hyn ac yn llawer llai drud nag ar gyfer yr atlasau cyntaf. Mae’r cyfan yn rhan o’r ffordd y mae’r ddisgyblaeth wedi datblygu ac ymateb i dechnoleg.

Rob yng Ngŵyl y Gelli 2018, diolch i Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (RIAH) Prifysgol Abertawe (llun gan Matthew Hughes)

AB: A wnaeth eich ymchwil ddatgelu agweddau nad oeddech chi’n gwybod amdanynt? Wnaeth unrhyw beth eich synnu chi?

RP: Do, roedd llawer o bethau yr oeddwn i’n gwybod amdanynt ond ddim yn fanwl, ac roeddwn i eisiau archwilio. Roedd pethau eraill wedyn, a gafodd eu hamlygu naill ai fel rhan o’r broses neu o ganlyniad i sylwadau’r darllenwyr ar ddrafft cyntaf yr adroddiad — pobl yn nodi pethau nad oeddwn i wedi eu trafod — doeddwn i ddim yn gwybod dim am y peth ac roedd yn rhaid i mi ymchwilio iddyn nhw.

AB: Fel beth?

RP: Roeddwn i wedi clywed am y ffaith bod un o’r tafodieithwyr cynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn rhywun o’r enw Ei Fawrhydi Imperial Tywysog Louis-Lucien Bonaparte. Roedd yn aelod o’r teulu Bonaparte. Roeddwn i’n gwybod amdano, ac yn gwybod mai fe o bosib oedd y person a luniodd y map cyntaf o ranbarthau tafodiaith Saesneg. Felly roedd gen i ddiddordeb mewn dysgu amdano. Roedd yn swnio’n gymeriad diddorol. Gwnaed llawer o’r gwaith yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg i bob pwrpas gan ysgolheigion bonheddig. Felly, roedd hynny’n cynnwys chwilio am ddeunyddiau, chwilio mewn llyfrgelloedd, rhywbeth y mae ymchwilwyr fel fi yn dwlu ei wneud!

AB: Beth wnaethoch chi ei fwynhau am wneud y math hwnnw o ymchwil?

RP: Cael gweld rhai o’r testunau gwreiddiol. Bonaparte, er enghraifft, mae’n eithaf anodd dod o hyd i’r fersiwn wreiddiol o’i fap. Roedd taflen wybodaeth fach yn y Bodleian, a oedd yn fersiwn ddrafft o’i fap, ond nid oedd yn cynnwys y llinellau i gyd oherwydd cawson nhw eu hychwanegu nes ymlaen. Felly, wnes i ddim dod o hyd i fersiwn wreiddiol ond roedd fersiwn ohono ynTransactions of the Philological Society, 1875-76, a oedd yn Llyfrgell Prifysgol Abertawe; mae ganddyn nhw gyfres gyfan o’r Transactions. Map bach yw e â llinellau coch ac erthygl sy’n esbonio’i ddull. Rwy’n dwlu ar ddarganfod llawer o bethau rhyfedd yr ydych chi’n tueddu i’w cofio! Os ydw i’n dod o hyd i ffeithiau diddorol am yr ysgolheigion hyn, rwy’n hoffi eu rhoi nhw yn y llyfr achos rwy’n gwybod y bydd pobl yn eu cofio nhw wedyn, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gwbl berthnasol, mae’n cadw pobl i ddarllen.

AB: Pwy yw cynulleidfa darged y llyfr, neu pwy fyddai’n hoffi’r llyfr hwn?

RP: Yr hyn yr oedd y cyhoeddwyr ei eisiau oedd llyfr i fyfyrwyr y flwyddyn olaf a myfyrwyr MA. Ond yn fy marn i, gallai fod i bobl sy’n dymuno gwybod rhywfaint am ieithyddiaeth ond heb astudio’r maes hwn. Felly, er enghraifft, does dim ffoneteg fanwl ynddo ac mae pob term technegol wedi’i esbonio yn y fan a’r lle — does dim angen croesgyfeirio wrth ddarllen.

AB: Sut beth yw’r broses ysgrifennu? Faint o gyswllt a chyfraniad gafodd y cyhoeddwyr a’r darllenwyr?

RP: Mae’r cyhoeddwyr wedi bod yn gymorth mawr ac yn amyneddgar iawn, ac roedd y darllenwyr arbenigol a ddarllenodd y copïau drafft — fe wnes i wrando arnyn nhw a newid pethau yn briodol pan oedd hynny’n berthnasol. Rwy’n credu mai’r cymorth mwyaf i fi oedd fy mod i wedi gwneud fy llyfr testun cyntaf, a oedd yn broses o ddysgu’r grefft o ysgrifennu’n glir, ac wedyn mae egwyddorion penodol sydd gen i yn y cof.  Er enghraifft, roeddwn i’n gwybod bod y llyfr testun hwn yn mynd i fod ychydig yn wahanol oherwydd byddai’n cynnwys llawer o fanylder a math arbennig o ddiddordeb mewn iaith. Felly, fe wnes i ryw fath o ddychmygu fy hun yn  ysgolhaig bonheddig o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gofyn i fy hun: beth fyddwn i eisiau ei ddysgu? Felly meddyliais, ni fyddaf yn ofni bod yn fanwl yn y llyfr hwn. Y nod, yn ogystal â hynny, oedd adrodd stori glir —  mae’n adeiladu — ond rydych chi’n gwybod beth sy’n digwydd ar bob cam. Roeddwn i’n gallu gwneud hynny’n well o ganlyniad i’r llyfr blaenorol ond hefyd oherwydd y sylwadau a gewch gan y darllenwyr arbenigol sy’n dweud wrthych chi a yw’n gweithio neu ddim. Ond dydych chi byth yn gwbl sicr nes bod pobl eraill yn ei ddarllen.

Rob yng Ngŵyl y Gelli 2018, diolch i Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (RIAH) Prifysgol Abertawe (llun gan Matthew Hughes)

AB: Felly beth yw eich prosiect nesaf?

RP: [Chwerthin] Y prosiect mawr nesaf yw llyfr arall ar dafodiaith. Y tro hwn ar gyfer dechreuwyr a’r darllenydd cyffredinol, i’r Cambridge University Press. Mae’r llyfr sydd newydd ei orffen yn sôn am y bobl sy’n astudio tafodiaith, bydd y nesaf yn ymwneud â thafodiaith ei hun. Felly, mae’n ymwneud llawer yn fwy â cheisio mynd i wraidd pam mae o ddiddordeb i ni, pam rydym ni…

AB: Wedi gwirioni [chwerthin] ag iaith?

RP: Gwirioni! Ie. Mae llawer o storïau newyddion yn ymwneud â thafodiaith neu sy’n defnyddio tafodiaith fel trosiad i esbonio pethau eraill fel sut mae anifeiliaid yn cyfathrebu. Ac weithiau mae’n ymwneud… yn amlwg â hunaniaeth gymunedol a’r gwahaniaethau y mae pobl yn sylwi arnyn nhw mewn cymunedau eraill, hunaniaethau eraill. Er enghraifft, y syniad os ydych chi’n dod o Townhill yn Abertawe neu o Glasgow, rydych chi, mewn theori, yn siarad yr un iaith, mae gennych chi hunaniaeth gyffredin ond mae’n gwbl wahanol hefyd. Felly dyna’r math o… rwy’n credu bod hynny’n syniad rhyfedd am iaith… mae’n gyfarwydd ac yn anghyfarwydd ar yr un pryd ac maen…

AB: Rhyfeddol…?

RP: Doeddwn i ddim yn mynd i ddefnyddio’r gair yna ond ie, ac mae wrth wraidd beth rydym ni’n ei deimlo am ein hiaith; mae’n rhoi hunaniaeth i ni – hunaniaeth nodweddiadol. Mae’n ein gwneud ni yr un peth â phobl ac yn wahanol i bobl eraill a gall hynny ein gwneud i ni i deimlo pryder, ofn neu’n gartrefol. Pa un a fyddwn yn ystyried ein llais ein hunain neu leisiau pobl eraill, gallwch weld y gwahaniaethau a gallwch weld y tebygrwydd. Felly, ie, y syniad yw ceisio siarad am dafodiaith mewn ffordd wahanol. Dim yn wir fel llyfr cwrs neu lyfr testun ond fel cyfres o archwiliadau i’r rheswm pam mae’n bwysig i bobl.

css.php