Modylau MA

Mae’r MA yn cynnwys dwy ran. Y rhan gyntaf yw’r elfen a addysgir o fis Hydref tan fis Mehefin. Mae hon wedi’i rhannu’n Floc Addysgu 1 (TB1) o fis Hydref i fis Ionawr a Bloc Addysgu 2 (TB2) o fis Chwefror i fis Mehefin. Yr ail ran yw’r traethawd hir, i’w gyflawni’n annibynnol, neu bortffolio sy’n ei gwneud yn ofynnol i lunio deunyddiau a chynllunio ac addysgu dosbarthiadau iaith Saesneg.

  • Mae’n rhaid i fyfyrwyr sy’n dewis gwneud traethawd hir astudio naill ai ALEM18 (Astudiaethau Geirfa) neu ALEM20 (Dysgu Ail Iaith) yn ogystal ag ALEM19 (Dulliau Ymchwilio) ac ALEM15 (Traethawd Hir).
  • Mae’n rhaid i fyfyrwyr sy’n dewis gwneud portffolio astudio ALEM22 (Addysgu Iaith Gyfathrebu), ENAM00 (Arfer Addysgu mewn Ystafell Ddosbarth) ac ENAM01 (Portffolio Ymarfer Myfyriol Proffesiynol).

Modiwl gorfodol i bob myfyriwr

ALEM36: Dadansoddi Gramadegol (TB1)

Mae’r modiwl hwn yn darparu trosolwg disgrifiadol o ramadeg Saesneg. Mae’n archwilio strwythurau gramadegol Saesneg a’r prif batrymau defnydd iaith o safbwynt gramadegol, o safbwynt cywair disgrifiadol. Er nad yw’r modiwl wedi’i lunio i fod yn arolwg o ddamcaniaethau gramadegol nac yn gwrs ar ddulliau o addysgu gramadeg Saesneg Ail Iaith, bydd yn cynnig cyfleoedd i drafod goblygiadau addysgu yn y dosbarth, yn arbennig wrth edrych ar elfennau llafar/cywair nodweddion gramadegol.

Bydd myfyrwyr sy’n astudio’r modiwl hwn yn datblygu’r gallu i gynnal dadansoddiadau gramadegol o frawddegau llafar ac ysgrifenedig sy’n digwydd yn naturiol. Dim ond un ffordd sydd o ddatblygu’r gallu hwn: trwy ymarfer yn gyson. Bydd disgwyl felly i fyfyrwyr gyflawni’r holl waith darllen a gwaith cartref yn rheolaidd. Nid yw’n debygol y bydd paratoi yn anghyson ar gyfer dosbarthiadau a diffyg presenoldeb mewn dosbarthiadau yn arwain at berfformiad boddhaol.

ALEM21: Dadansoddi Sgyrsiau ar gyfer Addysgu Iaith (TB2)

Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno myfyrwyr i ddadansoddi sgyrsiau, maes astudio iaith rhyngddisgyblaethol, amlddisgyblaethol a chynyddol boblogaidd. Dadansoddi sgyrsiau, yn fras, yw astudio iaith yn ei chyd-destun ac astudio rhyngwynebau iaith, diwylliant, a chymdeithas. Gellir dadlau ei fod yn ddisgyblaeth hanfodol i ddarpar athrawon iaith. Yn unol â hynny, mae’r cwrs hwn yn rhoi trosolwg o rai o’r dulliau allweddol o ddadansoddi sgyrsiau gan nodi defnydd uniongyrchol mewn addysgu iaith, gan gynnwys dadansoddi sgyrsiau trwy negeseuon, theori cwrteisi, theori gweithredoedd llafar, pragmateg (traws-ddiwylliannol), ieithyddiaeth gymdeithasol ryngweithiol, ieithyddiaeth weithredol systemig, dadansoddi cywair, a dadansoddi genre. Mae’n cynnig profiad ymarferol o ddefnyddio’r dulliau hyn i ddadansoddi sgyrsiau, ac mae’n tynnu sylw myfyrwyr yn systematig i oblygiadau a defnydd y dulliau hyn ar gyfer addysgu iaith a llunio deunyddiau.

Modylau sydd ar gael i bob myfyriwr

ALEM18: Geirfa: Dysgu ac Addysgu (TB1)

Yn y modiwl hwn byddwn yn archwilio natur geirfa a’r anawsterau sy’n gysylltiedig â diffinio a dosbarthu y “Gair”. Byddwn yn archwilio ac yn nodi dosbarthiadau geiriau, ac yn edrych ar ffyrdd y mae darnau mwy o iaith neu grwpiau o eiriau yn ymddwyn weithiau fel eitemau geirfa unigol. Byddwn yn dadansoddi ystyr gwybodaeth geiriau ac agweddau amrywiol ar hyn, ac yn sgil hyn a yw’n realistig mesur faint o eiriau y mae rhywun yn eu gwybod. Byddwn yn edrych ar fodelau o eiriadur L2 ac yn defnyddio hyn yn sail i ymchwilio i sut i addysgu darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad geirfa iaith dramor.

ALEM22: Addysgu Iaith Cyfathrebu (TB1)

Mae’r modiwl yn ymdrin ag egwyddorion, athroniaeth a datblygiad hanesyddol dysgu a theori dysgu iaith sy’n arwain at y dull cyfathrebu o addysgu iaith. Mae’n ymdrin â’r ddadl bresennol ynglŷn â dulliau a methodoleg yng nghyd-destun Saesneg fel iaith ryngwladol.
Gall y modiwl hwn fod ar gael fel dewis i fyfyrwyr sy’n gwneud traethawd hir.

ALEM20: Dysgu Ail Iaith (TB1)

Sut ydych chi’n dysgu ail iaith? Pa brosesau sy’n gysylltiedig â hyn? Beth yw rôl yr iaith gyntaf? Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn trafod y cwestiynau hyn ac eraill. Bydd myfyrwyr yn gwerthuso’n feirniadol y gwahanol ddamcaniaethau ar gyfer dysgu ail iaith, gan gynnwys pa wybodaeth sydd gennym ar ddechrau’r broses ddysgu a sut yr ydym yn datblygu. Bydd myfyrwyr hefyd yn archwilio gwahanol ffactorau a all ddylanwadu ar ba mor llwyddiannus y bydd dysgwr, gan gynnwys cymhelliad, medrusrwydd ac ati. Byddwn yn darllen astudiaethau empirig sydd wedi ceisio archwilio gwahanol astudiaethau a byddwn yn gwerthuso’u canfyddiadau’n feirniadol. Bydd y gwahanol ddulliau asesu yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr werthuso papurau ymchwil yn feirniadol, dadansoddi data dysgwr ail iaith, ac yn defnyddio hyn i gefnogi eu dadleuon.

ALEM34: Dysgwyr Iaith Ifanc (TB2)

Mae’r modiwl hwn yn ymwneud â dysgwyr iaith ifanc a sut mae plant yn dysgu ail iaith mewn sefydliadau addysg. Bydd myfyrwyr yn astudio damcaniaethau dysgu iaith gyntaf ac ail iaith, ac wedyn yn symud ymlaen i ddadansoddi’r amgylchedd dosbarth ac yn canolbwyntio ar faterion fel rheoli dosbarth, adnoddau a deunyddiau ar gyfer ystafell ddosbarth dysgwyr ifanc lefel isel.

Modylau ar gyfer myfyrwyr sy’n gwneud traethawd hir

ALEM19: Dulliau Ymchwilio (TB2)

Mae’r modiwl hwn yn addysgu’r dulliau ymchwilio perthnasol i’r myfyrwyr er mwyn gallu cynnal eu hastudiaeth empirig eu hunain ar gyfer y traethawd hir. Bydd y pynciau yn cynnwys:

  • Theori sy’n sail i ymchwil mewn cyd-destunau addysgu iaith Saesneg, a chanllawiau ymarferol.
  • Moeseg ymchwil.
  • Casglu a dadansoddi data.
  • Ymchwil astudiaethau achos.
  • Arolygon, holiaduron.
  • Ystadegau disgrifiadol a chasgliadol.
  • Profion parametrig a phrofion nad ydynt yn rhai parametrig ar arwyddocâd.
  • Dadansoddi cydberthynas ac atchweliad
  • Llunio, cynnal ac adrodd ar brosiect ymarferol cyfyngedig ar addysgu iaith Saesneg, a allai fod ar wahân neu gyfrannu at y traethawd hir.

ALEM15: Traethawd Hir (Mehefin-Medi)

Hon yw’r rhan Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd (Rhan 2) o’r MA TESOL. Mae’n ofynnol i fyfyrwyr gynllunio, cynnal ac ysgrifennu am brosiect ymchwil empirig estynedig. Disgwylir i fyfyrwyr ychwanegu at yr wybodaeth am ymchwil empirig mewn ieithyddiaeth gymhwysol a gaed yn y modiwl dulliau ymchwilio gofynnol ymlaen llaw (ALEM19: Dulliau Ymchwilio mewn Addysgu Iaith Saesneg)/ Yn benodol, disgwylir i fyfyrwyr gynllunio a chynnal prosiect ymchwil empirig ar bwnc sy’n berthnasol i ddysgu ac addysgu iaith Saesneg a dilyn dulliau ac ymagweddau sefydledig mewn ieithyddiaeth gymhwysol. Byddan nhw wedyn yn ysgrifennu adroddiad ar y prosiect yn dilyn strwythur adroddiadau ymchwil empirig a chonfensiynau ysgrifennu academaidd sefydledig.

Modylau gorfodol ar gyfer myfyrwyr sy’n gwneud portffolio

ALEM22: Addysgu Iaith Cyfathrebu (TB1)

Mae’r modiwl yn ymdrin ag egwyddorion, athroniaeth a datblygiad hanesyddol dysgu a theori dysgu iaith sy’n arwain at y dull cyfathrebu o addysgu iaith. Mae’n ymdrin â’r ddadl bresennol ynglŷn â dulliau a methodoleg yng nghyd-destun Saesneg fel iaith ryngwladol.
Gall y modiwl hwn fod ar gael fel dewis i fyfyrwyr sy’n gwneud traethawd hir.

ALEM32: Arfer Addysgu mewn Ystafell Ddosbarth

Modiwl addysgu iaith Saesneg ymarferol dan oruchwyliaeth ac wedi’i asesu, sydd ar gael i athrawon â chymwysterau sy’n is na Cambridge English DELTA neu gyfwerth. Mae myfyrwyr yn cymhwyso, ymarfer ac arfarnu’n feirniadol, ddulliau ac egwyddorion addysgu iaith mewn dosbarthiadau addysgu iaith Saesneg sy’n cynnwys myfyrwyr gwirfoddol ar ddwy lefel medrusrwydd (CEFR A2/B1 a CEFR B2/C1). Mae’n rhaid astudio’r modiwl hwn cyn gallu astudio ALED00 Portffolio Ymarfer Myfyriol Proffesiynol.

ALED00: Portffolio Ymarfer Myfyriol Proffesiynol

Bydd myfyrwyr yn llunio portffolio o gynhyrchion addysgu iaith  sy’n cynnwys proffil manwl o ddysgwr, deunyddiau ar gyfer addysgu iaith Saesneg a deunyddiau ar gyfer profi iaith Saesneg. Mae’r modiwl hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr gymhwyso agweddau damcaniaethol ar addysgu iaith Saesneg i arfer dosbarth.

Nodiadau
Lluniwyd y modiwl hwn ar gyfer athrawon iaith Saesneg cyn iddynt fod mewn swydd neu i rai sydd mewn swydd â llai na dwy flynedd o brofiad addysgu amser llawn (neu gyfwerth) ac sydd â chymwysterau o dan lefel Cambridge English DELTA neu gyfwerth.

css.php