Dyma rai sylwadau gan gyn-fyfyrwyr:
Jaime, BA Iaith Saesneg cyn astudio ar gyfer MA yn Abertawe (2012-2013)
Fideo ganJaime pan oedd ar fin dechrau ei MA yn Abertawe ar ôl addysgu Saesneg am nifer o flynyddoedd yn Japan.
Sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda Graham (2012, dosbarth 1af)
- Beth wnaethoch chi fwynhau wrth astudio ar gyfer eich gradd?
Fe fwynheais i’r amrywiaeth eang o fodiwlau a oedd ar gael, nid yn unig y rhai yn ymwneud â’r pwnc yr oeddwn yn arbenigo ynddo, sef Iaith Saesneg gyda Dysgu Saesneg Fel Iaith Dramor ond hefyd y ffaith fy mod i’n gallu cymryd modiwlau a oedd o ddiddordeb imi o leoedd eraill.
Y peth pwysicaf oedd lefel y gefnogaeth a gefais gan fy nhiwtoriaid a fy narlithwyr. Fe weithion nhw’n eithriadol o galed, nid yn unig ar lefel broffesiynol, ond hefyd ar lefel bersonol i sicrhau fy mod i’n gyfforddus, yn deall popeth ac yn gweithio hyd eithaf fy ngallu. Yn y diwedd fe dalodd y gwaith caled ar ei ganfed ac fe gefais y radd y deuthum i Abertawe i’w chyflawni. - Yn gyffredinol, beth wnaethoch chi fwynhau ynghylch astudio yn Abertawe?
Ni chefais erioed fy ngorlethu gan y gwaith a osodwyd. Roedd yn cael ei osod fel ei bod hi’n bosibl ei gwblhau yn gyfforddus ac yr oedd bob tro yn cael ei adolygu yn y dosbarth. Ni chefais i erioed ddarlithwyr mor hawdd mynd atynt ag oedd gennyyf wrth astudio ar gyfer fy ngradd. Hefyd gallwn drafod materion heblaw rhai academaidd, roeddynt am wybod os oeddwn i’n hapus ac yn llwyddiannus yn yr hyn yr oeddwn i’n ei wneud, ac os nad oeddwn i, pa gyngor y gallent ei gynnig i’m helpu.
I mi dyna’r agwedd bwysicaf. I gael y radd yr oeddwn yn dymuno’i chael, roedd yn rhaid i mi wneud mwy na gweithio’n galed ar y pwnc, roedd yn rhaid imi fyw’r pwnc hefyd. Cefais gymorth gan fy narlithwyr i wneud hyn. - Beth ydych chi yn ei wneud yn awr?
Rwyf wedi mynd yn ôl i addysgu Saesneg yn Tsieina. Rwyf hefyd wedi agor fy ysgol Saesneg fy hun gan ddefnyddio’r cyngor a’r hyfforddiant a gefais yn ystod fy nghwrs. Er ei bod yn ysgol fach ar hyn o bryd, mae mwy o fyfyrwyr yn ymuno bob wythnos ar ôl clywed am fy ysgol. Fy ngwaith contract yw dysgu mewn ysgol ganol ac ysgol feithrin. Cyn cael fy ngradd nid oedd gennyf yr hyder i wneud y swyddi hyn ond ers imi ddychwelyd i Tsieina, gyda’r wybodaeth a gefais, rwy’n gweld addysgu yn haws o lawer ac mae’n golygu mwy i mi a’r myfyrwyr. - Sut mae eich gradd yn eich helpu yn eich swydd bresennol?
Roedd yr wybodaeth a gefais ar y cwrs yn gyfredol a’r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer y flwyddyn honno (2012). O ganlyniad, rwy’n gallu addysgu athrawon profiadol na chawsant y cyfleoedd a gefais i ac felly rwy’n gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r datblygiadau ym maes addysgu Saesneg. Rwyf hefyd yn teimlo bod mwy o bwrpas i’m gwaith yn addysgu ac yn lle addysgu’n ddifyfyr a heb baratoi,rwy’n gallu gwneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â sut i fodloni gofynion y myfyrwyr, ac ni fyddai hyn yn bosibl oni bai imi astudio yn Abertawe.
Natasha, Iaith Saesneg: 2009-2012.
Cefais radd dosbarth cyntaf mewn Astudiaethau Iaith Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe. Ers imi raddio ym mis Gorffennaf 2012, rwyf wedi cofrestru ar gyfer cwrs TAR mewn addysg gynradd ac ar hyn o bryd rwy’n hyfforddi i fod yn athrawes ysgol gynradd. Rwyf yn dal i astudio yma yn Abertawe gan imi syrthio mewn cariad â’r lle pan oeddwn yn astudio ar gyfer fy ngradd! Mae Abertawe yn lle gwych ar gyfer astudio; mae’n llawn myfyrwyr, mae’r ganolfan siopa yn un dda a pheidied neb ag anghofio mai dyma’r brifysgol agosaf at draeth yn y byd.
Mwynheais astudio Iaith Saesneg yn fawr iawn a chefais dealltwriaeth o sut y mae iaith yn cael ei dysgu, sut i addysgu Saesneg, sut y mae Saesneg wedi datblygu ac yn parhau i ddatblygu a sut y mae iaith yn gallu cael effaith bwerus ar y cyfryngau, i enwi dim ond ychydig o feysydd astudio. Roeddwn hefyd yn gallu gwneud gwaith ymchwil fy hun i faes a oedd o ddiddordeb imi ac fe fwynheais y cyfle i archwilio’n ddyfnach i agwedd arbennig ar yr iaith Saesneg. Mae’r wybodaeth a gefais ar y cwrs gradd yn ddefnyddiol iawn wrth imi archwilio ac addysgu Saesneg. Mae astudio ar lefel gradd, ysgrifennu aseiniadau a dysgu sut i ymchwilio yn enwedig wedi bod yn amhrisiadwy wrth imi astudio ar lefel ôl-radd.
Samantha, Iaith Saesneg: 2008-2011
Bu fy nghwrs gradd ym Mhrifysgol Abertawe yn fuddiol iawn imi ac yn help imi gael lle ar gwrs Therapi Lleferydd ac Iaith. Mae nifer o’r modiwlau a astudiais yn debyg iawn i’r modiwlau y byddaf yn eu hastudio ym mis Medi, felly bydd hyn yn fantais fawr imi. Rwy’n credu hefyd bod cael gradd Iaith Saesneg wedi helpu imi gael lle ar y cwrs Therapi Lleferydd ac Iaith gan fod lleoedd yn brin iawn ac mae cryn gystadleuaeth amdanynt.
Daniel, Iaith Saesneg: 2008-2011
Fe roddodd Prifysgol Abertawe sylfaen gadarn imi ar gyfer astudio ymhellach. Fe wnaeth cefnogaeth y darlithwyr, yr adnoddau gwych, oriau agor y llyfrgell a chynnwys heriol y cwrs, fy ngwneud yn fyfyriwr gwell o lawer. Mae cyflogwyr yn rhoi pwysau mawr ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar ac roedd fy ngradd Iaith Saesneg BA yn helpu i feithrin y sgiliau hynny. Mae gradd Iaith Saesneg y rhoi cymwysterau craidd i fyfyrwyr ac y mae’r rhain yn werthfawr i gyflogwyr ac maen nhw hefyd yn agor y drws i gyfleoedd gyrfa mewn nifer o sectorau. Rwyf yn awr yn fyfyriwr y gyfraith mynediad graddedig ym Mhrifysgol Caerdydd ac rwy’n gobeithio ymgymhwyso i fod yn gyfreithiwr.
Alexandra, Iaith Saesneg
Rwy’n cofio fy ymweliad cyntaf â Phrifysgol Abertawe… yr hyn a’m trawodd i yn gyntaf oedd lleoliad syfrdanol y campws, yn swatio yng nghanol parc hyfryd Singleton ac yn edrych allan dros Fae Abertawe. Lleoliad sy’n wirioneddol ysbrydoli rhywun! Ac roeddwn hefyd yn hoffi’r syniad o un campws gyda’r holl wasanaethau a phopeth roedd eu hangen arnoch mewn un lle. Pan ddechreuais weithio ar fy rhaglen, yn sicr chefais i ddim fy siomi: roedd pob darlithydd yn wybodus, yn hawdd mynd atynt, yn gyfeillgar a bob amser yn barod i helpu. Roedd yr amserlen astudio yn ddwys, ond roeddwn yn cael fy ngrymuso wrth ddechrau dysgu am wahanol agweddau ar ieitheg, a gweld sut y mae’r cyfan yn dod at ei gilydd yn y darlun mawr. Am foddhad! Bydd gan Abertawe le arbennig yn fy nghalon am byth. Rwyf nawr yn athrawes Iaith Saesneg gyflogedig.
Dyfyniadau anhysbys
Ni allaf ddychmygu gwell adran i astudio ynddi hi. Mae staff y cwrs Ieitheg Gymhwysol nid yn unig yn meddu ar arbenigedd academaidd a sgiliau addysgu eithriadol, ond maen nhw hefyd yn gyfeillgar ac yn hawdd mynd atynt ac mae ganddyn nhw ddiddordeb personol yn lles eu myfyrwyr.
Cynlluniwyd ein dosbarthiadau ni fod yn ddiddorol, i roi mwynhad ac i herio’r farn gyhoeddus. Diweddarwyd cynnwys y cwrs ym mhob modiwl yn flynyddol i sicrhau ein bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â newidiadau mewn ymchwil a theorïau, ac roedd hyn yn golygu nad oedd y dosbarthiadau’n ddiflas o gwbl. Fe wnaeth fy niddordeb yn y pwnc imi benderfynu’n gyflym iawn i ddilyn gyrfa mewn Therapi Lleferydd, ac yn y flwyddyn olaf fe gefais gyfle hyd yn oed i ysgrifennu papurau ar bynciau yr oedd gennyf ddiddordeb arbennig ynddynt. Er enghraifft, roeddwn yn gallu cyfuno fy niddordeb mawr mewn ieitheg â fy ngwaith gwirfoddol gyda phlant awtistig gan weld sut y mae plentyn awtistig yn dirnad cyffelybiaeth, trosiad ac eironi.
Un o’r pethau yr oeddwn yn ei werthfawrogi ynghylch Ieitheg Gymhwysol oedd ei faint; roedd ein grwpiau darlith bach yn golygu y des i’n rhan o grŵp o ffrindiau agos yn gyflym, ac yn bendant roeddech chi’n fwy na dim ond rhif myfyriwr arall yng ngolwg y staff. Mae Astudiaethau Iaith Saesneg yn bendant yn un o’r graddau hynny sy’n caniatáu ichi weithredu’r hyn a ddysgoch chi mewn bywyd bob dydd – a dydi hynny ddim yn rhywbeth gall llawer iawn o raddedigion prifysgol ei ddweud gyda hyder. Cefais dair blynedd ddiddorol ac ysbrydoledig gydag Ieitheg Gymhwysol, ac mae gennyf fi edmygedd mawr tuag at y staff a’r myfyrwyr a helpodd i wneud fy mhrofiad yn y brifysgol yn brofiad mor werthfawr.