CELTA

CELTA yw’r Dystysgrif Addysgu Saesneg i Oedolion gan Gaergrawnt. Cymhwyster addysgu ymarferol yw hwn sy’n cynnwys 6 awr o arsylwi ar arfer addysgu.

Gall myfyrwyr Iaith Saesneg neu TESOL a gaiff eu derbyn ar y CELTA wneud y cymhwyster hwn fel modiwl yn yr ail flwyddyn (10 wythnos) neu’n amser llawn yn ystod 4 wythnos ym mis Gorffennaf.

Ceir nifer cyfyngedig o leoedd ar y modylau hyn ac mae’n rhaid i fyfyrwyr fynd trwy broses cyfweliad yn unol â gofynion Caergrawnt gan ei fod yn gymhwyster proffesiynol. Mae hyn yn debyg iawn i gyfweliad TAR. Felly, mae’n bwysig nodi nad oes sicrwydd awtomatig y caiff y myfyrwyr le ar y cwrs CELTA yn rhan o’u gradd BA.

Cost nodweddiadol CELTA yw £1450 ond dim ond talu ffi’r arholiad yn unig y mae ein myfyrwyr ni, sef £140 ar hyn o bryd.

Hyfforddeion CELTA mis Ionawr-Mawrth 2015

celta

Pob peth CELTA: Safbwynt myfyriwr gan Ian Moore (2011-2015)

Roedd y syniad o wneud CELTA yn ystod fy semester yn frawychus ar y dechrau oherwydd roeddwn i’n ansicr sut y byddwn i’n rheoli’r llwyth gwaith. Ond roedd tiwtoriaid CELTA bob tro yn galonogol ac yn deall eich bod yn gwneud gradd ar yr un pryd. Wrth edrych yn ôl gallaf ddweud â’m llaw ar fy nghalon mai’r CELTA oedd y peth gorau y gallwn i fod wedi’i wneud yn y brifysgol. Mae wedi agor cymaint o ddrysau newydd i mi ac wedi fy ngalluogi i wella a datblygu nifer o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer bywyd prifysgol a bywyd gwaith.
Ar ôl cwblhau’r CELTA, gwnes gais i fod yn athro Ysgol Haf ym Mhrifysgol Abertawe ac roeddwn i’n ddigon ffodus i gael cynnig y swydd. Caniataodd hyn i mi ddefnyddio’r sgiliau roeddwn i wedi’u dysgu ar y CELTA bron yn syth ar ôl y cwrs ac yn ystod y swydd cefais lawer mwy o gyfleoedd dysgu. Rydych chi’n dechrau meddwl fel athro ac nid fel myfyriwr, yn trefnu, rheoli a gwneud eich cynllunio a marcio gwaith erbyn dyddiad penodol. Ers cyflawni’r swydd hon, rydw i wedi gweithio mewn ysgol uwchradd yn yr Almaen, ac roedd hynny oherwydd fy mod i wedi pasio’r CELTA; roeddwn i’n gallu cymryd dosbarthiadau ar fy mhen fy hun. Byddai hyn wedi bod yn amhosib heb y cymhwyster sydd gen i. Rwyf hefyd wedi gweithio yn athro ar y cwrs Cyflwyniad i Sgiliau Academaidd a byddaf i nawr yn gweithio ar y cwrs Paratoi Myfyrwyr yn ystod yr haf. Mae hyn yn dangos faint o ffydd a chred sydd gan y Gwasanaeth Hyfforddiant Iaith Saesneg yn eu graddedigion CELTA.

Yn ystod CELTA rydych yn datblygu sgiliau sy’n hanfodol yn ystod eich astudiaethau academaidd. Rydych yn magu cymaint o hyder ynddo chi eich hun a’ch gallu eich hun. Nid yw gwneud cyflwyniadau yn frawychus mwyach ar ôl addysgu llond dosbarth o fyfyrwyr! Mae sgiliau rheoli amser a threfnu hefyd yn gwella’n fawr, oherwydd bod yn rhaid i chi gymryd cyfrifoldeb dros eich gwaith eich hun. Os nad ydych wedi cynllunio ar gyfer gwers, dim ond chi eich hun sydd ar fai.
Byddwn i’n argymell y CELTA i unrhyw un, hyd yn oed os nad yw’n nod gennych i fod yn athro yn y pen draw. Mae’r cwrs yn agor eich llygaid i bosibiliadau newydd mewn bywyd ac yn caniatáu ichi ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen mewn unrhyw swydd. CELTA yw eich allwedd i archwilio’r byd, felly peidiwch â gwastraffu’r cyfle hwn!

Ian Moore

Ian gyda’i ddosbarth paratoi myfyrwyr presennol – Awst 2015

Ian

Fel ôl-nodyn i stori Ian, graddiodd yn ddiweddar â gradd BA dosbarth cyntaf mewn Almaeneg ac Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL). Yn dilyn haf arall o weithio’n galed ar y cwrs Paratoi Myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe, mae’n dechrau ar MSc mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol a Dysgu Ail Iaith ym Mhrifysgol Rhydychen ym mis Medi 2015

Gallwch weld cyfweliad â 3 o’n hyfforddeion CELTA cyntaf yma. Erbyn hyn rydym wedi newid y rhaglen er mwyn ei chyflwyno dros gyfnod hirach, ond mae’n dal i fod yn eithaf dwys!

css.php