Croeso i Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol Prifysgol Abertawe. Hwn yw ein safle blog, a byddwn yn rhoi’r newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf arno Dilynwch @Swansea_AppLing
Mae prif wefan y brifysgol ar gael yma.
Yn ein hadran ni mae gennym amrywiaeth o gynlluniau gradd ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae ein cyrsiau gradd yn astudio ffyrdd o ddadansoddi gwybodaeth iaith, defnydd iaith mewn gwahanol gyd-destunau ac amserau, ac mae’r cyrsiau Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) hefyd yn cysylltu hyn ag addysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill. Mae ein cyrsiau gradd israddedig (BA) yn cynnwys graddau anrhydedd sengl a chydanrhydedd Iaith Saesnega TESOL.
Yn ein cynlluniau Iaith Saesneg, rydym yn astudio:
- sut caiff iaith ei defnyddio mewn cyfathrebu bob dydd, ac mewn gwahanol gyd-destunau;
- sut mae iaith wedi datblygu dros amser;
- sut rydym yn dysgu ein mamiaith ac ieithoedd eraill;
- sut mae iaith yn gweithredu mewn cyd-destunau dwyieithog;
- sut rydym yn cynhyrchu ac yn deall iaith mewn amser real, yn ogystal â
- sut mae systemau iaith sylfaenol yn gweithio ar gyfer synau a gramadeg.
Yn ein cynlluniau TESOL, rydym yn astudio’r her o ddysgu ac addysgu Saesneg fel iaith newydd, gan gynnwys:
- sut caiff gwahanol ddulliau eu defnyddio i addysgu iaith;
- sut mae plant yn dysgu iaith ychwanegol;
- sut mae damcaniaethau dysgu ail iaith yn perthyn i addysgu;
- sut mae ymchwil presennol i Addysgu Saesneg yn llywio arfer.
Rydym hefyd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr BA astudio cymhwyster CaergrawntTystysgrif mewn Addysgu Iaith Saesneg i Oedolion (CELTA). Mae hwn yn gymhwyster proffesiynol a gydnabyddir yn rhyngwladol i addysgu Saesneg i oedolion.
Mae gennym raglen Gradd Feistr a addysgir mewn TESOL/ TEFL.
Rydym yn cynnig sawl gradd ymchwil gan gynnwys MA trwy Ymchwil, M.Phil a Doethuriaeth.
Mae gan yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol broffil ymchwil cryf mewn nifer o feysydd arbenigol. Mae’r rhain yn cynnwys astudiaethau geirfa, dysgu ail iaith, dadansoddi trafodaethau, ieithyddiaeth corpws, pragmateg ac addysgeg iaith. Adlewyrchir llawer o’r rhain mewn llawer o’r modylau a gynigir yn ein cynlluniau gradd.
Rydym wedi buddsoddi’n ddiweddar mewn labordy ymchwil Ieithyddiaeth Gymhwysol, sy’n cynnwys traciwr llygaid a meddalwedd amser adweithio. Bydd cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio’r cyfleusterau hyn yn ystod eu traethodau hir, yn dibynnu ar y pwnc y maen nhw wedi’i ddewis.
Mae ein staff yn aelodau o’r Ganolfan Ymchwil Iaith (LRC), canolfan fyd-eang ar gyfer ymchwil empirig disgyblaeth sengl, rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol i ddata a phrosesau iaith. Mae’n tynnu ynghyd academyddion ac ymchwilwyr ôl-radd o bob rhan o Brifysgol Abertawe ac yn cysylltu eu gweithgareddau â rhai rhwydwaith byd-eang y Ganolfan o Aelodau Cysylltiedig a myfyrwyr doethuriaeth dysgu o bell.
Mae Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (RIAH) yn tynnu ynghyd academyddion, ôl-raddedigion ac ysgolheigion cenedlaethol a rhyngwladol sy’n ymweld i greu amgylchedd ymchwil cyfoethog a bywiog â’r nod o gyflawni rhagoriaeth ac effaith ryngwladol.