Gwobr Pen-blwydd Myfyrwyr Ede and Ravenscroft 2017/2018
Fel y byddwch yn gwybod, rydym bob amser yn gyffrous i ddathlu llwyddiannau ein myfyrwyr ac mae 2019 yn dod â llu o lwyddiannau newydd inni eu dathlu. Mae dau o’n myfyrwyr wedi ennill Gwobr Pen-blwydd Myfyrwyr Ede and Ravenscroft 2018/2019 am gyfraniad rhagorol i fywyd myfyrwyr a gallwch ddarllen amdanyn nhw yma.
Mae pob gwobr gwerth £250 ac fe’u dyfernir i gydnabod ‘cyfraniadau rhagorol’ i fywyd myfyrwyr.
Y myfyrwyr yw:Yue Cheng ac Ellie McHugh
Ellie McHugh
Cafodd Ellie ei henwebu gan Dr Alexia Bowler am fod yn bresenoldeb cyson gadarnhaol yn yr adran Ieithyddiaeth Gymhwysol yn Abertawe, gan gymryd rhan nid yn unig mewn gweithgareddau hyrwyddo ein cyrsiau a’r Brifysgol ac yn un o’n llysgenhadon mwyaf cyfeillgar a mwyaf dibynadwy, ond hefyd am yr hyn a gyfrannodd at fywyd diwylliannol yr adran, yn trefnu digwyddiadau ac yn gwirfoddoli i help i drefnu teithiau a sgyrsiau. Dyma’r hyn a oedd ganddi i’w ddweud:
‘Ellie McHugh ydw i ac ar hyn o bryd, dw i’n gorffen fy ngradd ôl-raddedig mewn TESOL. Dw i wedi bod yn fyfyriwr yn Abertawe ers pedair blynedd a dw i wedi dwlu ar y profiad dw i wedi ei gael yn y Brifysgol. Cefais fy dynnu’n fawr ac roeddwn i’n ddiolchgar iawn pan enillais Wobr Pen-blwydd Myfyrwyr Ede and Ravenscroft am gyfraniad rhagorol. Mae’n fraint o’r mwyaf a hoffwn ddiolch i Alexia Bowler am fy enwebu.
Yn ystod fy amser ym Mhrifysgol Abertawe yn astudio, dw i wedi ceisio cymryd pob cyfle y gallwn i i gael profiad gwaith ac ymgymryd â heriau newydd. Un o’r heriau yr ymgymerais i â hi oedd sefydlu a datblygu cymdeithas newydd. Nid oedd gan yr adran Ieithyddiaeth Gymhwysol gymdeithas i fyfyrwyr, ac roedd hyn yn golygu nad oedd cymdeithas myfyrwyr gan y rhai a oedd yn astudio Iaith Saesneg a TEFL/TESOL i gymryd rhan ynddi. Bues i ychydig yn ddigalon am hyn am ddwy flynedd gyntaf y cwrs a byddwn i wedi dwlu ar wedi gallu cael y cyfle i drefnu digwyddiadau a chynnal llwyfan i grwpiau o wahanol flynyddoedd gael cwrdd.
Yn nhymor yr hydref 2017, penderfynodd grŵp o fyfyrwyr Iaith Saesneg greu Cymdeithas Ieithyddiaeth Gymhwysol. Roedd y grŵp yn cynnwys Izzy Montgomery, Ellie Mahoney, Georgie Winters a minnau. Mae’r gymdeithas bellach wedi bod yn weithredol ers bron i ddwy flynedd a gobeithiwn y bydd set newydd o fyfyrwyr yn cymryd yr awenau pan fyddaf i a rhai o fyfyrwyr eraill yn eu blwyddyn olaf yn gadael. Mae’r Gymdeithas Ieithyddiaeth Gymhwysol wedi bod yn ffordd wych o gysylltu’r myfyrwyr ac mae’n rhoi’r cyfle i staff godi ymwybyddiaeth am ddigwyddiadau a gweithdai cyflogadwyedd gwych y mae’r adran yn eu cynnal.
Yn olaf, diolch yn fawr iawn am y wobr. Rwy’n ddiolchgar iawn am ei hennill gan fy mod i’n adnabod rhai o’r enillwyr diweddar, Gita Kalnina a’u hymdrechion enfawr wrth weithio gyda’r Brifysgol. A dyw’r wobr ariannol o £250 ddim yn wael o beth chwaith….. ;)’
Yue Cheng
Mae Yue (Sunny) Cheng (a raddiodd gydag MA TESOL o Abertawe yn y flwyddyn academaidd 2017-18) yn fyfyriwr sy’n hanu o Beijing, Tseina. Enwebwyd Sunny gan Dr Federica Barbieri am ei gwaith gwirfoddoli ar gyfer Unity in Diversity (UID), elusen o Abertawe sy’n cynnig gwersi am ddim i geiswyr lloches a ffoaduriaid.
Gwirfoddolodd Sunny drwy gydol y flwyddyn academaidd, gan weithio 2 i 3 awr yr wythnos fel Cynorthwyydd Addysgu. Bu hyd yn oed yn Athrawes Arwain i ddosbarthiadau o 10 – 20 o fyfyrwyr. Lluniodd a chyflwynodd Sunny wersi â’r nod o alluogi myfyrwyr i gyfathrebu’n llwyddiannus o ddydd i ddydd. Yn ogystal, helpodd yn y gegin a chwaraeodd gyda phlant ffoaduriaid, cwblhaodd gwrs hyfforddiant pwrpasol ac ymunodd â Discovery (elusen a arweinir gan fyfyrwyr Prifysgol Abertawe).
Mae Sunny’n ystyried ei phrofiad o wirfoddoli yn ‘benderfyniad gwych’, ac mae’n teimlo y cafodd ‘mwy nag [yr oedd hi] yn ei ddisgwyl wrth ymuno â thîm addysgu’r elusen. Teimlodd iddi ddatblygu ‘dealltwriaeth ddyfnach o arferion addysgu Saesneg’ wrth hefyd allu ymarfer a gwella ei Saesneg hithau drwy ei chyfeillion newydd (sef athrawon eraill yn UID). Yn ogystal, mae’n dweud iddi ddod yn fwy agored drwy’r gwaith. Meddai: ‘Agorais fy meddwl. Mae’r bobl sy’n mynychu UID yn hanu o wledydd gwahanol. Drwy sgwrsio â nhw ac addysgu Saesneg i ffoaduriaid, dysgais i am eu diwylliannau nhw hefyd. Mae’r profiad yn llenwi fy mywyd â lliwiau. Yn fy nghalon, cefais lawer mwy o’r gweithgareddau gwirfoddoli na’r hyn yr oeddwn yn ei ddisgwyl.